BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 Rhif 2914 (Cy.211) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052914w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 18 Hydref 2005 | ||
Yn dod i rym | yn unol â rheoliad 1(1) |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dirymiadau, arbedion a diwygiadau |
3. | Dehongli |
4. | Rhiant-lywodraethwyr |
5. | Athro-lywodraethwyr |
6. | Staff-lywodraethwyr |
7. | Llywodraethwyr AALl |
8. | Llywodraethwyr cymunedol |
9. | Llywodraethwyr sefydledig |
10. | Llywodraethwyr partneriaeth |
11. | Noddwr-lywodraethwyr |
12. | Llywodraethwyr cynrychioliadol |
13. | Ysgolion Cymunedol |
14. | Ysgolion meithrin a gynhelir |
15. | Ysgolion arbennig cymunedol |
16. | Ysgolion sefydledig |
17. | Ysgolion arbennig sefydledig |
18. | Ysgolion gwirfoddol a reolir |
19. | Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir |
20. | Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol |
21. | Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau |
22. | Cyd-benodiadau |
23. | Gormod o lywodraethwyr |
24. | Cymwysterau ac anghymwysiadau |
25. | Cyfnod swydd |
26. | Ymddiswyddo |
27. | Diswyddo llywodraethwyr AALl, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychioliadol, llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr |
28. | Diswyddo llywodraethwyr cymunedol |
29. | Diswyddo rhiant-lywodraethwyr penodedig |
30. | Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu |
31. | Dehongli "awdurdod esgobaethol priodol" a "corff crefyddol priodol" |
32. | Y ddyletswydd i ystyried canllawiau |
33. | Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu |
34. | Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn |
35. | Adolygu offerynnau llywodraethu |
36. | Gofynion eraill yn ymwneud ag offerynnau llywodraethu |
37. | Y ddyletswydd i sicrhau y gwneir offerynnau llywodraethu |
38. | Darpariaeth drosiannol |
39. | Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd |
40. | Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys |
41. | Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd |
42. | Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu |
43. | Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu |
44. | Hawl personau i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu |
45. | Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu |
46. | Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu |
47. | Cofnodion a phapurau |
48. | Cyhoeddi cofnodion a phapurau |
49. | Atal llywodraethwyr |
50. | Dirprwyo swyddogaethau |
51. | Cyfyngiadau ar ddirprwyo |
52. | Adrodd wrth y corff llywodraethu yn dilyn arfer swyddogaethau dirprwyedig |
53. | Cymhwyso'r Rhan hon |
54. | Sefydlu pwyllgorau'r corff llywodraethu |
55. | Pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a phwyllgor apelau disgyblu a diswyddo |
56. | Pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion |
57. | Pwyllgor derbyniadau |
58. | Clercod pwyllgorau |
59. | Hawl personau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau |
60. | Cyfarfodydd pwyllgorau |
61. | Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau |
62. | Cyhoeddi cofnodion a phapurau |
63. | Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion |
ATODLEN 1 | Ethol a Phenodi Rhiant-lywodraethwyr |
ATODLEN 2 | Ethol Athro-lywodraethwyr a Staff-lywodraethwyr |
ATODLEN 3 | Penodi Llywodraethwyr Partneriaeth |
ATODLEN 4 | Penodi Noddwr-lywodraethwyr |
ATODLEN 5 | Cymwysterau ac Anghymwysiadau |
ATODLEN 6 | Darpariaethau Trosiannol |
ATODLEN 7 | Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y Corff Llywodraethu neu ei Bwyllgorau |
(3) Diwygir paragraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999[4], drwy roi'r geiriau "Part 5 of the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005" yn lle'r geiriau "Schedule 12 to the 1998 Act".
Dehongli
3.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(2) Anghymhwysir person rhag bod yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1 os yw—
os nad yw'n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.
(3) Nid anghymhwysir person rhag parhau i fod yn rhiant-lywodraethwr pan beidia â bod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol neu pan beidia â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 11 a 12 o Atodlen 1 (yn ôl fel y digwydd) onis anghymhwysir fel arall o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae Atodlen 1 yn gymwys i ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.
Athro-lywodraethwyr
5.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "athro-lywodraethwr" ("teacher governor") yw person—
(2) Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
Staff-lywodraethwyr
6.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "staff-lywodraethwr" ("staff governor") yw person—
ac at y diben hwn, ystyr "a gyflogir" ("employed") yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(2) Pan fo offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir yn gwneud darpariaeth yn unol â rheoliad 14(3), ystyr "staff-lywodraethwr" ("staff governor") yw person—
ac at y diben hwn, ystyr "a gyflogir" ("employed") yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(3) Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
Llywodraethwyr AALl
7.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "llywodraethwr AALl" ("LEA governor") yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr AALl ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro- lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.
Llywodraethwyr cymunedol
8.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol ysgol os yw—
(3) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol ysgol os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.
Llywodraethwyr sefydledig
9.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio, pan beidia â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni, rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
Llywodraethwyr partneriaeth
10.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "llywodraethwr partneriaeth" ("partnership governor") yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol ag Atodlen 3.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu na'i benodi'n llywodraethwr partneriaeth ysgol os yw—
Noddwr-lywodraethwyr
11.
Yn y Rheoliadau hyn ystyr "noddwr-lywodraethwr" ("sponsor governor") yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath gan y corff llywodraethu yn unol ag Atodlen 4.
Llywodraethwyr cynrychioliadol
12.
Yn y Rheoliadau hyn ystyr "llywodraethwr cynrychioliadol" ("representative governor") yw person a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol â pharagraffau (4) neu (5) o reoliad 15.
Categori llywodraethwr | Ysgol uwchradd-arferol | Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig | Ysgol gynradd-arferol | Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 6 | 5 | 4 neu 5 | 3 |
Llywodraethwyr AALl | 5 | 4 | 3 neu 4 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 2 | 2 | 1 neu 2 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 | 1 | 1 neu 0 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 5 | 4 | 3 neu 4 | 2 |
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.
Ysgolion Meithrin a Gynhelir
14.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Arferol | Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 4 neu 5 | 3 |
Llywodraethwyr AALl | 3 neu 4 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 1 neu 2 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 neu 0 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 3 neu 4 | 2 |
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethau llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd golofn ar gael yn achos ysgol feithrin a gynhelir pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(3) Gall offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir ddarparu ar gyfer un categori o staff-lywodraethwr yn hytrach na'r ddau gategori o athro-lywodraethwr a staff-lywodraethwr, yn y niferoedd hynny, heb fod yn llai nag un, a fo'n cael eu pennu yn yr offeryn llywodraethu.
(4) Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.
Ysgolion arbennig cymunedol
15.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Arferol | Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 4 neu 5 | 3 |
Llywodraethwyr AALl | 3 neu 4 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 1 neu 2 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 neu 0 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 3 neu 4 | 2 |
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.
(4) Pan fo ysgol arbennig gymunedol wedi'i sefydlu mewn ysbyty rhaid i'r awdurdod addysg lleol ddynodi'n gorff priodol—
y mae gan yr ysgol y cysylltiad agosaf ag ef a rhaid i'r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.
(5) Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi'i lleoli mewn ysbyty—
Ysgolion sefydledig
16.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Ysgol uwchradd-arferol | Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig | Ysgol gynradd-arferol | Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 7 | 6 | 5 neu 6 | 4 |
Llywodraethwyr AALl | 2 | 2 | 2 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 2 | 2 | 1 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 | 1 | 1 neu 0 |
Llywodraethwyr Sefydledig | 5 | 4 | 3 neu 4 | 2 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 3 | 2 | 1 | 1 |
(2) Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.
(3) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—
(4) Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
Ysgolion arbennig sefydledig
17.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Arferol | Dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 5 neu 6 | 4 |
Llywodraethwyr AALl | 2 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 1 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 neu 0 |
Lywodraethwyr Sefydledig | 3 neu 4 | 2 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 1 | 1 |
(2) Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.
(3) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.
(4) Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
Ysgolion gwirfoddol a reolir
18.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Ysgol uwchradd-arferol | Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig | Ysgol gynradd-arferol | Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 6 | 5 | 4 neu 5 | 3 |
Llywodraethwyr AALl | 4 | 3 | 3 | 2 |
Athro- Lywodraethwyr | 2 | 2 | 1 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 | 1 | 1 neu 0 |
Llywodraethwyr Sefydledig | 5 | 4 | 3 neu 4 | 2 |
Llywodraethwyr Cymunedol | 2 | 2 | 1 | 1 |
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
19.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gynnwys y canlynol—
Categori llywodraethwr | Ysgol uwchradd-arferol | Ysgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredig | Ysgol gynradd-arferol | Ysgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig |
Rhiant- Lywodraethwyr | 3 | 2 | 1 neu 2 | 1 |
Llywodraethwyr AALl | 2 | 1 | 1 neu 2 | 1 |
Athro- Lywodraethwyr | 2 | 2 | 1 | 1 |
Staff- lywodraethwyr | 1 | 1 | 1 | 1 neu 0 |
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
(4) Rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig sy'n ofynnol o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—
Ysgolion cynradd a gynhelir
20.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i—
sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu fwy o gynghorau cymuned.
(2) Mae rhaid i offeryn llywodraethu ysgol ddarparu ar gyfer cynnwys yn y corff llywodraethu (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 13, 14, 16, 18 a 19, yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.
(3) Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.
Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau
21.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod penodedig o'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, o leiaf ddeufis cyn y dyddiad y daw tymor swydd aelod penodedig i ben, roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.
(3) Nid fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys pan fo'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu pwy yw'r person a benodwyd neu a enwebwyd.
(4) Pan fo unrhyw berson ar wahân i gorff llywodraethu yn penodi neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi gwybod yn ysgrifenedig am y penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu gan nodi enw'r person a benodir neu a enwebir felly ynghyd â'i breswylfa arferol.
(5) At ddiben y rheoliad hwn, ystyr "aelod penodedig" ("appointed member") yw—
Cyd-benodiadau
22.
Os—
bydd y penodiad yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.
Gormod o lywodraethwyr
23.
—(1) Pan fo gan ysgol a gynhelir fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig na'r nifer y mae offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu ar eu cyfer, rhaid i gynifer o lywodraethwyr o'r categori hwnnw ag sy'n ofynnol i ddileu'r gormodedd beidio â dal swydd yn unol â pharagraffau (2) a (3) oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.
(2) Penderfynir pa lywodraethwyr a fydd yn peidio â dal swydd ar sail hynafedd, a'r llywodraethwyr sydd â'r cyfnod cyfredol byrraf fel llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.
(3) Pan fo angen dewis at ddiben paragraff (2) un neu ragor o lywodraethwyr o blith nifer sydd â'r un hynafedd, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, caiff llywodraethwyr cymunedol ychwanegol eu trin fel categori o lywodraethwyr ar wahân.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr "y llywodraethwr gwreiddiol" ("the original governor") yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
Ymddiswyddo
26.
—(1) Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(2) Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(3) Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai'n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn niweidio swydd llywodraethwr ex officio ei olynydd yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.
Diswyddo llywodraethwyr AALl, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychioliadol llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr
27.
—(1) Caiff y person a'i penododd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr AALl, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychioliadol, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
(2) Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â'r hawl i'w ddiswyddo, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
(3) Caiff y person a'i henwebodd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
Diswyddo llywodraethwyr cymunedol
28.
Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.
Diswyddo rhiant-lywodraethwyr penodedig a llywodraethwyr partneriaeth
29.
Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.
Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu
30.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 28 neu 29.
(2) Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn effeithiol oni bai—
(3) Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu roi gwybod yn ysgrifenedig i'r person a ddiswyddir y rhesymau dros y diswyddo.
Y ddyletswydd i ystyried canllawiau
32.
Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion i ymdrin â hwy mewn offerynnau o'r fath, ffurf offerynnau o'r fath, ac adolygu ac amrywio offerynnau o'r fath, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu
33.
—(1) Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol a gynhelir nodi—
(d) pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(dd) pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig—
(e) pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);
(f) pan fo ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â'r ysgol, y ffaith honno;
(ff) pan fo ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad o ethos crefyddol yr ysgol; ac
(g) y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym, na chaiff fod cyn 1 Ionawr 2006.
(2) Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.
(3) Pan fo'n berthnasol, at ddibenion Rhan 3, penderfynu faint o ddisgyblion cofrestredig sydd yn yr ysgol, penderfynir y nifer honno fel pe ar y dyddiad y gwneir yr offeryn.
(4) Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol.
Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn
34.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.
(2) Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol hyd nes y bydd wedi ei gymeradwyo gan—
(3) Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—
rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(4) Os bydd y personau a restrir ym mharagraff (2), yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(5) Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (3) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—
a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(6) Yn achos ysgol feithrin a gynhelir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol baratoi a gwneud yr offeryn llywodraethu cyntaf.
Adolygu offerynnau llywodraethu
35.
—(1) Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.
(2) Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod addysg lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.
(3) Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.
(4) Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â rhoi i'r awdurdod addysg lleol—
oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 34(2) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.
(5) Os—
rhaid i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.
(6) Os bydd, yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, y personau a restrir yn rheoliad 34(2) ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(7) Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—
(b) rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(8) Ni ddylid ystyried bod dim yn y rheoliad hwn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.
(9) Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn—
Gofynion eraill yn ymwneud ag offerynnau llywodraethu
36.
—(1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau y darperir yn rhad ac am ddim i'r personau a nodir ym mharagraff (2)—
(2) I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
Y ddyletswydd i sicrhau bod offerynnau llywodraethu yn cael eu gwneud
37.
Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu yn unol â'r Rheoliadau hyn—
(6) Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'u plith i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.
(7) Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
(8) Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
(9) Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'u plith i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(10) Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.
Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys
40.
—(1) Bydd gan y cadeirydd bŵer, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, i arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 50(1).
(2) Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—
(3) Ym mharagraff (2), ystyr "oedi" ("delay") yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.
(4) Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—
darllenir y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.
Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd
41.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.
(3) Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).
(4) Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.
Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu
42.
—(1) Ni fydd y rheoliad hwn yn amharu ar unrhyw hawliau a chyfrifoldebau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.
(3) Ni chaiff clerc y corff llywodraethu fod—
nac
(4) Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(5) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.
(6) Os nad oes gan yr ysgol ar unrhyw adeg gyllideb ddirprwyedig[14], caiff yr awdurdod addysg lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi dirprwy, ar yr amod bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu fel hynny.
Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu
43.
—(1) Rhaid i glerc y corff llywodraethu—
rheoliadau 21 (Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 26 (Ymddiswyddo), 27 (Diswyddo llywodraethwyr), 39(4) (Ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 45(4) (cynnull cyfarfodydd) o, a pharagraff 13 o Atodlen 5 (Hysbysiad o anghymhwyso) i, y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor iddo ar ei swyddogaethau a gweithdrefnau.
Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu
45.
—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.
(2) Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac, heb amharu ar baragraff (3), wrth arfer y swyddogaeth hon rhaid i'r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(3) Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i'r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—
(5) Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—
i gael ei ystyried.
(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys—
(8) Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.
(9) Ni chaiff cyfarfod o'r corff llywodraethu ei annilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod neu gopi o'r agenda.
Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu
46.
—(1) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 49.
(2) Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau'r llywodraethwyr sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.
(3) Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o'r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(4) Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad i gau'r ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 1998 yn effeithiol, pa un a gymerir ef gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn llai na 28 diwrnod wedi'r cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—
(5) Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu gan—
Cofnodion a phapurau
47.
—(1) Rhaid i'r clerc (neu'r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 42(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o'r corff llywodraethu'n cael eu llunio a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.
(2) Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu rhoi mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu rhoi ar dudalennau rhyddion wedi eu rhifo'n olynol; ond os gwneir hynny rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion dorri llythrennau'i enw ar bob tudalen.
(3) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu'n union cyn y nodyn sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau'r aelodau hynny o'r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft neu wedi'u llofnodi o gyfarfod penodol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol dan sylw os caiff gais gan yr awdurdod dan sylw.
Cyhoeddi cofnodion a phapurau
48.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw berson â diddordeb, o—
(2) Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(3) Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi eu bod yn gofnodion drafft.
Atal llywodraethwyr
49.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at 6 mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—
(2) Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).
(3) Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 7.
(4) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—
yn ystod cyfnod ei ataliad.
(5) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.
(6) Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 am beidio â mynychu unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bydd wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.
Dirprwyo swyddogaethau
50.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998[16] a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000[17], caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau i—
(2) Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'n flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.
Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig
51.
—(1) Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—
ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy pennaeth o dan baragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998.
(2) Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—
(b) swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau a enwir yn rheoliadau 55 i 57.
Adrodd wrth y corff llywodraethu yn dilyn arfer swyddogaethau dirprwyedig
52.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—
(2) Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.
(2) Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr.
(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl.
(5) Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.
(6) Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(7) Ni chaiff pennaeth yr ysgol fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(8) Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw.
(9) Pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys tri llywodraethwr yr un, caiff y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys dau lywodraethwr.
Pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion
56.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion)[22].
(2) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid y pennaeth.
(3) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.
(4) Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion) mewn achos—
Pwyllgor derbyniadau
57.
—(1) Os corff llywodraethu ysgol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol.
(2) Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—
(3) Yn achos ysgol sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.
(4) Mae'r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un fath â'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer aelodaeth y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.
Clercod pwyllgorau
58.
—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 55 i 57 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.
(2) Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol yn glerc o dan baragraff (1).
(3) Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(4) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o'i eiddo ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—
Hawl personau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau
59.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor—
(2) Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.
(3) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.
Cyfarfodydd pwyllgorau
60.
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i glerc i bwyllgor gynnull cyfarfodydd y pwyllgor hwnnw a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(2) Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i'r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw, i bob aelod o'r pwyllgor ac i'r pennaeth (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio)—
ond bydd yn ddigon pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).
(4) Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—
(5) Yn ddarostyngedig i reoliadau 55(5), 56(3) a 57(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag.
(6) Ni cheir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn llywodraethwyr.
(7) Dyfernir ynghylch pob mater sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gan fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.
(8) Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr.
Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau
61.
—(1) Rhaid i glerc pwyllgor neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod o bwyllgor; a rhaid i gadeirydd cyfarfod nesaf y pwyllgor eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y pwyllgor).
(2) Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i'w awdurdod addysg lleol o gofnodion drafft neu gofnodion wedi'u llofnodi unrhyw gyfarfod o'i eiddo o gael cais gan yr awdurdod hwnnw.
Cyhoeddi cofnodion a phapurau
62.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r pwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw un â diddordeb, o—
(2) Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu ei fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd iddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.
(3) Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 7 fel pe'n atal—
(b) person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.
(4) Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ysgol fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 7 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 7 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.
(5) Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 7, fynd allan o gyfarfod o'r ysgol a pheidio â phleidleisio, bydd y llywodraethwyr eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod yn penderfynu ynghylch y mater hwnnw.
(6) Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau eraill penodedig o wrthdaro rhwng buddiannau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[23]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005
2.
Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
3.
Yr awdurdod addysg lleol fydd yr awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn cytuno ynghylch hynny.
4.
Yn ddarostyngedig i baragraffau 5 i 9 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.
5.
Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn ynghylch a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
6.
Yn achos y pŵer a osodir gan baragraff 4—
7.
Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
8.
—(1) Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy'r post.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae "post" ("post") yn cynnwys danfon drwy law.
(3) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu i bawb y mae ganddo neu ganddi hawl i bleidleisio gael cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng electronig.
9.
Pan ddaw lle'n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i'r awdurdod priodol gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob un y mae'n gwybod ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—
10.
Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o lefydd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—
11.
—(1) Ac eithrio pan fo paragraff 12 yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu benodi'n rhiant-lywodraethwr—
12.
—(1) Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu benodi—
(2) Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union o'i flaen y caiff y corff llywodraethu benodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b), (c) neu (ch).
6.
Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
2.
Pan fo gan yr ysgol un neu ragor o noddwyr, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd yr offeryn llywodraethu yn darparu i'r corff llywodraethu benodi'r nifer hwnnw o noddwr-lywodraethwyr, heb fod yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.
3.
Rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o'r fath gan y noddwr neu (yn ôl fel y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o'r noddwyr.
Anghymwyso cyfarwyddwyr cwmnïau
7.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fydd yn destun—
Anghymwyso ymddiriedolwyr elusennau
8.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol os yw—
Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi
9.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol ar unrhyw adeg pan fydd—
Collfarnau troseddol
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol pan fydd unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—
wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb fod dewis talu dirwy.
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a arweiniodd at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn cael ei hystyried yn drosedd yn ôl y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—
wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996[33] neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[34] (niwsans neu aflonyddwch ar safle addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.
Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol
11.
—(1) Ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol ar unrhyw adeg.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir (Cymru) 2005[35] yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol
12.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997[36] am dystysgrif cofnodion troseddol.
Hysbysu'r clerc
13.
Os—
rhaid iddo roi gwybod i glerc y corff llywodraethu am y ffaith honno.
2.
Ar y dyddiad y daw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn effeithiol, neu ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd llywodraethwr cyfredol yn parhau'n llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu, fel pe bai wedi'i benodi neu ei ethol i gategori o'r fath yn unol â'r Rheoliadau hyn, hyd yn oed os nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a osodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer llywodraethwr yn y categori hwnnw.
3.
At ddibenion paragraff 2, y canlynol fydd y categorïau cyfatebol—
Categori'r llywodraethwr cyfredol | Categori'r llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn |
Llywodraethwr cyfetholedig | Llywodraethwr cymunedol |
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 15(4) o Atodlen 9 i Ddeddf 1998 | Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol |
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1999 | Noddwr-lywodraethwr |
Llywodraethwr cynrychioliadol | Llywodraethwr cynrychioliadol |
Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr) | Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr) |
Llywodraethwr AALl | Llywodraethwr AALl |
Rhiant-lywodraethwr | Rhiant-lywodraethwr |
Llywodraethwr partneriaeth | Llywodraethwr partneriaeth |
Staff-lywodraethwr | Staff-lywodraethwr |
Athro-lywodraethwr | Athro-lywodraethwr |
Pennaeth (llywodraethwr ex officio) | Pennaeth (ex officio) |
pa un bynnag yw'r cynharaf.
5.
Nid yw'r Atodlen hon yn atal llywodraethwr cyfredol rhag—
6.
Wrth gyfrifo'r nifer o lywodraethwyr sy'n ofynnol ym mhob categori o dan yr offeryn llywodraethu, rhaid cynnwys llywodraethwr cyfredol a fydd yn parhau'n llywodraethwr wedi i offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) At ddibenion rheoliad 63(2) ni chaiff person perthnasol ei drin fel petai iddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—
(3) Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.
(4) Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005[38] oherwydd bod iddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu'n gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu trafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi cael ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio arno.
Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc
2.
—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu ac un o'r canlynol yn fater i'w ystyried—
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.
Arfarnu neu dalu i bersonau sy'n gweithio yn yr ysgol
3.
—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol y telir iddo am weithio yn yr ysgol ac eithrio fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn yr ysgol dan ystyriaeth.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu iddo neu werthuso ei berfformiad ei hun dan ystyriaeth.
(3) Mewn unrhyw achos lle bo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.
Penodi Staff
4.
Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol a phenodi olynydd i'r person hwnnw dan ystyriaeth, rhaid iddo adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r mater hwnnw.
Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu
5.
Nid ystyrir dan unrhyw amgylchiadau y ffaith bod person yn llywodraethwr neu'n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ysgol yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
[2] O.S. 1998/2763, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/362, 1999/2242 (Cy.2), 2001/2263 (Cy.164).back
[3] O.S. 1999/2242 (Cy. 2) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164) .back
[4] O.S. 1999/2243; diwygir y rheoliad hwn hefyd gan reoliad 8 yn Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol etc (Cymru) 2005, O.S. 2005/2913 (Cy. 210).back
[8] Fel y dynodir drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998. Gweler Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999, O.S. 1999/1814 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004, O.S. 2004/1734 (Cy. 177).back
[9] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 iddi.back
[10] Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 57 o Ddeddf 2002.back
[11] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.back
[12] Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 58 o Ddeddf 2002.back
[13] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.back
[14] Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.back
[15] Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 22.back
[16] O.S. 1998/2535 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/2243.back
[17] O.S. 2000/3027 (Cy. 195) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy. 138).back
[18] Diwygiwyd gan adran 154 o Ddeddf 2002.back
[19] Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002.back
[20] Rhoddwyd i mewn gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Noder hefyd y diddymir adran 93 o, ac Atodlen 23 i, Ddeddf 1998 gan Ddeddf 2002.back
[21] Diwygiwyd gan adran 50 o, a pharagraff 8 o Atodlen 4 i, Ddeddf 2002.back
[22] Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy. 308) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).back
[29] 1990 p.40; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Arglwydd Adfocad o dan yr adran hon i'r Ysgrifennydd Gwladol drwy Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (yr Arglwydd Adfocad a'r Ysgrifennydd Gwladol) 1999 (O.S. 1999/678).back
[30] 1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14).back
[32] Wedi'i diddymu gan Ddeddf 2002.back
[33] Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.back
[34] 1992 p.13; a roddwyd i mewn gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.back
[35] O.S. 2005/2912 (Cy. 209).back
[36] 1997 c.50; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf 2002.back
[38] O.S. 2005/2915 (Cy. 212).back