BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 3293 (Cy.253)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053293w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3293 (Cy.253)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005[a]

  Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005[
2].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     2. —(1) Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle "(3)", rhodder "(4)".

    (2) Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl "o dan reoliad 13", ychwanegir "neu 14".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 ("y Prif Reoliadau") yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Ddeddf") at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro dau gyfeirnod anghywir o fewn y Prif Reoliadau.

Nid yw'r Prif Reoliadau eisioes mewn grym a bydd y diwygiadau hyn yn cael effaith o'r adeg y bydd y Prif Reoliadau yn dod i rym.


Notes:

[1] 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.back

[2] S.I.2005/2701 (Cy.190)back

[3] 1998 p.38back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Dylai teitl Cymraeg yr offeryn hwn ddarllen: "Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005". back



ISBN 0 11 091236 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053293w.html