BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005 Rhif 2680 (Cy.186) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052680w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 27 Medi 2005 | ||
Yn dod i rym | 28 Medi 2005 |
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os gosodwyd cyfamod hawl cynnig cyntaf mewn perthynas â thŷ annedd a leolir yng Nghymru.
Darpariaethau gweithredol ar gyfer eiddo lesddaliadol a rhydd-ddaliadol
2.
—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant y perchennog yn yr eiddo.
(2) Os bydd gan y perchennog fuddiant lesddaliadol rhaid i'r perchennog gydymffurfio â gofynion rheoliad 3.
(3) Os bydd gan y perchennog fuddiant rhydd—ddaliadol rhaid i'r perchennog gydymffurfio â gofynion rheoliad 4.
Cyflwyno hysbysiad cynnig — eiddo lesddaliadol
3.
Rhaid i'r perchennog gyflwyno hysbysiad cynnig—
Cyflwyno hysbysiad cynnig — eiddo rhydd-ddaliadol
4.
Rhaid i'r perchennog gyflwyno hysbysiad cynnig—
Cydnabod cael hysbysiad cynnig
5.
—(1) Rhaid i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig o dan naill ai reoliad 3 neu 4 anfon cydnabyddiaeth at y perchennog ei fod wedi ei gael cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i'r gydnabyddiaeth ei fod wedi cael yr hysbysiad—
Hysbysiadau derbyn
6.
—(1) Os bydd y sawl sy'n cael hysbysiad cynnig yn dymuno derbyn y cynnig, rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 8 wythnos sy'n dechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad.
(2) Os derbynnir cynnig rhaid gwneud hynny drwy hysbysiad derbyn, ac ynddo rhaid i'r sawl sy'n cael yr hysbysiad cynnig naill ai—
(3) Nid yw cyflwyno hysbysiad derbyn gan unrhyw berson sydd â'r hawl i wneud hynny yn rhoi unrhyw hawl i berchennog yr eiddo i'w gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw brynu'r eiddo oni fydd ac hyd nes y bydd y person hwnnw'n ymrwymo i gontract cyfrwymol i werthu yn unol â rheoliad 10.
Hysbysiadau gwrthod
7.
—(1) Rhaid i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig gyflwyno hysbysiad gwrthod cyn gynted â'i fod wedi penderfynu nad yw'n dymuno naill ai—
(2) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad gwrthod o fewn 8 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad cynnig.
Enwebu person arall i dderbyn cynnig
8.
—(1) Caiff y sawl sy'n cael hysbysiad cynnig enwebu person arall i dderbyn y cynnig.
(2) Yr unig bersonau y gellir eu henwebu i dderbyn cynnig yw'r personau hynny sydd naill ai—
(3) Cyn y gellir enwebu person i dderbyn cynnig penodol, rhaid bod y person hwnnw wedi dangos yn ddiamwys yn ysgrifenedig i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig ei fod yn dymuno cael ei enwebu i dderbyn y cynnig.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r ymadrodd "yn ysgrifenedig" yn cynnwys dogfen a drosglwyddwyd gan ffacs neu fodd electronig arall.
Gwaredu eiddo a gofyniad am hysbysiad cynnig pellach
9.
—(1) Os bydd perchennog wedi cyflwyno hysbysiad cynnig a bod y sawl sy'n ei gael—
yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y perchennog waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda; ac fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw warediad o'r eiddo ar ôl hynny gan y perchennog.
(2) Os bydd y perchennog, ar ôl i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben, fel y penderfynwyd yn unol â pharagraffau (3) neu (4) fel y bo'n briodol, yn cadw'r buddiant yn yr eiddo, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os bydd gwarediad o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 2(1).
(3) Yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a), mae'r cyfnod o 12 mis yn dechrau drannoeth y diwrnod pan ddaw'r cyfnod o 8 wythnos i ben.
(4) Yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b), mae'r cyfnod o 12 mis yn dechrau drannoeth y diwrnod pan gyflwynwyd yr hysbysiad gwrthod.
Terfyn amser ar gyfer cwblhau'r pryniant
10.
—(1) Rhaid i berson sy'n derbyn cynnig, ymrwymo i gontract cyfrwymol gyda'r perchennog er mwyn prynu'r eiddo—
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(2) Os na chydymffurfir â'r terfyn amser ym mharagraff (1), yna mae'r perchennog yn rhydd i waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda; ac ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw warediad o'r eiddo ar ôl hynny gan y perchennog.
(3) Os bydd y naill barti neu'r llall neu'r ddau yn gofyn i'r Prisiwr Dosbarth benderfynu gwerth yr eiddo yn unol ag adran 158 o Ddeddf 1985, eithrir o'r cyfnod cyfrifo ym mharagraff (1) yr amser o'r dyddiad y cafwyd y cais gan y Prisiwr Dosbarth hyd at y dyddiad yr hysbysir y gwerth a benderfynir i'r partïon.
Cyfrifo amser
11.
Wrth gyfrifo cyfnod at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn, gyda'r eithriad o'r cyfnod o 12 mis yn rheoliad 9, ni chynhwysir dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith, neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[4].
Cynnwys hysbysiadau
12.
—(1) Rhaid i hysbysiad cynnig—
(d) datgan y cyfeiriad lle gall y sawl sy'n cael yr hysbysiad gyflwyno hysbysiadau i'r perchennog.
(2) Rhaid i hysbysiad derbyn—
(c) rhoi cyfeiriad post llawn a Rhif ffôn unrhyw enwebai.
(3) Rhaid i hysbysiad gwrthod—
Cyflwyno hysbysiadau
13.
Ceir cyflwyno hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn naill ai drwy draddodi personol, neu drwy'r post.
Gwaredu eiddo a gaffaelwyd o dan hawl i brynu a gadwyd
14.
Gan eithrio rheoliadau 15 i 17, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd wrth arfer yr hawl a roddwyd gan adran 171A[5] o Ddeddf 1985.
Gwaredu eiddo a gaffaelwyd o dan hawl i gaffael
15.
Gan eithrio rheoliadau 14, 16 a 17 bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd wrth arfer yr hawl a roddwyd gan adran 16 o Ddeddf Tai 1996[6].
Gwaredu eiddo a gaffaelwyd drwy waredu gwirfoddol ar ddisgownt gan awdurdod lleol
16.
—(1) Gan eithrio rheoliadau 14, 15, a 17, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd ar ddisgownt oddi wrth awdurdod lleol a ddefnyddiodd ei bŵer i waredu tir yn adran 32[7] o Ddeddf 1985, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 1—
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle "adran 158" rhodder "adran 36B[8]".
(4) Ble bynnag y mae'r ymadrodd "landlord blaenorol" yn digwydd rhodder "perchennog blaenorol".
Gwaredu eiddo a gaffaelwyd drwy waredu gwirfoddol ar ddisgownt gan landlord cymdeithasol cofrestredig
17.
—(1) Gan eithrio rheoliadau 14 i 16, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd ar ddisgownt oddi wrth landlord cymdeithasol cofrestredig a ddefnyddiodd ei bŵer i waredu tir yn adran 9[9] o Ddeddf Tai 1996, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 1—
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle "adran 158 o Ddeddf 1985" rhodder "adran 12B[10] o Ddeddf Tai 1996".
(4) Ble bynnag y mae'r ymadrodd "landlord blaenorol" yn digwydd rhodder "perchennog blaenorol".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005
[2] 1996 p.52. Mewnosodwyd adran 12A gan adran 200 o Ddeddf Tai 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 17(2)-(5), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 12A yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, yn rhinwedd adran 267 o Ddeddf Tai 2004 ac O.S. 1999/672.back
[3] Diwygiwyd adran 80 gan baragraff 26 o Atodlen 5 i Ddeddf Tai a Chynllunio 1986, adrannau 83(2) a 140 o Ddeddf Tai 1988 ac Atodlen 18 iddi, adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlenni 16 a 18 iddi, ac O.S. 1996/2325.back
[5] Mewnosodwyd adran 171A gan adran 8(1), (3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986.back
[6] Diwygiwyd adran 16 gan adran 140 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlen 16 iddi, adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) ac Atodlen 17 iddi ac adran 202(1), (2) o Ddeddf Tai 2004.back
[7] Diwygiwyd adran 32 gan O.S. 1997/74.back
[8] Mewnosodwyd adran 36B gan adran 197 o Ddeddf Tai 2004.back
[9] Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlenni 16 ac 18 iddi.back
[10] Mewnosodwyd adran 12B gan adran 200 o Ddeddf Tai 2004.back