BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 Rhif 2840 (Cy.204)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052840w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2840 (Cy.204)

IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 11 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 14A(1)(b) a (8)(c) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cymhwysedd Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981
    
2. Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod gofynion adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42) yn gymwys i Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle. Mae Adran 14A yn darparu ar gyfer paratoi cynlluniau cenedlaethol wrth gefn sy'n dynodi'r trefniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu eu gosod yn eu lle er mwyn delio â'r clefyd os digwydd.

Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn ar gostau busnes a cheir copiau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42). Mewnosododd adran 18 o Ddeddf 2002 adran 14A yn Neddf 1981, gan roi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru. Estynnodd y Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) 2003 (O.S. 2003/1734) bwerau penodol yn Neddf 1981 y gellir eu harfer o ran clwy'r Traed a'r Genau i ffliw adar a chlefyd Newcastle.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091195 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052840w.html