BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 Rhif 1513 (Cy.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051513w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1513 (Cy.117)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

RHAN 2

GORCHMYNION GWARCHEIDIAETH ARBENNIG  -  ADRODDIADAU
2. Adroddiadau

RHAN 3

GWASANAETHAU CYMORTH GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
3. Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
4. Amgylchiadau pan ellir talu cymorth ariannol
5. Asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
6. Y weithdrefn asesu
7. Cymorth ariannol  -  swm
8. Hysbysu'r asesiad
9. Penderfynu o ran gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
10. Hysbysiadau
11. Cynllun gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
12. Adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig

RHAN 4

DARPARIAETHAU AMRYWIOL O RAN GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
13. Awdurdod perthnasol at ddibenion adrannau 24(5)(za) o'r Ddeddf
14. Swyddogaethau a bennir o dan adran 26(3C) o'r Ddeddf

  YR ATODLEN Adroddiadau  -  materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14A(8)(b), 14F, 24(5)(za), 26(3C) a 104 o Ddeddf Plant 1989[
1][2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

a dehonglir cyfeiriadau at "blant perthnasol" yn unol â hynny.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad  - 



RHAN 2

GORCHMYNION GWARCHEIDIAETH ARBENNIG  -  ADRODDIADAU

Adroddiadau
     2. Mae'r materion a bennir yn yr Atodlen yn rhagnodedig at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf[7].



RHAN 3

GWASANAETHAU CYMORTH GWARCHEIDIAETH ARBENNIG

Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
     3.  - (1) At ddibenion adran 14F(1)(b) o'r Ddeddf[8], rhagnodir y gwasanaethau canlynol o ran gwarcheidiaeth arbennig - 

    (2) Nid yw'r ffaith bod person y tu allan i ardal awdurdod lleol yn rhwystro gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig rhag cael eu darparu iddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.

    (3) Rhagnodir y canlynol at ddibenion adran 14F(9)(b) o'r Ddeddf - 

Amgylchiadau pan ellir talu cymorth ariannol
     4.  - (1) Gellir talu cymorth ariannol i warcheidwad arbennig neu i ddarpar warcheidwad arbennig dim ond yn yr achosion canlynol - 

    (2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol o dan y rheoliad hwn oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei gwneud yn ofynnol i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig ("y gwarcheidwad") ymgymryd â'r canlynol - 

Asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol, ar gais, gyflawni asesiad o anghenion y personau canlynol am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, sef - 

ac, yn unol â hynny, rhagnodir y personau yn is-baragraffau (b) i (dd) at ddibenion adran 14F(3)(d) o'r Ddeddf.

    (2) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys oni bai - 

    (3) Caniateir i asesiad o anghenion person ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol - 

Y weithdrefn asesu
    
6.  - (1) Wrth wneud asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, rhaid i awdurdod lleol - 

    (2) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig - 

Cymorth ariannol  -  swm
    
7.  - (1) Wrth benderfynu ar unrhyw gymorth ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ystyried  - 

    (2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol i fodloni unrhyw anghenion i'r graddau y gellir yn rhesymol fodloni'r anghenion hynny yn rhinwedd taliad unrhyw fudd-dâl (gan gynnwys credyd treth) neu lwfans.

    (3) Ac eithrio pan fydd paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol beidio â chynnwys unrhyw elfen o gydnabyddiaeth ar gyfer gofal am blentyn perthnasol.

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys - 

Hysbysu'r asesiad
    
8.  - (1) Ar ôl gwneud asesiad o dan reoliad 6, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliad 10 - 

    (2) Dyma'r wybodaeth a bennir  - 

    (3) Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (1) yr hawl i wneud sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol yn yr hysbysiad hwnnw.

    (4) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan reoliad 9 hyd nes - 

Penderfynu o ran gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
    
9.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan roi sylw i'r asesiad, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod a bennir o dan reoliad 8 - 

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (1), a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, yn unol â rheoliad 10.

    (3) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (2) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol i roi hysbysiad.

    (4) Bydd paragraffau (5) i (10) yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu y telir cymorth ariannol.

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a hysbysu yn unol â rheoliad 10 - 

    (6) Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (2) hefyd gynnwys gwybodaeth o ran - 

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid talu'r y cymorth ariannol fel taliad unigol.

    (8) Caiff y person y telir y cymorth ariannol iddo a'r awdurdod lleol gytuno y telir y cymorth - 

ar a than y dyddiadau hynny y caiff yr awdurdod lleol eu pennu.

    (9) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod y cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion sy'n debygol o beri gwariant sy'n debygol o ddal i ddigwydd, caiff benderfynu y telir y cymorth ariannol - 

ar a than y dyddiadau hynny y caiff yr awdurdod lleol eu pennu.

    (10) Caiff yr awdurdod lleol osod yr amodau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol wrth dalu cymorth ariannol, a chaiff gynnwys amodau - 

Hysbysiadau
    
10.  - (1) Rhaid rhoi unrhyw wybodaeth y mae ei hangen, neu hysbysiad y mae ei angen, o dan reoliadau 8, 9 a 12, yn ysgrifenedig ac - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys  - 

Cynllun gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
    
11.  - (1) Yr amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 14F(6)(b) o'r Ddeddf yw bod yr awdurdod lleol yn penderfynu darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i berson fwy nag unwaith.

    (2) Os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol, at ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol - 

a rhaid i ymgynghori o'r fath gynnwys trafodaeth o ran pryd y dylid adolygu'r cynllun.

    (3) Pan ymddengys i'r awdurdod lleol y gallai fod angen darparu gwasanaethau i'r person y bydd y cynllun yn ymwneud ag ef gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r Bwrdd hwnnw, yr Ymddiriedolaeth honno neu'r awdurdod hwnnw, er mwyn paratoi'r cynllun.

    (4) Rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu copi o'r cynllun - 

Adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
    
12.  - (1) Os bydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person nad ydynt yn cynnwys cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod adolygu'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny - 

    (2) Pan fydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person a'r gwasanaethau'n golygu, neu'n cynnwys, cymorth ariannol, rhaid iddo adolygu darpariaeth o'r gwasanaethau hynny - 

    (3) Mae rheoliadau 6 i 8 yn gymwys gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 5.

    (4) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar ôl rhoi sylw i'r adolygiad ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gafwyd o fewn y cyfnod a bennir o dan reoliad 8 - 

    (5) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu derfynu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, neu adolygu'r cynllun - 

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 9(10), caiff awdurdod lleol - 

    (7) Os yr amod na chydymffurfiwyd ag ef yw'r un i ddarparu datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2), rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (6) hyd nes - 

    (8) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (6), ar ôl cymryd y camau a bennir ym mharagraff (7), y dylid atal talu'r cymorth ariannol, caiff ddod â'r ataliad i ben pan ddaw'r datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(b) i law.

    (9) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â thalu cymorth ariannol a bydd hynny'n effeithiol o'r dyddiad y daw'n ymwybodol bod yr amgylchiadau ym mharagraff (10) yn gymwys.

    (10) Dyma'r amgylchiadau - 



RHAN 4

DARPARIAETHAU AMRYWIOL O RAN GWARCHEIDIAETH ARBENNIG

Awdurdod perthnasol at ddibenion adrannau 24(5)(za) o'r Ddeddf
     13. At ddibenion adran 24(5)(za) o'r Ddeddf (personau sy'n gymwys i gael cyngor a chymorth), yr awdurdod perthnasol yw'r awdurdod lleol diwethaf lle bu'r person yn derbyn gofal.

Swyddogaethau a bennir o dan adran 26(3C) o'r Ddeddf
    
14. Mae'r swyddogaethau canlynol o dan adran 14F o'r Ddeddf yn rhai a bennir at ddibenion adran 26(3C) o'r Ddeddf (adolygu achosion ac ymholiadau i sylwadau  -  gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 2


Adroddiadau  -  materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf


     1. Rhagnodwyd y materion canlynol at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf.

     2. O ran plentyn y gwneir cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel "y plentyn") - 

     3. O ran teulu'r plentyn - 

     4. Mewn perthynas â'r darpar warcheidwad arbennig neu, pan fydd dau berson neu fwy yn ddarpar warcheidwaid arbennig ar y cyd, pob un ohonynt - 

     5. Mewn perthynas â'r awdurdod lleol a luniodd yr adroddiad - 

     6. O ran y casgliadau yn yr adroddiad - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran gwarcheidiaeth arbennig. Mewnosodwyd darpariaethau ar gyfer gwarcheidiaeth arbennig yn Neddf Plant 1989 ("y Ddeddf") gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n rhagnodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymdrin â hwy mewn adroddiad i'r llys a gafodd ei baratoi yn unol ag adran 14A(8) o'r Ddeddf pan fydd yr awdurdod yn cael hysbysiad o gais person am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o dan adran 14A(3) neu (6) o'r Ddeddf neu os gofynnodd llys iddo gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Diffinnir gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gan adran 14F(1) o'r Ddeddf fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau, mewn perthynas â gwarcheidiaeth arbennig. Rhagnodir y gwasanaethau hynny yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 4 yn pennu'r amgylchiadau pan ganiateir talu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar ffurf cymorth ariannol.

Mae rheoliad 5 yn pennu'r personau sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Mae rheoliad 6 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer asesiad ac mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer penderfynu swm y cymorth ariannol.

Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 8 o unrhyw wasanaethau cefnogi gwarcheidiaeth arbennig y mae'n bwriadu eu darparu ac am y cyfnod pan ganiateir gwneud sylwadau am y cynnig. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol benderfynu a oes unrhyw wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i gael eu darparu ac ar gyfer hysbysu'r penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi gwybodaeth a gwneud hysbysiadau.

Os yw gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i'w darparu i berson, mae rheoliad 11 yn darparu i'r awdurdod lleol baratoi cynllun y mae'r gwasanaethau i'w darparu yn unol ag ef. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu'r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ac ar gyfer adolygu'r cynllun.

Mae rheoliad 13 yn gweud darpariaeth mewn cysylltiad â chyngor a chymorth ar gyfer personau a oedd yn arfer bod yn destun gwarcheidiaeth arbennig ac mae rheoliad 14 yn gweud darpariaeth mewn cysylltiad â sylwadau (gan gynnwys cwynion) am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mewnosodwyd adrannau 14A a 14F o'r Ddeddf gan adran 115(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Mewnosodwyd adran 24(5)(za) o'r Ddeddf gan adran 139(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 60(c) o Atodlen 3 iddi. Mewnosodwyd Adran 26(3C) o'r Ddeddf gan adran 117(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43). Gweler adran 105(1) o'r Ddeddf i gael ystyr "prescribed".back

[2] Rhoddwyd y pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod o ran y Ddeddf yn yr Atodlen iddo yn darparu bod swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru. Mae adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac adran 197(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn darparu bod cyfeiriadau at y Ddeddf yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau ati fel y'i diwygiwyd gan Ddeddfau 2002 a 2003 yn eu trefn.back

[3] 2000 p.14.back

[4] O.S. 2003/237.back

[5] 1996 p.56.back

[6] 2002 p.38.back

[7] Mae adran 14A(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, ar ôl i hysbysiad ddod i law o dan adran 14A(7) o fwriad person i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, i ymchwilio'r mater a pharatoi adroddiad ar gyfer y llys. Mae adran 14A(9) hefyd yn caniatáu i'r llys ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad. Mae adran 14A(8)(b) yn darparu bod yn rhaid i'r adroddiad ymdrin â'r materion hynny a ragnodwyd.back

[8] Mae adran 14F(1) o'r Ddeddf yn darparu: "Each local authority must make arrangements for the provision within their area of special guardianship support services, which means: (a) counselling, advice and information; and (b) such other services as are prescribed, in relation to special guardianship".back

[9] 1992 p.4.back

[10] 1995 p.18.back

[11] 1998 p.38.back

[12] 2002 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091149 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051513w.html