BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005 Rhif 1816 (Cy.145)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051816w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1816 (Cy.145)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 51B o Ddeddf Tai 1996[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn —

Materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt
     3. Mae'r canlynol yn faterion y caniateir gwneud cwynion amdanynt i OTCC yn unol â'r Rheoliadau hyn:

Y seiliau y mae mater yn cael ei eithrio rhag ymchwiliad o'u herwydd
    
4. —(1) Ni chaiff OTCC ymchwilio i'r canlynol:

    (2) Ni chaiff OTCC ymchwilio i fater os oes neu os oedd rhwymedi gan yr achwynydd drwy reithdrefnau mewn llys cyfraith, oni fydd OTCC wedi'i fodloni, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw'n rhesymol disgwyl i'r achwynydd gyrchu, neu ddisgwyl ei fod wedi cyrchu, rhwymedi drwy lys.

    (3) —

    (4) Nid yw paragraffau (1) i (3) yn atal OTCC rhag ymchwilio i gamau a gymerwyd gan landlord cymdeithasol i weithredu gweithdrefn a sefydlwyd i ymchwilio i gwynion neu i adolygu penderfyniadau.

Disgrifiad o unigolyn a gaiff gwyno
    
5. —(1) Dyma'r personau sy'n cael cwyno:

    (2) OTCC sydd i benderfynu unrhyw gwestiwn a oes gan berson hawl o dan y rheoliad hwn i gwyno.

Pŵer OTCC i ymchwilio i gŵyn a wnaed
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5 caiff OTCC ymchwilio i gŵyn os gwnaed y gŵyn gan neu ar ran achwynydd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid gwneud cwyn yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion y cwynir amdanynt.

    (3) Nid oes angen cwyno'n ysgrifenedig os yw OTCC wedi'i fodloni bod amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r gŵyn gael ei gwneud ar lafar.

    (4) Rhaid gwneud cwyn i OTCC cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth yr achwynydd yn ymwybodol yn gyntaf o'r materion a honnwyd yn y gŵyn, ond caiff OTCC hepgor y gofyniad hwn os yw OTCC o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) caiff OTCC:

    (6) Os bydd OTCC yn unol â pharagraff (5) yn penderfynu peidio ag ymchwilio neu'n penderfynu dirwyn ymchwiliad i ben, rhaid i OTCC baratoi datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (7) Rhaid i OTCC anfon copi o'r datganiad at:

    (8) Os bydd datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau a baratowyd o dan baragraff (6) –

rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r datganiad o'r rhesymau a anfonir at berson o dan baragraff (7), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (9).

    (9) Nid yw paragraff (8) yn gymwys o ran fersiwn o'r datganiad o'r rhesymau os bydd OTCC, ar ôl pwyso a mesur buddiannau'r achwynydd a buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae OTCC yn meddwl eu bod yn briodol, yn barnu y byddai cynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o'r datganiad o'r rhesymau er lles y cyhoedd.

Y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth gynnal ymchwiliadau
    
7. —(1) Os bydd OTCC yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, rhaid i OTCC:

    (2) Rhaid cynnal ymchwiliad yn unol â'r Rheoliadau hyn yn breifat.

    (3) Mae'r weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad i fod yn weithdrefn y mae OTCC yn ystyried ei bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos.

    (4) At ddibenion ymchwiliad caiff OTCC ofyn i'r landlord cymdeithasol ac unrhyw berson yr ystyrir ei fod yn gallu rhoi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy'n berthnasol i'r ymchwiliad i wneud hynny.

    (5) At ddibenion ymchwiliad caiff OTCC ofyn:

    (6) Bydd methu â chydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) yn golygu y caiff OTCC ddod i'r casgliadau y bydd yn barnu eu bod yn briodol.

    (7) Caiff OTCC ofyn i unrhyw berson a ystyrir yn briodol ddarparu unrhyw gyfleuster y mae ei angen yn rhesymol at ddibenion ymchwiliad.

Penderfynu
    
8. —(1) Ar ôl cwblhau ymchwiliad i gŵyn, rhaid i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig ynglŷn â hi.

    (2) Os bydd OTCC mewn penderfyniad yn casglu bod yr achwynydd wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater yr ymchwilir iddo, rhaid i'r landlord cymdeithasol ystyried y penderfyniad ac unrhyw argymhellion sydd ynddo a hysbysu OTCC yn ysgrifenedig cyn diwedd cyfnod o un mis ar ôl y dyddiad y daw'r penderfyniad i law'r landlord cymdeithasol (neu unrhyw gyfnod hwy y caiff OTCC ei ganiatáu'n ysgrifenedig) o'r canlynol:

    (3) Os na fydd OTCC wedi cael yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2) cyn diwedd y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, neu os bydd wedi cael yr hysbysiad ond nad yw'n fodlon naill ai:

caiff OTCC baratoi adroddiad arbennig yn unol â pharagraff (4).

    (4) Rhaid i adroddiad arbennig gynnwys y canlynol:

    (5) Os yw penderfyniad neu adroddiad arbennig –

rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan reoliad 11(1), neu a gyhoeddir o dan reoliad 11(2), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (6).

    (6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys o ran fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig os yw OTCC, ar ôl cymryd i ystyriaeth fuddiannau'r achwynydd ac unrhyw bersonau eraill y mae OTCC yn meddwl eu bod yn briodol, yn barnu y byddai er lles y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig.

Dulliau amgen o ddatrys anghydfod
    
9. —(1) Caiff OTCC gymryd unrhyw gamau y mae'n ystyried sy'n briodol er mwyn datrys cwyn y mae gan OTCC bŵer i ymchwilio iddi o dan reoliad 6.

    (2) Caiff OTCC gymryd unrhyw gamau o dan y rheoliad hwn yn ogystal â chynnal ymchwiliad i'r gŵyn neu yn lle ei gynnal.

    (3) Rhaid cymryd unrhyw gamau o dan y rheoliad hwn yn breifat.

Ymgynghori a chydweithredu â phersonau eraill
    
10. Caiff OTCC ymghynghori ag unrhyw un a all fod o gymorth mewn ymchwiliad a gofyn bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yr ystyrir eu bod yn berthnasol i'r ymchwiliad yn cael eu dangos at ddibenion yr ymchwiliad.

Dull cyfathrebu a chyhoeddi'r penderfyniadau a'r adroddiadau arbennig
    
11. —(1) Pan fydd penderfyniad wedi'i wneud yn unol â rheoliad 8(1) neu pan fydd adroddiad wedi'i baratoi o dan reoliad 8(4), rhaid i OTCC anfon copi o'r penderfyniad neu'r adroddiad hwnnw at y canlynol:

    (2) Caiff OTCC gyhoeddi penderfyniad neu adroddiad arbennig ar unrhyw gŵyn, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, os yw OTCC o'r farn, ar ôl pwyso a mesur buddiannau'r achwynydd a buddiannau unrhyw berson arall y mae OTCC yn ystyried sy'n briodol, ei fod er lles y cyhoedd i wneud hynny.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae adran 228 o Ddeddf Tai 2004 yn mewnosod adran 51B (Ymchwilio i gwynion) yn Neddf Tai 1996 ("Deddf 1996"). Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 51B o Ddeddf 1996 ac maent yn gwneud darpariaeth ynglyn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru ("OTCC") i gwynion a wnaed yn erbyn landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru fel y diffinnir "social landlords in Wales"; yn adran 51C(1) o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf 1996 y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru yw OTCC hefyd.

Mae rheoliad 3 yn nodi'r materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt. Mae rheoliad 4 yn nodi ar ba sail y caniateir eithrio mater rhag ymchwiliad. Mae rheoliad 5 yn pennu unigolion a gaiff gwyno. Mae rheoliad 6 yn nodi pŵer OTCC i ymchwilio i gŵyn. Ymdrinnir â'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth gynnal ymchwiliadau yn rheoliad 7. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig o ran cwyn. Mae rheoliad 9 yn cynnwys darpariaeth i OTCC atgyfeirio cwynion at ddull amgen priodol i ddatrys anghydfod. Mae rheoliad 10 yn ymdrin ag ymgynghori a chydweithredu â phersonau eraill. Mae rheoliad 11 yn nodi dull cyfathrebu a chyhoeddi penderfyniadau ac adroddiadau arbennig.


Notes:

[1] 1996 p.52. Mewnosodwyd adran 51B gan adran 228 o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Daw adran 51B i rym ar 14 Mehefin 2005 drwy O.S. 2005/1814 (Cy.144)(C.75)[a].back

[2] 1996 p. 52. Gweler adran 51C(1)back

[3] Gweler adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf Tai 1996 (p.52) — bydd y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru hefyd yn Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru.back

[4] 1998 p.38.back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, troednodyn (1); dylai'r ail frawddeg ddarllen fel "Daw adran 228 o Ddeddf Tai 2004 i rym ar 14 Gorffennaf 2005 drwy O.S. 2005/1814 (Cy.144) (C.75).". back



ISBN 0 11 091168 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 13 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051816w.html