BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3237 (Cy.242) (C.138)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
22 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Tai 2004; ac
ystyr "y dyddiad cychwyn" ("the commencement date") yw 25 Tachwedd 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a) Adran 4 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 55, is-adrannau (1), (2) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (5);
(c) adrannau 56 a 57;
(ch) adrannau 79 ac 80, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(d) adran 81;
(dd) adran 179;
(e) adrannau 192 i 194; ac
(f) adran 237.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 ("Deddf 2004") o ran Cymru.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 yn dod i rym ar 25 Tachwedd 2005:
(a) adran 4 (sy'n caniatáu i awdurdod tai lleol arolygu mangreoedd preswyl yn ei ardal er mwyn penderfynu a oes unrhyw berygl categori 1 neu 2 yn bod yn y mangreoedd hynny);
(b) adran 55 (mae is-adrannau (1) a (2) ohoni yn gosod cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth ("HMOs") o dan Ran 2 o Ddeddf 2004);
(c) adran 56 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol o ran HMOs a bennir);
(ch) adran 57 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir yn adran 56 o Ddeddf 2004);
(d) adran 79 (sy'n nodi cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai sydd o fewn Rhan 3 o Ddeddf 2004);
(dd) adran 80 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os yw'n ardal o alw bychan am dai, neu os y gall ddod yn ardal felly, neu os oes ynddi broblem sylweddol a pharhaus o ran ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(e) adran 81 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir dan adran 80 o Ddeddf 2004);
(f) adran 179 (sy'n diwygio Deddf Tai 1996 drwy fewnosod adrannau 125A a 125B newydd sy'n caniatáu ymestyn tenantiaeth ragarweiniol am hyd at chwe mis);
(ff) adran 192 (sy'n diwygio Deddf Tai 1985 ("Deddf 1985") drwy fewnosod adran 121A newydd sy'n galluogi landlordiaid tenantiaid diogel i geisio gorchymyn llys sy'n atal dros dro yr hawl i brynu am gyfnod penodol ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(g) adran 193 (sy'n diwygio adran 138 o Ddeddf 1985 drwy fewnosod is-adrannau (2A) i (2D) newydd sy'n rhwystro tenant rhag gallu mynnu cwblhau gwerthiant hawl i brynu os oes cais yn yr arfaeth am orchymyn israddio, gorchymyn atal dros dro, neu orchymyn meddiant ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);
(ng) adran 194 (sy'n caniatáu i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth berthnasol i landlord tenant diogel er mwyn galluogi'r landlord i arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 191 i 193 o Ddeddf 2004); ac
(h) adran 237 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddefnyddio gwybodaeth y mae wedi ei gael at ddibenion budd-dâl tai neu'r dreth gyngor er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 1 i 4 o Ddeddf 2004).
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
|
Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 191 |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 227 |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 228 |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Adran 265(1) (yn rhannol) |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814 (Cy. 144)(C. 75) |
Atodlen 12 |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Atodlen 15 (yn rhannol) |
14 Gorffennaf 2005 |
2005/1814(Cy. 144)(C. 75) |
Notes:
[1]
2004 p.34.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091223 3
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
30 November 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053237w.html