![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] [DONATE] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 Rhif 3111 (Cy.231) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053111w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 8 Tachwedd 2005 | ||
Yn dod i rym | 11 Tachwedd 2005 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn o ran cyfeiriadau at ychwanegu tryptoffan at fwyd—
ac nid yw cyfeiriadau yn rheoliad 4 a 5 at fwyd sy'n cynnwys tryptoffan yn cynnwys achos lle nad yw'r tryptoffan hwnnw ond yn digwydd yn naturiol yn y bwyd neu mewn cynhwysyn yn y bwyd.
Rhagdybiaeth
3.
Os eir yn groes i unrhyw ofynion yn y Rheoliadau hyn o ran unrhyw fwyd a bod y bwyd hwnnw'n rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhagdybir, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, fod yr holl fwyd yn y swp, lot neu lwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.
Gwaharddiadau
4.
Yn ddarostyngedig i reoliad 5 ni chaiff neb —
Eithriadau rhag y gwaharddiadau
5.
—(1) Caniateir gwerthu neu gynnig ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan—
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran—
os yw'r sylwedd hwnnw a ychwanegir yn cydymffurfio â'r meini prawf purdeb a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop[8].
(3) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at unrhyw ategolyn bwyd—
Tramgwyddau a chosb
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 4 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Nid yw fferyllydd neu berson sy'n gweithredu yng nghwrs gweithgareddau ysbyty sy'n mynd yn groes i reoliad 4(b) yn unig oherwydd nad yw dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif feddygol briodol yn ddogfen ddilys yn cyflawni tramgwydd os oedd gan y person hwnnw, ar ôl arfer pob diwydrwydd dyladwy, achos rhesymol dros gredu bod y ddogfen yn dystysgrif feddygol briodol.
Gorfodi
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ddosbarth o ran bwyd a fewnforiwyd.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
8.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod yn rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
Condemnio bwyd
9.
Pan gaiff unrhyw fwyd ei ardystio gan ddadansoddydd bwyd ei fod yn fwyd y mae'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w werthu, ceir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani)[11] fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Dirymu
10.
—(1) Dirymir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990[12] o ran Cymru.
(2) Dirymir rheoliad 10 o Reoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002[13] a rheoliad 14 o Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004[14].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005
5.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.98, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau ac ar gyfer rheolau ar wasanaethau Cymdeithas Wybodaeth, fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).
6.
Gellir cael Pharmacopoeia Ewrop o'r Llyfrfa (Rhif ffôn gwasanaethau cwsmeriaid 0870 600 5522; e-bost: customer.services@tso.co.uk).
7.
Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1996/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4)back
[4] O.S. 2004/314 (Cy.32).back
[5] OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34).back
[6] OJ Rhif L14, 21.1.2004, t.19.back
[7] 1968 p.67; diwygiwyd adran 69 gan Ddeddf Fferyllwyr (Ffitrwydd i Ymarfer) 1997 (1997 p.19), yr Atodlen, paragraff 5, o ddyddiad sydd i'w bennu.back
[8] Pharmacopoeia Ewrop Pumed Argraffiad, Cyfrol II (2004) Pub. y Gyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau, tudalennau 2636 i 2638.back
[9] Diwygiwyd adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back
[10] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back
[11] Diwygiwyd adran 9 ac adran 8 gan O.S. 2004/3279.back
[12] O.S. 1990/1728, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486, 2002/2939 (Cy.280), 2004/314 (Cy.32).back
[13] O.S.2002/2939 (Cy.280) y mae diwygiad iddynt nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back
[14] O.S. 2004/314 (Cy.32).back
© Crown copyright 2005