BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 Rhif 2907 (Cy.206)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052907w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2907 (Cy.206)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 19 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005; deuant i rym ar 20 Hydref 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Darparu gwybodaeth ar brisiau cynhyrchion llaeth
    
2. —(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth[3].

    (2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth ofynnol yn wythnosol, a chaiff bennu'r amser a'r diwrnod erbyn pryd y bydd rhaid darparu'r wybodaeth a ffurf yr wybodaeth.

Tramgwydd
     3. Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2005, yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth.

Mae Rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol. Mae methu cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 3).

Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ar yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ei baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/1971.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif. L95, 14.4.2005, t.11.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091199 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 25 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052907w.html