BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 2838 (Cy.202)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052838w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2838 (Cy.202)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 14 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sy'n cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.

    (3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol" yw'r ystyr a roddir i "relevant remission question" yn Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997—

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,540" ym mhob man y'i gwelir rhodder "£1,575".

    (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£11,935" rhodder "£12,182".

    (4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—


TABLE
(1) (2) (3) (4)
Part of relevant income to which specified percentage applies Only assisted pupil (% ) Each of two assisted pupils (% ) Each of three assisted pupils (% )
That part (if any) which exceeds £12,016 but does not exceed £13,066 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £13,066 but does not exceed £14,133 12 9 7
That part (if any) which exceeds £14,133 but does not exceed £16,247 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £16,247 but does not exceed £19,509 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £19,509 but does not exceed £23,761 24 18 14
That part (if any) which exceeds £23,761 33 24.75 19.25"




Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") at ddibenion "cwestiwn peidio â chasglu perthnasol". Mae hwn yn gwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu trefniadau ar gyfer peidio â chasglu ffioedd ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er gwaethaf diddymu y cynllun lleoedd a gynorthwyir gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,540 i £1,575.

Pan fo'r incwm "perthnasol" ar neu'n is na lefel benodol, ni chesglir y ffioedd o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu o £11,935 i £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw.


Notes:

[1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru:. gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136), O.S. 2001/2680 (Cy.221), O.S. 2002/1879 (Cy.188), O.S. 2003/1854 (Cy.204) ac O.S. 2004/1812 (Cy.197).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091193 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052838w.html