BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1723 (Cy.135)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051723w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1723 (Cy.135)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 28 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

    (2) Yn y rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     2. Diwygier rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongliad) fel a ganlyn—

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
     3. Yn rheoliad 4(2)(e) o'r prif Reoliadau (personau â hawl i beidio â thalu dim a thaliad llawn) yn lle "£14,600" rhodder "£15,050".

Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 6(2)(b) o'r prif Reoliadau (cyfrifo adnoddau a gofynion) yn lle'r geiriau "at the date when he paid the relevant charge or travelling expenses" rhodder "at the date when the relevant charges or travelling expenses are paid in full".

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
    
5. —(1) Diwygier rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ar ôl paragraff (6)(d) mewnosoder—

    (3) Ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

    (4) Ym mharagraff (7) yn lle'r geiriau "paragraph (8)" rhodder "paragraphs (7A), (8), (9) and (10)".

    (5) Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

    (6) Ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
6. —(1) Diwygier Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (cyfrifo adnoddau) fel a ganlyn.

    (2) Diwygier Tabl A (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn—


Diwygio Rhan II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
7. —(1) Diwygier Rhan II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Cyfrifo gofynion) fel a ganlyn.

    (2) Diwygier Tabl B (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan II o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn—


Darpariaeth drosiannol
    
8. Ni ddyroddir hysbysiad o hawl sy'n dod o fewn rheoliad 7(6B) ond yn unig o ran hawliad a wnaed o dan reoliad 7 (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad) a dderbynnir ar neu ar ôl 15 Gorffennaf 2005.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ("GIG") ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.

O ran hawl personau eraill nad oes ganddynt hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio, cyfrifir yr hawl yn unol â'r darpariaethau sydd yn y prif Reoliadau. Mewn achosion o'r fath, cyfrifir incwm, cyfalaf a gofynion yr hawlydd (a rhai teulu'r person hwnnw, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn diwygio'r prif Reoliadau i gynyddu'r symiau a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i beidio â thalu taliadau'r GIG a chael taliadau treuliau teithio.

Mae rheoliad 5 yn estyn i 5 mlynedd gyfnod dilysu hysbysiad o hawl i beidio â thalu a chael taliadau treuliau teithio pan ddyroddir yr hysbysiad i berson sengl 65 oed neu drosodd, neu i un o gwpl pan fo un partner yn 60 oed neu drosodd a bod y partner arall yn 65 oed neu drosodd pan nad oes gan yr hawlydd fathau penodol o incwm neu blentyn dibynnol neu bobl ifanc ar eu haelwyd.

Mae'r diwygiadau a wneir yn rheoliad 6 yn darparu bod yr enillion a ddiystyrir ac a nodir yn Atodlen 8 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 i'w cymhwyso i berson sengl 60 oed neu drosodd ac i gwpl pan fo un neu ddau o'r partïon yn 60 oed neu drosodd. Yn ychwanegol, caiff y rhieni unigol hynny sy'n 60 oed neu drosodd eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r symiau a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 a chaiff y rhieni unigol hynny o dan 60 eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r swm a ragnodwyd ac a bennir yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.


Notes:

[1] 1977 p.49 ("Deddf 1977"); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49); gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).

Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.17) ("Deddf 199").

Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5); gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (p.15), adran 68(1); gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran197(1).
back

[2] O.S. 1988/551back

[3] 1992 p.4.back

[4] O.S. 1987/1967back

[5] 1993 p.48back

[6] 1993 p.49back

[7] O.S. 2002/1792back

[8] 1995 p.18back

[9] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091161 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 5 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051723w.html