[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1722 (Cy.134)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
28 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" ("2003 Regulations") yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003[2].
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
2.
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —
3.
Mewnosodir y geiriau "yn bartner sifil," ar ôl y geiriau "yn briod," yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
4.
Rhodder y testun a ganlyn yn lle rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 —
5.
Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005
ATODLENRheoliad 4
ATODLEN NEWYDD I REOLIADAU CYFRIFON DYSGU UNIGOL CYMRU 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 ("Rheoliadau 2003") yn y ddwy ffordd ganlynol.
Mewnosodir y term "partner sifil" yn Rheoliadau 2003. O ganlyniad i hynny, mae partner sifil yn gyfartal â phriod, plentyn neu lysblentyn o ran cymhwyster o dan reoliad 4 o Reoliadau 2003. Diffinnir "civil partner" yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.
Diwygir rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 i wneud personau sy'n cael budd-daliadau neu lwfansau penodedig, neu'u dibynyddion, yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Unigol Cymru, ni waeth pa lefel o addysg y maent wedi'i chyrraedd. Mewnosodir Atodlen yn Rheoliadau 2003 sy'n pennu pa fudd-daliadau a lwfansau sy'n gymwys.
Notes:
[1]
2000 p.21.back
[2]
O.S. 2003/918 (Cy.119).back
[3]
2004 p.33.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091160 1
© Crown copyright 2005
Prepared
5 July 2005
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051722w.html