BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 Rhif 3051 (Cy.228)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053051w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3051 (Cy.228)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 1 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 7 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2005.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd

Gwaharddiad ar werthu cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol hyn
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw gynnyrch—

    (2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn rhwystro llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
4. Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990[13] yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

Arolygu cynhyrchion amheus a chymryd meddiant ohonynt
     5. —(1) Caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch a gafodd ei roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, wrth gyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.

    (2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

    (3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—

    (4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—

    (5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—

    (6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglyn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglyn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

Tramgwyddau a chosbau
    
6. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

    (3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Gorfodi
    
7. Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
    
8. Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[18] i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—

Dirymiadau
     9. Mae Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau ar Gig Eidion) (Rhif 2) 1996[20] wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22).

    
2. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na ellir rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

    
3. Rhoddir effaith i'r gwaharddiad hwnnw gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

    
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

     5. Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 2003/1246.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] OJ Rhif l245, 29.9.2003, t.4.back

[5] 1990 p.16back

[6] 1984 p.22.back

[7] OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22back

[8] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1back

[9] OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1back

[10] O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1508 (Cy.105), O.S. 2001/1740 (Cy.123), O.S. 2001/1802 (Cy.131), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/2198 (Cy.158) O.S. 2002/129 (Cy.17) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back

[11] O.S. 1994/3082, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158) .back

[12] O.S. 1995/3205, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131) ac O.S. 2000/2257 (Cy.150).back

[13] 1990 c. 16.back

[14] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back

[15] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back

[16] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back

[17] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back

[18] O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1472 (Cy.146), ac O.S. 2003/1849 (Cy.199).back

[19] O.S. 2002/1461 (Cy.141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756 (Cy.267), O.S. 2004/2735 (Cy. 242), O.S. 2005/1392 (Cy.106) ac O.S. 2005/2902 (Cy.205).back

[20] O.S. 1996/2097 a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/2522, O.S. 2000/656 ac O.S. 2000/3388 (Cy.225).back

[21] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091211 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 9 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053051w.html