BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 Rhif 2800 (Cy.199) (C.116)[
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052800w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2800 (Cy.199) (C.116)[a]

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU

Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005

  Wedi'i wneud 11 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 40, 43(1)(b), 44(1) a 44(2) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005.

    
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—

    (2) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir fel arall, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 12 Hydref 2005
     3. Mae'r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 12 Hydref 2005 at y dibenion y cyfeirir atynt—

     4. —(1) Mae adran 35 a'r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn dod i rym yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod—

    (2) Heblaw fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym ar 12 Hydref 2005 at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.

    (3) Hyd 1 Ebrill 2006 bydd y darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) isod yn parhau i gael effaith, at y diben y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel pe na byddai'r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yn cael effaith—

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2006
    
5. —(1) Heblaw fel y darperir ym mharagraff (2) isod, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw darpariaethau'r Ddeddf, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) At ddibenion y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006—

    (3) Nid yw'r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006—

Cwynion sy'n rhychwantu'r dyddiad cychwyn
    
6. —(1) Os yw'r erthygl hon yn gymwys rhaid i'r Ombwdsmon ystyried y gwyn yn unol â darpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf.

    (2) Mae'r erthygl hon yn gymwys—

    (3) At ddibenion yr erthygl hon nid yw'r Ombwdsmon wedi ei rwystro rhag ymchwilio i fater (neu ran o fater) yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf yn unig am fod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006.

    (4) At ddibenion paragraff (2) uchod mae gan—

yr ystyron sydd i "existing Welsh Ombudsman" a "the relevant existing enactment" yn adran 38(6).

Darpariaeth Drosiannol — amcangyfrifon
    
7. —(1) Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r erthygl hon yn gymwys i'r Ombwdsmon o ran y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.

    (2) Rhaid i'r Ombwdsmon baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau'r swydd honno am y flwyddyn ariannol honno a'i gyflwyno i Gabinet y Cynulliad dim hwyrach nag un mis cyn cychwyn y flwyddyn ariannol honno.

    (3) Rhaid i Gabinet y Cynulliad graffu ar yr amcangyfrif ac yna ei osod gerbron y Cynulliad gydag unrhyw addasiadau y tybia eu bod yn briodol.

    (4) Os yw Cabinet y Cynulliad yn bwriadu gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad gydag addasiadau, rhaid iddo ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyntaf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005



ATODLEN 1
Erthygl 3


DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 12 HYDREF 2005




Rhan 1

Darpariaethau Diben
Adran 1 a pharagraffau 1, 2, 3, 5(1) i (3), 6 ac 8 o Atodlen 1 At y diben o benodi'r Ombwdsmon.
Adran 10 ac Atodlen 2 Pob diben.
Is-adrannau (7) i (9) o adran 25 Pob diben.
Adran 28 ac Atodlen 23 Pob diben.
Adran 29 Pob diben.
Adran 30 Pob diben.
Adran 39 a pharagraffau 61 i 63 o Atodlen 6 At y diben o benodi'r Ombwdsmon.



Rhan 2

Darpariaethau Diben
Adran 39 a pharagraff 18(11) a (13) o Atodlen 6 At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru i baratoi ac gyflwyno amcangyfrif o'r treuliau y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993[5] ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 9 o Atodlen 1A i'r Ddeddf honno At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Gomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 8 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Ombwdsman Gweinyddiaeth Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.



ATODLEN 2
Erthygl 5


ARBEDION


Darpariaethau Addasiadau
Adran 1(3) a pharagraffau 10 i 14 o Atodlen 1A i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 At ddibenion paragraff 12 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu.
Adran 111(2) a pharagraffau 9 i 13 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 At ddibenion paragraff 11 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu.
Adran 51A(7) a pharagraffau 13 i 17 o Atodlen 2A i Ddeddf Tai 1996[6] At ddibenion paragraff 15 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ("y Ddeddf"), ac eithrio adran 20 a pharagraff 15(5) o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Mae erthygl 3 a Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf ar 12 Hydref 2005 at y diben o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon"), yn cynnwys y darpariaethau sy'n ymwneud â phersonau sydd i'w hanghymhwyso rhag dal swydd yr Ombwdsmon.

Mae'r darpariaethau hynny hefyd yn dwyn i rym amrywiol bwerau (sydd wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad")) ar 12 Hydref 2005 i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 2 o'r Ddeddf.

Mae erthygl 3 a Rhan 2 o Atodlen 1 yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 ddarpariaethau'r Ddeddf sy'n symud ymaith gyfrifoldebau Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru a Chomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru i baratoi ac i gyflwyno i Gabinet y Cynulliad amcangyfrifon o incwm ac o wariant y naill swydd a'r llall am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.

Mae'r darpariaethau hynny hefyd yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 y darpariaethau yn y Ddeddf sy'n symud ymaith ddyletswydd y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru i baratoi ac i gyflwyno i'r Cynulliad amcangyfrif o'r treuliau y bydd yn eu tynnu am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. Er bod paragraff 7(1) o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru gyflwyno ei amcangyfrif i'r Ysgrifennydd Gwladol, mae erthygl 2(a) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672) ac Atodlen 1 iddo yn cael effaith fel bod rhaid i'r Comisiwn yn hytrach gyflwyno'r amcangyfrif i'r Cynulliad.

Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") sy'n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol. Yn hyn o beth mae Atodlen 4 yn gwneud y diwygiadau sy'n angenrheidiol i beri bod Rhan 3 o Ddeddf 2000 yn cydweddu'n llawn â'r Ddeddf. Yn ei hanfod, pan ddaw Atodlen 4 i rym yn llawn, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ("y Comisiwn") a swyddogaethau'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru ("y Comisiynydd") o dan Ran 3 o Ddeddf 2000 yn dod yn swyddogaethau'r Ombwdsmon.

A siarad yn fras, o ran awdurdodau perthnasol yn Lloegr (fel y'u diffinir yn Neddf 2000) ac awdurdodau heddluoedd yng Nghymru mae'r pwerau yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â chyrff o'r fath wedi eu breinio yn yr Ysgrifennydd Gwladol. O ran awdurdodau perthnasol yng Nghymru (heblaw awdurdodau heddluoedd yng Nghymru) mae'r pwerau hynny wedi eu breinio yn y Cynulliad. Mae'r pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiwn a'r Comisiynydd o dan Ran 3 o Ddeddf 2000 wedi eu breinio yn y Cynulliad.

Mae erthyglau 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 y darpariaethau hynny o Atodlen 4 sy'n diwygio'r pwerau yn rhan 3 o Ddeddf 2000 i wneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) mewn cysylltiad ag ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau perthnasol (o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf 2000) gan beri bod y darpariaethau hynny, lle bo angen, yn cydweddu'n llawn â'r Ddeddf.

Hyd nes daw adran 35 ac Atodlen 4 i rym yn llawn ar 1 Ebrill 2006 nid oes gan yr Ombwdsmon unrhyw swyddogaethau dan Ran 3 o Ddeddf 2000. Er hynny mae erthyglau 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn galluogi gwneud gorchmynion a rheoliadau i baratoi ar gyfer yr adeg, ar 1 Ebrill 2006, pryd y bydd yr Ombwdsmon yn cymryd drosodd swyddogaethau'r Comisiwn a'r Comisiynydd o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno.

Er hynny, hyd nes daw adran 35 ac Atodlen 4 i rym yn llawn ar 1 Ebrill 2006, bydd y Comisiwn a'r Comisiynydd yn parhau i fod â swyddogaethau o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno. Mae erthygl 4(3) o'r Gorchymyn hwn, felly, yn darparu bod darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2000 a fyddai fel arall yn cael eu heffeithio gan y diwygiadau a wnaed gan ddarpariaethau'r Ddeddf a ddygwyd i rym gan erthygl 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn parhau i gael effaith (fel pe na baent wedi cael eu diwygio felly) at y diben o wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau sydd eisioes yn mynd rhagddynt y Comisiwn a'r Comisiynydd o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 5(1) yn dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf (ac eithrio adran 20 a pharagraff 15(5) o Atodlen 1) i rym ar 1 Ebrill 2006.

Mae erthygl 5(2) ac Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau arbedol. Mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â chyfrifon ac adnoddau Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru ac Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Yr un person sydd ar hyn o bryd yn dal pob un o'r swyddi hyn.

Effaith y darpariaethau hyn, am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006, yw bod y gofynion sy'n ymwneud â'r swyddi hyn i baratoi cyfrifon ac i gael archwiliad o'r cyfrifon hynny etc. yn parhau yn gymwys. Yn gymaint â bod y darpariaethau hynny yn dal yn gymwys, caiff yr Ombwdsman ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu o ran pob un o'r swyddi hynny, er enghraifft, at ddibenion llofnodi'r cyfrifon.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth o ran unrhyw gwyn a wneir neu a gyfeirir yn briodol at yr Ombwdsmon ynglŷn â mater sy'n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 ac ynglŷn â digwyddiadau a ddigwyddodd ar ôl y dyddiad hwnnw. Dim ond os yw'r weithred yr achwynir o'i phlegid wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2006 y bydd Adran 38 (cwynion heb benderfyniad arnynt) yn gymwys. Os yw cwyn yn ymwneud â gweithred sy'n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl bydd darpariaethau Rhan 2 yn gymwys i'r gwyn honno.

At ddibenion erthygl 6 ni waherddir yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i fater yn unig oherwydd bod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 (erthygl 6(3)).

Er hynny, at ddibenion erthygl 6 dim ond os bydd amodau penodol wedi cael eu bodloni (erthygl 6(2)) y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o'r fath yn gymaint â'i fod yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw. Dyma'r amodau hynny:

Er enghraifft, os, ar ôl 1 Ebrill 2006, ychwanegir corff i Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig) gan orchymyn y Cynulliad o dan adran 28(2) ond nad yw'n gorff sydd, cyn y dyddiad hwnnw, o fewn awdurdodaeth un o ombwdsmyn presennol Cymru yna ni fydd erthygl 6 yn gymwys. Dim ond os yw'r mater yn rhychwantu 1 Ebrill 2006 ac os yw'r corff dan sylw, ar ôl y dyddiad hwnnw, o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon a chyn y dyddiad hwnnw o fewn awdurdodaeth un o ombwdsmyn presennol Cymru, y bydd erthygl 6 yn gymwys.

Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon baratoi a chyflwyno i Gabinet y Cynulliad amcangyfrif o incwm a threuliau'r swydd honno am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007.

Rhaid i'r Ombwdsmon gyflwyno'r amcangyfrif hwnnw i Gabinet y Cynulliad dim hwyrach na mis cyn cychwyn y flwyddyn ariannol honno. Rhaid i Gabinet y Cynulliad ystyried yr amcangyfrif hwnnw ac yna ei osod gerbron y Cynulliad gyda'r fath addasiadau ag y tybia'n briodol. Er hynny, os yw Cabinet y Cynulliad yn bwriadu gosod yr amcangyfrif hwnnw gerbron y Cynulliad gydag addasiadau, rhaid i Gabinet y Cynulliad ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyntaf.


Notes:

[1] 2005 p. 10.back

[2] 1974 p. 7.back

[3] 2000 p. 22.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1993 p.46.back

[6] 1996 p. 52.back


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 1, uwchben y pennawd pwnc yn y fersiwn Gymraeg yn unig, dylai rhif ac is-rifau'r OS ddarllen fel: "2005 Rhif 2800 (Cy.199) (C.116)". back



English version



ISBN 0 11 091190 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052800w.html