BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 2837 (Cy.201)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052837w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2837 (Cy.201)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 14 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn perthnasol.

    (3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr "cwestiwn perthnasol" yw'r ystyr a roddir i "relevant question" o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny—

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(2), yn lle "£12,846" rhodder "£13,116".

    (3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhodder—

    (4) Yn rheoliad 4—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") at ddibenion "cwestiwn perthnasol". Mae hwn yn gwestiwn o dan Reoliadau 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun lleoedd a gynorthwyir wedi'i ddiddymu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol ar gyfer grantiau gwisg ysgol a grantiau teithio (a nodir yn rheoliad 2 a 4 o Reoliadau 1997 yn eu trefn) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy.


Notes:

[1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy.137), O.S. 2001/2708 (Cy.227), O.S. 2002/1880 (Cy.189), O.S. 2003/1779 (Cy.193) ac O.S. 2004/1807 (Cy.195).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091192 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052837w.html