BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005 Rhif 3115 (Cy.235)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053115w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3115 (Cy.235)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Datganiad o ddiben
4. Arweiniad plant
5. Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

RHAN 2

RHEOLWYR
6. Penodi rheolwr
7. Ffitrwydd y rheolwr
8. Gofynion cyffredinol
9. Hysbysu tramgwyddau

RHAN 3

DULL RHEOLI GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL
10. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
11. Staffio
12. Ffitrwydd y gweithwyr
13. Cyflogi staff
14. Gweithdrefn disgyblu staff
15. Trefniadau ar gyfer absenoldeb rheolwr
16. Cofnodion ynglŷn â staff
17. Ffitrwydd y fangre
18. Cwynion

RHAN 4

AMRYWIOL
19. Dirymu rheoliadau

  ATODLEN 1 Gwybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben

  ATODLEN 2 Gwybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr arweiniad plant

  ATODLEN 3 Gwybodaeth y mae'n ofynnol ei chael ynglŷn â phersonau sy'n dymuno rheoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu

  ATODLEN 4 Cofnodion sydd i gael eu cadw ynghylch pob person sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a (3),10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[
1] ac adrannau 50, a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben
     3. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol, o ran y gwasanaeth mabwysiadu, lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo beri bod copi ohono ar gael, o ofyn amdano, i'w archwilio gan—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

    (4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi awdurdod i dorri neu i beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr Arweiniad plant
    
4. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 2.

    (2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant i—

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
    
5. Rhaid i bob awdurdod lleol—



RHAN 2

RHEOLWYR

Penodi rheolwr
    
6. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—

    (2) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd y rheolwr
    
7. —(1) Dim ond person sy'n ffit i wneud hynny gaiff reoli gwasanaeth mabwysiadu.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—

Gofynion cyffredinol
    
8. —(1) Rhaid i'r rheolwr, o ystyried—

    (2) Rhaid i'r rheolwr o bryd i'w gilydd ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Hysbysu tramgwyddau
    
9. Rhaid i reolwr a gollfernir o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu mewn man arall, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith o—



RHAN 3

DULL RHEOLI GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
    
10. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a rhoi ar waith bolisi ysgrifenedig—

Staffio
    
11. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau fod, gan ystyried—

digon o bersonau â'r cymwysterau addas, sy'n gymwys ac yn brofiadol, yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd gweithwyr
    
12. —(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, heblaw gan yr awdurdod, mewn swydd lle caiff y person hwnnw, wrth wneud ei ddyletswyddau, ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

    (3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth awdurdod mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—

    (4) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol pan maent yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyflogi staff
    
13. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol—

    (2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau fod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—

Gweithdrefn disgyblu staff
    
14. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

    (2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol—

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr
    
15. Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person dynodedig yn gyfrifol am reoli'r gwasanaethau mabwysiadu pan mae'r rheolwr yn absennol, neu'n bwriadu bod yn absennol, o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 niwrnod neu fwy tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) bod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.

Cofnodion ynglŷn â staff
    
16. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4, a'u cadw'n gyfredol.

    (2) Rhaid rhoi'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) ar gadw am o leiaf 15 mlynedd o dyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre
    
17. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio mangre at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu oni bai bod y fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau—

Cwynion
    
18. Rhaid i bob awdurdod lleol—



RHAN 4

AMRYWIOL

Dirymu Rheoliadau
    
19. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003[4] ("Rheoliadau 2003") yn cael eu dirymu.

    (2) Nid yw Paragraff (1) yn effeithio ar y diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[5] ac i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[6] gan reoliadau 19 a 20 o Reoliadau 2003, yn eu trefn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol o ran y gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion yn ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.

     2. Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol eisoes wedi eu gwneud i asesu ac i wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

     3. Enw a chyfeiriad y rheolwr.

     4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

     5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.

     6. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

     7. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

     8. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

     9. Manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r gweithdrefnau am asesiadau ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r ddarpariaeth ohonynt.

     10. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989[
8], Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990[9] ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[10].

     11. Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.



ATODLEN 2
Rheoliad 4(1)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD I BLANT


     1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

     2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan gaiff mabwysiad ei ddynodi fel y cynllun priodol ar gyfer y plentyn.

     3. Gwybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau i geisio asesiad ar gyfer darpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu.

     4. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

     5. Manylion o sut y gall plentyn gael at wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i wneud cwyn neu i wneud sylw o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.

     6. Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.

     7. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.



ATODLEN 3
Rheoliadau 7(2)(c) ac 12(3)(ch)


YR WYBODAETH Y MAE'N OFYNNOL EI CHAEL AM BERSONAU SY'N DYMUNO RHEOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU


     1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai—

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.

     4. Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.



ATODLEN 4
Rheoliad 16(1)


Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU


Cofnod sy'n cynnwys ar gyfer pob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—

     1. Enw llawn.

     2. Rhyw.

     3. Dyddiad geni.

     4. Cyfeiriad cartref.

     5. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a phrofiad o waith o'r fath.

     6. Y dyddiad pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.

     7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod.

     8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi neu'n cael ei gontractio i weithio i wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod bob wythnos.

     9. Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwylio, arfarnu, y camau disgyblu (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y gwyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") a'r Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol Cymru. Maent yn cymryd lle Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu ar gyfer arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth mabwysiadu fod â datganiad o ddiben sy'n gosod allan amcanion a nodau'r gwasanaeth ac arweiniad plant. Rhaid rhedeg y gwasanaeth mewn modd sy'n gydnaws â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phersonau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol fod gwybodaeth foddhaol ar gael ynglŷn â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhedeg y gwasanaeth, staffio a ffitrwydd y gweithwyr, addasrwydd y fangre ac ynglŷn â chwynion a chadw cofnodion.


Notes:

[1] 2002 p.38.back

[2] 2000 p.14.back

[3] O.S. 2005/1512 (Cy.116).back

[4] O.S. 2003/710.back

[5] O.S. 2002/919 (Cy.107).back

[6] O.S. 2002/921 (Cy.109).back

[7] 1998 p.38.back

[8] 1989 p.41.back

[9] O.S.1990/2244.back

[10] 2003 (p.43).back

[11] 1997 c.back



English version



ISBN 0 11 091219 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 16 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053115w.html