BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 Rhif 3366 (Cy.263)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053366w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3366 (Cy.263)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â chwynion

RHAN II

SEFYDLU'R WEITHDREFN GWYNION
4. Dyletswydd i sefydlu gweithdrefn gwynion
5. Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion
6. Swyddog cwynion
7. Cyhoeddusrwydd
8. Gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer staff

RHAN III

NATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN GWYNION
9. Personau a gaiff wneud cwynion
10. Materion y caniateir gwneud cwynion yn eu cylch
11. Materion na chaniateir eu hystyried
12. Cwynion yn ddarostyngedig i ystyriaeth gydredol

RHAN IV

GWEITHIO GYDAG ASIANTAETHAU ERAILL
13. Cwynion y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hwy
14. Ymdrin â chwynion safonau gofal

RHAN V

YMDRIN Â CHWYNION A'U HYSTYRIED GAN AWDURDODAU LLEOL
15. Gwneud cwyn
16. Gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli
17. Tynnu cwynion yn ôl
18. Penderfyniad lleol
19. Ystyriaeth ffurfiol
20. Ymateb

RHAN VI

Y GWRANDAWIAD GAN Y PANEL ANNIBYNNOL
21. Y Panel Annibynnol
22. Gofyn am wrandawiad gan y panel annibynnol
23. Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydweithredu â'r Cynulliad
24. Camau cyntaf ymdrin â chais
25. Gweithdrefn y gwrandawiad gan y panel
26. Adroddiad y panel
27. Ymateb yr awdurdod lleol
28. Cwyno i'r Ombwdsmon

RHAN VII

DYSGU O GWYNION
29. Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn gwynion
30. Adroddiad Blynyddol

RHAN VIII

DARPARIAETH DROSIANNOL
31. Darpariaeth Drosiannol

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 114(3), (4) a (5) ac 115(1), (2), (4), (5) a (6) o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[
1] ac adrannau 26A a 26ZB o Ddeddf Plant 1989[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn —

Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â chwynion
     3. —(1) Rhaid i unrhyw weithdrefn gwynion a sefydlir o dan y rheoliadau hyn gael ei gweithredu'n unol â'r egwyddor y dylai lles defnyddiwr y gwasanaeth gael ei ddiogelu a'i hybu.

    (2) Dylid ystyried dymuniadau a theimladau defnyddwyr y gwasanaeth pan ellir canfod beth ydynt.



RHAN II

SEFYDLU'R WEITHDREFN GWYNION

Dyletswydd i sefydlu gweithdrefn gwynion
    
4. Rhaid i bob awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â'r rheoliadau hyn ar gyfer ymdrin â chwynion a'u hystyried a rhaid i'r trefniadau fod yn ysgrifenedig.

Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion
    
5. Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog i fod yn gyfrifol am geisio sicrhau y cydymffurfir â'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.

Swyddog cwynion
    
6. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel swyddog cwynion, i reoli'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a'u hystyried ac yn benodol—

    (2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion.

    (3) Caniateir i'r swyddog cwynion—

Cyhoeddusrwydd
    
7. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd effeithiol i'w drefniadau cwynion.

    (2) Rhaid i bob awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau yr hysbysir defnyddwyr y gwasanaeth a'u gofalwyr, os oes yna rai, o'i drefniadau, o enw ei swyddog cwynion ac o'r cyfeiriad lle y gellir cysylltu â'r swyddog cwynion.

    (3) Rhaid rhoi copi o'r trefniadau a wneir o dan reoliad 3, yn rhad ac am ddim, i unrhyw berson sy'n gofyn am un.

    (4) Rhaid i bob awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i ddarparu copi o'i drefniadau ar unrhyw ffurf a fynnir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth neu gan berson arall sy'n gwneud cwyn ar ran defnyddiwr y gwasanaeth.

Gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer staff
    
8. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau yr hysbysir ei staff ynghylch y modd y gweithredir y weithdrefn gwynion ac y cânt eu hyfforddi i'w gweithredu.



RHAN III

NATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN GWYNION

Personau a gaiff wneud cwynion
    
9. —(1) Caiff unrhyw berson y mae gan yr awdurdod lleol y pwer neu'r ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth ar ei gyfer, neu i sicrhau y darperir gwasanaeth ar ei gyfer, wneud cwyn, pan fyddai'r gwasanaeth, pe darperid ef, yn cael ei ddarparu fel un o swyddogaethau'r gwasanaeth cymdeithasol a phan fo angen unrhyw berson amdano, neu'r angen posibl am wasanaeth o'r fath (ym mha fodd bynnag), wedi dod i sylw'r awdurdod lleol.

    (2) Caiff person ("cynrychiolydd") sy'n gweithredu ar ran person a grybwyllir ym mharagraff (1) wneud cwyn mewn unrhyw achos pan fo'r person hwnnw—

    (3) Caiff person ("cynrychiolydd") wneud cwyn mewn cysylltiad â pherson sydd wedi marw.

    (4) Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy'n gwneud cwyn o dan baragraff (2)(a) neu (c) neu o dan baragraff (3), ym marn yr awdurdod lleol, fod â buddiant neu fod wedi bod â buddiant yn lles y person, a bod yn berson addas i weithredu fel cynrychiolydd.

    (5) Os bydd yr awdurdod lleol o'r farn, mewn unrhyw achos, nad oes gan unrhyw berson sy'n gwneud cwyn o dan baragraffau (2)(a) neu (c) neu (3) fuddiant digonol yn lles y person neu nad yw'n berson addas i weithredu fel cynrychiolydd, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r person yn ysgrifenedig ar unwaith, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.

    (6) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (5) a phan fo'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ac y gwnaed y gwyn mewn cysylltiad ag ef yn fyw, rhaid i'r awdurdod lleol, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny o ystyried beth yw dealltwriaeth y person y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ddarparu copi o'r hysbysiad ar gyfer y person hwnnw.

    (7) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at achwynydd yn cynnwys cyfeiriad at ei gynrychiolydd.

Materion y caniateir gwneud cwynion yn eu cylch
    
10. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caniateir i gwyn i awdurdod lleol fod am y modd y caiff ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eu harfer gan gynnwys—

    (2) Ni chaniateir gwneud cwyn o dan y rheoliadau hyn am arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 33, 34, 35, 43, 44 a 47 o Ddeddf Plant 1989.

Materion na chaniateir eu hystyried
     11. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn mynnu bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymchwilio i unrhyw gwyn yr ymchwiliwyd iddi—

Cwynion yn ddarostyngedig i ystyriaeth gydredol
    
12. —(1) Pan fo cwyn yn ymwneud ag unrhyw fater—

rhaid i'r awdurdod lleol ystyried sut y dylid ymdrin â'r gwyn, a hynny drwy ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson neu gorff arall y mae'n briodol ymgynghori ag ef ym marn yr awdurdod. Cyfeirir at gwyn o'r fath at ddibenion y rheoliad hwn fel "cwyn ddarostyngedig i ystyriaeth gydredol".

    (2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwyn sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydredol o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau os ymddengys i'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg y byddai parhau i'w hystyried yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

    (3) Pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad hwnnw.

    (4) Pan fo'r awdurdod lleol yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), caiff fynd yn ôl i'w hystyried ar unrhyw adeg.

    (5) Pan roddwyd y gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol ganfod sut mae'r ystyriaeth gydredol yn mynd rhagddi a rhaid iddo hysbysu'r achwynydd pan fydd wedi dod i ben.

    (6) Rhaid i'r awdurdod lleol fynd yn ôl i ystyried unrhyw gwyn os rhoddir y gorau i'r ystyriaeth gydredol neu os daw'r ystyriaeth gydredol i ben a bod yr achwynydd yn gofyn am i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.



RHAN IV

GWEITHIO GYDAG ASIANTAETHAU ERAILL

Cwynion y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hwy
    
13. —(1) Mewn unrhyw achos pan ymddengys i'r swyddog cwynion bod cwyn neu y gallai cwyn fod yn un sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau gan fwy nag un awdurdod lleol (cwyn y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hi) rhaid i'r swyddog cwynion, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—

    (2) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol sy'n arwain—

    (3) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol nad yw'n arwain—

Ymdrin â chwynion safonau gofal
    
14. —(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef neu â hi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000[9], rhaid i'r awdurdod lleol y mae cwyn o'r fath yn dod i'w law, o fewn 2 ddiwrnod i'r gwyn ddod i law—

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

    (3) Mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y gwyn o dan reoliad 18.



RHAN V

YMDRIN Â CHWYNION A'U HYSTYRIED GAN AWDURDODAU LLEOL

Gwneud cwyn
     15. —(1) Pan fo person yn dymuno gwneud cwyn o dan y Rheoliadau hyn, caiff wneud cwyn i unrhyw aelod o staff yr awdurdod lleol sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.

    (2) Caniateir gwneud cwyn o dan baragraff (1) ar lafar neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys ei gwneud yn electronig).

Gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli
    
16. Rhaid i'r awdurdod lleol roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eirioli a all fod o help i'r achwynydd ym marn y swyddog cwynion.

Tynnu cwynion yn ôl
    
17. —(1) Caiff yr achwynydd dynnu cwyn yn ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol ysgrifennu cyn gynted â phosibl at yr achwynydd i gadarnhau bod y gwyn wedi'i thynnu'n ôl ar lafar.

Penderfyniad lleol
    
18. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i benderfynu ar y gwyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2), o fewn 10 niwrnod gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y gwnaed y gwyn.

    (2) Caniateir estyn o hyd at 10 niwrnod gwaith pellach y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) pan fydd yr achwynydd yn gofyn am hynny neu gyda chytundeb yr achwynydd.

    (3) At ddibenion paragraff (1), caiff yr awdurdod lleol, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y gwyn.

    (4) Os penderfynir ar y gwyn o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod lleol roi cadarnhad ysgrifenedig i'r achwynydd o'r penderfyniad y cytunwyd arno.

    (5) Os na phenderfynwyd ar y gwyn o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r achwynydd yn ysgrifenedig:

    (6) Caiff yr achwynydd ofyn ar lafar neu'n ysgrifenedig am i'r gwyn gael ei hystyried yn ffurfiol o dan reoliad 19, a hynny ar unrhyw adeg o fewn 30 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y gwnaed y gwyn gyntaf.

Ystyriaeth ffurfiol
    
19. —(1) Pan fo'r achwynydd wedi gofyn am i'r gwyn gael ei hystyried yn ffurfiol, yn ddarostyngedig i reoliadau 12, 13 a 14, rhaid i'r awdurdod lleol ymchwilio i'r gwyn i'r graddau y mae angen hynny ac yn y dull mwyaf priodol ym marn yr awdurdod ar gyfer penderfynu ar y sylwadau'n gyflym ac yn effeithlon.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cofnod ysgrifenedig ffurfiol o'r gwyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a'i anfon at yr achwynydd ynghyd â gwahoddiad i'r achwynydd i wneud sylwadaeth ar ba mor gywir yw'r cofnod.

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadaethau a wneir gan yr achwynydd o dan baragraff (2) a rhaid iddo, yng ngoleuni'r sylwadaethau hynny, wneud unrhyw ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i'r cofnod er mwyn sicrhau ei fod, ym marn yr awdurdod, yn gofnod cywir o'r gwyn.

    (4) Ac eithrio pan wnaed trefniadau o dan reoliad 18(2), caiff yr awdurdod lleol, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y gwyn.

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol—

    (6) Caiff yr awdurdod lleol—

    (7) Pan gaiff unrhyw berson ei gyf-weld yn unol â pharagraff 6(a) rhaid i'r awdurdod lleol—

    (8) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i roi gwybod i'r achwynydd sut mae'r ystyriaeth ffurfiol o'r gwyn yn mynd rhagddi.

Ymateb
    
20. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol baratoi ymateb ysgrifenedig i'r gwyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid anfon yr ymateb at yr achwynydd o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y daeth cais gan yr achwynydd am ystyriaeth ffurfiol i law'r awdurdod lleol.

    (3) Os, yn achos—

nad yw'n bosibl anfon yr ymateb o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r rheswm am yr oedi, o'r dyddiad y mae'n disgwyl anfon yr ymateb a rhaid iddo anfon yr ymateb hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

    (4) Rhaid i'r ymateb gynnwys gwybodaeth am—

    (5) Rhaid anfon copïau o'r ymateb a baratoir yn unol â pharagraff (1)—



RHAN VI

GWRANDAWIAD GAN Y PANEL ANNIBYNNOL

Y Panel Annibynnol
    
21. —(1) Rhaid i'r Cynulliad gymryd unrhyw gamau y mae'n eu hystyried yn rhesymol, gan gynnwys mewn cysylltiad â threfniadau gweinyddol ac ariannol, i sefydlu panel i ystyried cwynion ymhellach o dan y Rhan hon.

    (2) Yn benodol rhaid i'r Cynulliad baratoi a chadw'n gyfredol ddwy restr o bersonau sydd yn ei farn ef yn addas i ystyried cwynion ymhellach o dan y Rhan hon.

    (3) Rhaid i'r personau a benodir i un o'r rhestrau a sefydlir o dan baragraff (2) fod â phrofiad o ddarparu gwasanaethau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu darparu neu y caiff awdurdodau lleol eu darparu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970[
10] neu wasanaethau sy'n debyg i wasanaethau o'r fath ("y rhestr o bersonau a chanddynt brofiad o'r gwasanaethau cymdeithasol"). Ni ddylai fod gan y personau a bennir i'r rhestr arall ("y rhestr o bersonau lleyg") brofiad o'r fath.

    (4) Nid yw person i'w ystyried yn addas ar gyfer ei benodi o dan baragraff (2) os yw'n cael ei gyflogi gan, neu os yw'n aelod etholedig o, awdurdod lleol yng Nghymru.

Gofyn am wrandawiad gan y panel annibynnol
     22. —(1) Caiff achwynydd ofyn am i gwyn gael ei hystyried ymhellach gan banel annibynnol yn unol â'r Rhan hon mewn unrhyw achos—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud i'r Cynulliad o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith i'r diwrnod yr anfonwyd yr ymateb ysgrifenedig i'r gwyn i'r achwynydd o dan reoliad 20(2) neu yr anfonwyd hysbysiad o dan reoliad 9(5) neu'r ymateb ysgrifenedig i'r achwynydd o dan reoliad 18(2) o Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant)(Cymru) 2005.

    (3) Pan wneir cais o dan baragraff (1)(b) neu (ch) rhaid ei wneud o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad pan fo'r achwynydd yn dod yn ymwybodol nad yw'r awdurdod lleol wedi anfon ymateb ysgrifenedig i'r gwyn neu'r sylw o fewn 3 mis i'r dyddiad y'i gwnaed.

    (4) Pan fo achwynydd yn hysbysu'r awdurdod lleol y ceir cwyn yn ei erbyn ei fod yn gofyn am ystyriaeth bellach o'r gwyn gan banel annibynnol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i'r Cynulliad am y cais a chaiff y cais ei drin fel pe bai wedi'i wneud i'r Cynulliad ar y dyddiad y daeth i law'r awdurdod lleol.

Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydweithredu â'r Cynulliad
     23. —(1) Pan ofynnir am wrandawiad gan banel annibynnol o dan reoliad 22(1) rhaid i'r awdurdod lleol sy'n destun y gwyn ddarparu unrhyw gymorth y gellir yn rhesymol fod ei angen er mwyn galluogi'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

    (2) Mae'r cymorth y gall fod ei angen o dan baragraff (1) yn cynnwys cynhyrchu gwybodaeth neu ddogfennau sy'n berthnasol i gwyn er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a allai fel arall wahardd cynhyrchu gwybodaeth neu ddogfennau o'r fath neu gyfyngu ar eu cynhyrchu.

Camau cyntaf ymdrin â chais
    
24. —(1) Pan fo cais am wrandawiad gan banel yn dod i law'r Cynulliad, rhaid i'r Cynulliad—

    (2) Rhaid i'r Cynulliad gynnull panel i ystyried y gwyn ymhellach o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i ddatganiad ysgrifenedig yr achwynydd ynghylch y gwyn ddod i law.

    (3) Rhaid iddo fod yn banel o 3 aelod, un oddi ar y rhestr o bersonau â phrofiad gwasanaethau cymdeithasol a dau o'r rhestr o bersonau lleyg.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad benodi'n gadeirydd un o'r aelodau oddi ar y rhestr o bersonau lleyg.

Gweithdrefn y gwrandawiad gan y panel
    
25. —(1) Wrth ystyried y gwyn ymhellach, caiff y panel fabwysiadu unrhyw weithdrefnau y mae ef yn penderfynu mai hwy yw'r rhai mwyaf priodol ar gyfer ymdrin â'r gwyn.

    (2) Cyn i'r panel benderfynu i fabwysiadu gweithdrefn ar gyfer ymdrin â'r gwyn rhaid iddo ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson sy'n destun y gwyn.

    (3) Os bydd unrhyw anghydfod yn codi ynghylch y weithdrefn sydd i'w mabwysiadu ar gyfer ymdrin â'r gwyn bydd penderfyniad cadeirydd y panel yn derfynol.

    (4) Caiff y panel wneud unrhyw ymholiadau a chymryd unrhyw gyngor y mae'n penderfynu eu bod yn briodol.

    (5) Rhaid i'r panel sicrhau y rhoddir i'r achwynydd ac i unrhyw berson sy'n destun y gwyn y cyfle i gyflwyno eu hachos ar lafar, neu'n ysgrifenedig os dyna'u dymuniad.

    (6) Caiff y panel neu aelod o'r panel gyf-weld unrhyw berson ac eithrio'r achwynydd neu destun y gwyn os yw'r panel o'r farn y gallant ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwyn.

    (7) Mewn unrhyw gyfweliad neu gyfarfod ag aelod o'r panel caniateir i'r achwynydd ac i unrhyw berson sy'n destun y gwyn ddod â pherthynas neu ffrind, ac unrhyw berson a ddewisir ganddynt i weithredu fel cynghorydd, yn gwmni iddynt.

    (8) Caiff person sy'n dod yn gwmni i achwynydd neu i berson sy'n destun y gwyn siarad â'r panel, gyda chydsyniad cadeirydd y panel.

    (9) Cyfarfod preifat fydd unrhyw gyfarfod o'r panel neu gyfarfod rhwng unrhyw aelod o'r panel ac un arall neu rhwng aelod o'r panel ac achwynydd neu unrhyw berson sy'n destun y gwyn.

Adroddiad y panel
    
26. —(1) Rhaid i gadeirydd y panel baratoi adroddiad ysgrifenedig—

    (2) Caiff yr adroddiad gynnwys awgrymiadau a fyddai ym marn y panel yn gwella gwasanaethau'r awdurdod lleol neu a fyddai'n effeithiol fel arall at ddibenion penderfynu ar y gwyn.

    (3) Rhaid danfon yr adroddiad i'r Cynulliad o fewn 5 niwrnod gwaith i'r dyddiad y daw'r gwrandawiad gan y panel i ben.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i'r Cynulliad anfon copïau o adroddiad y panel—

    (5) Caiff cadeirydd y panel beidio â datgelu unrhyw ran o adroddiad y panel pan fo hynny'n angenrheidiol, ym marn y cadeirydd, er mwyn diogelu cyfrinachedd unrhyw drydydd parti.

    (6) Os nad yw cadeirydd y panel yn gallu sicrhau bod yr adroddiad ar gael i'r Cynulliad o fewn yr amser a nodir ym mharagraff (3) rhaid i'r Cynulliad ysgrifennu at y personau y mae ganddynt hawl i gael copi o'r adroddiad yn egluro'r rheswm dros yr oedi ac yn dweud pryd bydd yr adroddiad ar gael.

Ymateb yr awdurdod lleol
    
27. Rhaid i'r awdurdod lleol, o fewn 15 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y daw adroddiad y panel i law—

Cwyno i'r Ombwdsmon
    
28. Rhaid i'r hysbysiad a anfonir o dan reoliad 27(b) egluro hawl yr achwynydd i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Public Services Ombudsman for Wales).



RHAN VII

DYSGU O GWYNION

Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn gwynion
    
29. Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi eu gwneud gyda'r bwriad o sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau drwy gadw cofnod o bob cwyn sy'n dod i law, o ganlyniad pob cwyn, a pha un a gydymffurfiwyd o fewn y terfynau amser a bennir yn rheoliadau 18 a 20.

Adroddiad Blynyddol
    
30. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi adroddiad blynyddol ar eu perfformiad o ran ymdrin â chwynion a'u hystyried, a hynny at ddibenion—

    (2) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.



RHAN VIII

DARPARIAETH DROSIANNOL

Darpariaeth Drosiannol
    
31. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) pan fo cwyn wedi'i gwneud yn unol ag unrhyw weithdrefn gwynion flaenorol cyn 1 Ionawr 2006, rhaid ei hystyried yn unol â'r weithdrefn honno.

    (2) Pan, yn unol â gweithdrefn gwynion flaenorol,—

rhaid i'r awdurdod lleol ymdrin ag unrhyw gais o'r fath (os gwneir un) fel cais am ystyried cwyn o dan Ran VI o'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cwyno i awdurdodau lleol ynghylch y modd y maent yn arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau y mae modd eu hystyried ar ffurf sylwadau o dan adrannau 24D a 26 a pharagraff 6 o Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989. Maent yn disodli Cyfarwyddiadau Gweithdrefn Gwynion 1990. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer ystyried ymhellach o dan y Rheoliadau hyn sylwadau a wneir o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn gwynion a nodi'r egwyddorion i'w dilyn wrth ei gweithredu. O dan reoliad 5 rhaid i'r awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog a chanddo gyfrifoldebau mewn perthynas â chwynion ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benodi swyddog cwynion.

Mae rheoliad 7 yn nodi gofynion mewn perthynas â chyhoeddusrwydd i'r weithdrefn gwynion ac mae rheoliad 8 yn nodi gofynion hyfforddi staff.

Mae Rhan III yn nodi pwy gaiff gwyno (rheoliad 9) ac am ba faterion (rheoliadau 10 ac 11). Mae rheoliad 12 yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sut y mae'n rhaid ymdrin â chwynion pan fo person neu gorff arall yn eu hystyried ar yr un pryd. Mae hyn y caniatáu i'r awdurdod lleol atal ystyriaeth dros dro pe byddai parhau â hi'n peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

Mae Rhan IV yn sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gweithio gydag awdurdodau lleol eraill (rheoliad 13) neu gyda phersonau a gofrestrir o dan y Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 14).

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol geisio penderfynu ar gwyn yn lleol ac mae rheoliad 19 yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ffurfiol o'r gwyn pan na lwyddwyd i benderfynu arni'n lleol.

Mae rheoliad 20 yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r ymateb sydd i'w anfon gan yr awdurdod lleol gan gynnwys ymateb ynghylch hawl yr achwynydd i ofyn am wrandawiad gan banel annibynnol yn unol â Rhan VI o'r Rheoliadau.

Mae Rhan VI yn nodi'r trefniadau ar gyfer ystyried yn annibynnol gwynion a wneir o dan y Rheoliadau hyn a sylwadau a wneir o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005.

Mae Rhan VII yn nodi sut y mae awdurdodau lleol i fonitro'r trefniadau y maent wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau eu bod eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau a sut i adrodd yn ôl arnynt.


Notes:

[1] 2003 p.43.back

[2] 1989 p.41. Mewnosodwyd adran 26ZB o Ddeddf Plant 1989 gan adran 116 o'r Ddeddf. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Plant 1989 i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1999 p.52.back

[4] O.S. 2000/2993 (Cy.193) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390.back

[5] 1971 p.80.back

[6] 2003 p.43.back

[7] 1970 p.42. Mewnosodwyd adran 7B gan adran 50 o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ac fe'u diwygiwyd gan adran 67(1) a pharagraffau 15(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.back

[8] 1999 p.8.back

[9] 2000 p.14.back

[10] 1970 p.42.back

[11] O.S. 2005/3365 (Cy.262).back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091240 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 15 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053366w.html