BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 Rhif 2911 (Cy.208)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052911w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2911 (Cy.208)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 18 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 33(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu
    
2. Dirymir Rheoliadadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999[2].

Dehongli
     3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn—

Esemptiad ar gyfer ysgolion arbennig ysbytai ac ysgolion byrddio.
    
4. Mae corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni—

Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfod ar ôl arolygiad
    
5. Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir gan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni am y flwyddyn ysgol y caiff y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (b) ei gynnal—

Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfodydd eraill
     6. Os bydd y corff llywodraethu, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, yn cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo, neu gyfres o gyfarfodydd a bod pob rhiant yn cael gwahoddiad i o leiaf un o'r gyfres, a bod—

mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni ar gyfer y flwyddyn ysgol y cynhelir y cyfarfod neu (yn ôl y digwydd) gyfres y cyfarfodydd ynddi.

Esemptiad os nad yw rhieni yn ymateb i'r hysbysiad o gyfarfod
    
7. Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir o dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn unrhyw flwyddyn ysgol pan fydd yn rhoi i rieni gydag adroddiad y llywodraethwyr hysbysiad yn gofyn i rieni ddatgan yn ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig nad yw'n llai na 7 niwrnod os yw'n ofynnol ganddynt i'r corff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni a bod rhieni llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig yn ymateb o fewn y cyfnod penodedig.

Datgymhwyso esemptiadau
    
8. Nid yw'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 ac 7 yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn ysgol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud o dan adran 33(3) o Deddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer esemptio cyrff llywodraethu ysgolion rhag y gofyniad cyffredinol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn amgylchiadau penodol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

Mae rheoliad 2 yn dirymu y Rheoliadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999.

Dyma'r amgylchiadau y bydd corff llywodraethu yn esempt rhag y gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni danynt:

Rheoliad 4— os, yn achos ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig, yw'r ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty neu os yw'r ysgol yn ysgol fyrddio a gynhelir a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni;

Rheoliad 5— os cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn ac y cafodd cyfarfod rhieni ei gynnal i drafod adroddiad yr arolygydd cyn bod y corff llywodraethu yn llunio'i gynllun gweithredu;

Rheoliad 6— os yw'r corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo neu iddynt ac a gafodd ei fynychu neu eu mynychu (yn ôl y digwydd) gan dri neu fwy o lywodraethwyr ac os yw'r rhieni wedi cael cyfle i drafod rhedeg yr ysgol yn y gorffennol ac yn y dyfodol;

Rheoliad 7— os yw'r corff llywodraethu yn rhoi i rieni gyda'i Adroddiad hysbysiad yn gofyn i rieni ymateb o fewn dim llai na 7 niwrnod os ydynt yn dymuno i'r corff llywodraethu gynnal y cyfarfod blynyddol rhieni ac os yw rhieni llai na 5% o'r disgyblion yn ymateb.

Mae rheoliad 8 yn datgymhwyso'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 a 7 os na chynhaliwyd cyfarfod blynyddol rhieni yn y flwyddyn flaenorol neu os yw'r corff llywodraethu yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth rieni 5% neu fwy o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod o'r fath.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 2002 p. 32. I gael diffiniad "regulations" gweler adran 212.back

[2] O.S. 1999/1407.back

[3] 1996 p.57.back

[4] O.S. 1998/1866. Diwygiwyd rheoliad 8(1) gan O.S. 2004/784 (Cy. 81).back

[5] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11 091198 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052911w.html