BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005 Rhif 3288 (Cy.251)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053288w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3288 (Cy.251)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2005.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (Cyfalaf sydd i'w ddiystyru)
     2. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, ar ôl paragraff 27, ychwaneger y paragraff a ganlyn—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau yn penderfynu'r modd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Prif Reoliadau i ganiatáu i daliadau penodol ar sail oedran a wneir o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004 gael eu diystyru fel cyfalaf gan awdurdodau lleol.


Notes:

[1] 1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; ac O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy.94) ac O.S. 2003/897 (Cy. 117) yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] 2004 p.10.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091231 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 6 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053288w.html