![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005 Rhif 3225 (Cy.237) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053225w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 22 Tachwedd 2005 | ||
Yn dod i rym drannoeth ei wneud |
Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad
2.
—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Bwrdd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau a'r offerynnau sy'n ymwneud â'r Bwrdd er mwyn:
(2) Yn rhinwedd y paragraff hwn, ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y mae gan y Bwrdd hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt yn union o flaen y dyddiad hwnnw.
(3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sy'n codi o dan contract cyflogi a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Bwrdd.
(4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981[2] yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.
(5) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant o'r trosglwyddiad.
(6) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.
Darpariaethau trosiannol
3.
—(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 sy'n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
(3) Mae unrhyw beth—
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad.
(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Bwrdd mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
(5) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Bwrdd, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir yn adran 6 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969[3] yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy:
Diddymu
4.
Ar ôl trosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad yn unol ag Erthygl 2, daw bodolaeth y Bwrdd i ben.
Dirwyn i ben
5.
Rhaid i'r Bwrdd roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.
Diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol
6.
—(1) Diwygir darpariaethau Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 a Deddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992[4] a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.
(2) Diwygir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.
(3) Mae'r diwygiadau i'r deddfiadau yn ymestyn i'r un graddau â'r ddarpariaeth yn y deddfiad sy'n cael ei ddiwygio.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
(4) yn is-adran (6), yn lle "Trade," rhodder "Trade and" a dileër "and, in relation to the Wales Tourist Board, the Secretary of State for Wales"; a
(5) yn y pennawd, yn lle ", Scottish Tourist Board and Wales Tourist Board" rhodder "and Scottish Tourist Board".
2.
Yn adran 2 (Swyddogaethau a phwerau cyffredinol)—
(1) yn is-adran (1), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales";
(2) yn is-adran (2), yn lle "and (4)" rhodder ", (4) and (4A)", ar ôl "each Tourist Board" mewnosoder "and the National Assembly for Wales" ac ym mharagraff (e) ar ôl "Board" mewnosoder "or the National Assembly for Wales";
(3) yn is-adran (3), ar ôl "Tourist Boards" mewnosoder "or the National Assembly for Wales";
(4) ar ôl is-adran (4) ychwaneger—
(5) yn is-adran (5), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales", ar ôl "Boards" y tro cyntaf a'r ail dro yr ymddangosir mewnosoder "or the National Assembly for Wales" ac ar ôl y trydydd tro mewnosoder "and the National Assembly for Wales";
(6) yn is-adran (6)—
(7) ar ôl is-adran (7) ychwaneger—
(8) ar ôl is-adran (8) ychwaneger—
3.
Yn adran 3 (Cynlluniau cyffredinol o gymorth i brosiectau twristaidd)—
(1) yn is-adran (1), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales" ac ar ôl "Boards" mewnosoder "and the National Assembly for Wales";
(2) yn is-adran (4), ar ôl "a Tourist Board" mewnosoder "and the National Assembly for Wales"; a
(3) yn is-adran (5), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales".
4.
Ar ôl adran 4 (Gweithredu prosiectau twristaidd penodol) ychwaneger—
(2) Financial assistance under subsection (1) of this section may be given by way of grant or loan or, if the project is being or is to be carried out by a company incorporated in Great Britain, by subscribing for or otherwise acquiring shares or stock in the company or by any combination of those methods.
(3) In making a grant or loan under subsection (1)(a) of this section the National Assembly for Wales may impose such terms and conditions as it thinks fit, including conditions for the repayment of a grant in specified circumstances; and Schedule 2 to this Act shall have effect for securing compliance with conditions subject to which any such grant is made.
(4) The National Assembly for Wales shall not dispose of any shares or stock acquired by it by virtue of this section except after consultation with the company in which the shares or stock are held.".
5.
Yn is-adran (1) o adran 5 (Dyletswyddau a phwerau amrywiol), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales".
6.
Yn adran 17 (Cofrestru llety twristaidd)—
(1) yn is-adran (1), ar ôl "Boards" mewnosoder "and the National Assembly for Wales";
(2) yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales", ac ym mharagraff (c) ar ôl "any Tourist Board" mewnosoder "or the National Assembly for Wales" ac ar ôl "the Board" mewnosoder "or (as the case may be) the Assembly";
(3) yn is-adran (4), yn lle "Secretary of State for Wales" rhodder "National Assembly for Wales"; a
(4) ar ôl is-adran (7), ychwaneger—
7.
Yn Atodlen 2 (Gorfodi amodau grant)—
(1) ar ôl is-baragraff (1) o baragraff 1 ychwaneger—
(2) yn is-baragraff (1) o baragraff 2, ar ôl "Tourist Board" mewnosoder "or the National Assembly for Wales" ac ar ôl "the Board" mewnosoder "or (as the case may be) the Assembly"; a
(3) yn is-baragraff (1) o baragraff 3, ar ôl "Tourist Board" mewnosoder "or the National Assembly for Wales".
(2) yn is-adran (11) o adran 378:
Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)
4.
Yn Atodlen 2A (Personau sy'n ddarostyngedig i adolygiad gan y Comisynydd o dan Adran 72B) i Ddeddf Safonau Gofal 2000, dileer paragraff 21.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)
5.
Yn Rhan VI o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dileer "The Wales Tourist Board".
Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 (p.1)
6.
Yn Neddf Datblygu Rhyngwladol 2002:
(1) yn is-adran (4)(b) o adran 9 (Pwerau cyrff statudol), ar ôl "Welsh body" mewnosoder "other than the National Assembly for Wales"; a
(2) yn Atodlen 1 (Cyrff statudol y mae adran 9 yn gymwys iddynt), yn lle "Wales Tourist Board" rhodder "National Assembly for Wales".
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)
7.
Yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig) i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, hepgorer "The Wales Tourist Board".
Gorchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Esemptio) 2001 (OS 2001/1201)
4.
Yn Rhan III o'r Atodlen (Personau sy'n esempt o ran gweithgaredd a reoleiddir a grybwyllir yn erthygl 5(1)) i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Esemptio) 2001, dileer "The Wales Tourist Board".
Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 (OS 2002/3113)
5.
Yn rheoliad 4 (Dehongli- cyffredinol) o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002—
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 (OS 2003/437)
6.
Yn yr Atodlen (Swyddi sy'n anghymhwyso deiliaid o aelodaeth y Cynulliad Cenedlaethol) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003, dileer "The Wales Tourist Board".
[2] O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.back