BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 2916 (Cy.213)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052916w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2916 (Cy.213)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 18 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2005 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 138(7) a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 5 o Atodlen 8 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19, 20, 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002[3] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005, ac maent yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Prif Reoliadau
     2. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.

    
3. Yn rheoliad 3(1)—

     4. Yn rheoliad 10(1), rhodder y geiriau "Rheoliadau 2005 addasedig" yn lle'r geiriau "Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf".

    
5. Yn lle rheoliad 11 rhodder y canlynol—

     6. Yn lle rheoliad 12 rhodder y canlynol—

     7. Yn rheoliad 13(1), rhodder y geiriau "Rheoliadau 2005 addasedig" yn lle'r geiriau "Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf".

    
8. Yn rheoliad 15(4), rhodder y geiriau "noddwyr-lywodraethwyr" yn lle'r geiriau "llywodraethwyr cyfetholedig ychwanegol".

    
9. Ar ôl rheoliad 15, mewnosoder y canlynol—


    
10. Yn lle Atodlen 3 rhodder yr Atodlen 3 ddiwygiedig a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 10

          






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 ("y Prif Reoliadau"). Mae'r Prif Reoliadau'n gwneud darpariaeth i ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig ddod yn gategori ysgol arall o fewn y categorïau hynny, i ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig ac i ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu hefyd Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 ("Rheoliadau 2005").

Mae'r diwygiadau a'r addasiadau hyn yn ganlyniad i ddiddymu Atodlen 12 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Ddeddf Addysg 2002 a gwneud Rheoliadau 2005.

Mae Rheoliadau 3 i 9 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r addasiadau yn y Prif Reoliadau sy'n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu ysgolion sy'n newid categori.

Mae Rheoliad 10 a'r Atodlen yn nodi'r darpariaethau addasedig yn Rheoliadau 2005 sy'n ymwneud â gwneud offerynnau llywodraethu ysgolion sy'n newid categori a chynnwys yr offerynnau llywodraethu hynny. Mae'r Atodlen yn rhoi Atodlen 3 newydd i'r Prif Reoliadau yn lle'r hen un.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael y diffiniad o "regulations", gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[3] 2002 p.32. I gael y diffiniad o "regulations", gweler adran 212(1).back

[4] O.S. 2001/2678 (Cy.219).back

[5] O.S. 2005/2914 (Cy.211).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091205 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 28 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052916w.html