BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 Rhif 1910 (Cy.153)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051910w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1910 (Cy.153)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 21(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

Dyletswydd corff perthnasol i adolygu strwythur staffio ysgol
     3. —(1) Rhaid i'r corff perthnasol adolygu strwythur staffio'r ysgol yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r corff perthnasol gynnal yr adolygiad er mwyn sicrhau bod —

yn defnyddio'i adnoddau yn effeithiol.

    (3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried —

    (4) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth yn unol â rheoliad 4 isod.

    (5) Yn ystod y cyfnod y cynhelir yr adolygiad rhaid i'r corff perthnasol ymghynghori â'r canlynol —

    (6) Cyn neu ar 31 Mawrth 2006 rhaid i'r corff perthnasol —

    (7) Rhaid i gynllun gweithredu gynnwys —

    (8) Os y corff llywodraethu yw'r corff perthnasol, mae'r ddyletswydd i adolygu strwythur staffio'r ysgol heb ragfarnu egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau'r cyrff llywodraethu a'r penaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000[5].

Dyletswydd y pennaeth i gynghori cyrff perthnasol
     4. Rhaid i'r pennaeth gynghori a chynorthwyo'r corff perthnasol ynglŷn â'i adolygiad o'r strwythur staffio o dan reoliad 3.

Dyletswydd corff perthnasol o ran rheoli'r pennaeth
    
5. Wrth reoli'r pennaeth, rhaid i'r corff perthnasol roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.

Dyletswydd awdurdod addysg lleol o ran unedau cyfeirio disgyblion
    
6. Mae paragraffau (1) i (7) o reoliad 3, a rheoliadau 4 a 5 yn gymwys o ran unedau cyfeirio disgyblion gan roi yn lle'r cyfeiriadau at y corff perthnasol cyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol sy'n sefydlu ac yn cynnal yr uned cyfeirio disgyblion.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig, ac ar awdurdod addysg lleol o ran ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned cyfeirio disgyblion, i adolygu'r trefniadau staffio yn yr ysgol neu'r uned cyfeirio disgyblion. Diben yr adolygiad yw sicrhau bod rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol (neu'r uned cyfeirio disgyblion) a dyrannu cyfrifoldebau iddynt yn defnyddio adnoddau'n effeithiol. Wrth gynnal yr adolygiad rhaid i'r corff llywodraethu neu'r AALl ystyried y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon ysgol a nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau, a hefyd y goblygiadau ar gyfer graddio a thaliadau i staff cymorth. Rhaid penderfynu ar yr adolygiad a pharatoi cynllun gweithredu ar neu cyn 31 Mawrth 2006.

Nid yw'r ddyletswydd sydd ar gyrff llywodraethu i gynnal adolygiad o strwythur staffio yn effeithio ar yr egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar yr un cyrff i roi sylw i'r angen fod y pennaeth, neu'r athro neu'r athrawes â gofal yn achos uned cyfeirio disgyblion, yn mwynhau cydbwysedd rhesymol mewn gwaith a bywyd.


Notes:

[1] 2002 p.32; i gael ystyr "regulations" gweler adran 212(1).back

[2] 1996 p.56.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[4] Y Ddogfen sydd yn effeithiol ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud yw'r un a gyhoeddir gan The Stationery Office Limited (ISBN 0-11-2711-634) ac sy'n dwyn y teitl "School Teachers' Pay and Conditions Document 2004 and Guidance on School Teachers' Pay and Conditions" sydd yn effeithiol yn unol â Gorchymyn Addysg (Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol) (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/2142 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/539 a 2005/1101) a wnaed o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002.back

[5] O.S. 2000/3027 (Cy.195) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy.138).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091175 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 20 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051910w.html