BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005 Rhif 3034 (Cy.222)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053034w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3034 (Cy.222)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005

  Wedi'i wneud 31 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 18 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 Priffyrdd 1980[1] a phob pŵer galluogi arall [2]:

     1. Daw'r droetffordd/ffordd feiciau newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

    
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

    
3. Yn y Gorchymyn hwn:—

    (1) mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

    (2)

     4. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Tachwedd 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd feiciau Windyhall, Abergwaun) 2005.



Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.


S C Shouler
Cyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

31 Hydref 2005



YR ATODLEN

LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD


Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr yn Windyhall, Abergwaun yn Sir Benfro ac mae'n droetffordd/ffordd feiciau gyfun 325 o fetrau o hyd ac sy'n dechrau ar bwynt tua 135 o fetrau i'r gorllewin i gornel ogledd-orllewinol Windyhall House ac sy'n dod i ben ar bwynt tuag 66 o fetrau i'r gogledd-gogledd-ddwyrain i gornel ogledd-ddwyreiniol Windyhall Cottage.


Notes:

[1] 1980 p.66back

[2] Yn rhinwedd O. S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn bellach wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back



English version



ISBN 0 11 091206 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053034w.html