BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1628 (Cy.122)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051628w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1628 (Cy.122)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 24 Mehefin 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn —

Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[4] yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o "Directive 95/45/EC"[5], yn lle'r geiriau "and Directive 2001/50/EC" rhodder y geiriau —

    (3) Yn rheoliad 13 (darpariaeth drosiannol ac esemptiad) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff canlynol —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC[
9] sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC[10]. Maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio ymhellach Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[11]. Mae'r Rheoliadau yn—

Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos pan fo ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back

[4] O.S. 1995/3124, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back

[5] Diwygiwyd y diffiniad o "Directive 95/45/EC" gan O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back

[6] Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/50/EC 3 Gorffennaf 2001 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.14).back

[7] Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC 16 Ebrill 2004 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC o ran carotenau cymysg (E160 a (i)) a beta-caroten (E160 a (ii)) (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24).back

[8] 1998 p.38.back

[9] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.back

[10] Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC 26 Gorffennaf 1995 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L226, 22.9.1995, t.1).back

[11] O.S. 1995/3124, y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back



English version



ISBN 0 11 091151 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 21 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051628w.html