BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1808 (Cy.139)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[1] ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau diwygiedig y taliad colli cartref
2.
Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
(a) £38,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
(b) £3,800 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
(c) £3,800 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbed
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004[3].
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson sydd wedi'i ddadleoli drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 1991.
Pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £34,000 i £38,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £3,400 i £3,800. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £3,400 i £3,800.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sydd wedi'u newid ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth marchnad buddiant y person sydd wedi'i ddadleoli yn yr annedd.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2005 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent wedi'u dirymu.
Notes:
[1]
1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34 yn effeithiol o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3).back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
O.S. 2004/1758 (Cy.189).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091163 6
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
12 July 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051808w.html