BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 Rhif 3368 (Cy.265)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053368w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3368 (Cy.265)

AMAETHYDDIAETH

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

Rhagarweiniol
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli

RHAN 2

Gorfodi Rheoliad 183/2005
3. Cwmpas a dehongli Rhan 2
4. Awdurdodau cymwys
5. Tramgwyddau a chosbau
6. Ffurf yr hysbysiad gyda'r bwriad o gofrestru
7. Ffurf y datganiad mewn perthynas â mesurau trosiannol
8. Ffurf y cais sydd i'w gymeradwyo
9. Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth
10. Gweithdrefn ar gyfer codi ataliad dros dro
11. Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth
12. Ffurf y cais ar gyfer diwygio cymeradwyaeth neu gofrestriad
13. Hawl i apelio yn erbyn ataliad cofrestru dros dro neu ei ddirymu
14. Ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau neu ddiwygio cymeradwyaethau

RHAN 3

Gorfodi Rheoliad 178/2002
15. Tramgwyddau, cosbau a gorfodi

RHAN 4

Gweinyddu a Gorfodi yn Gyffredinol
16. Gorfodi
17. Hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid
18. Hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid
19. Apelau i Lys y Goron
20. Camau sy'n deillio o apelau
21. Gorchmynion gwahardd busnes bwyd anifeiliaid
22. Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid
23. Cosbau am dramgwyddau mewn perthynas â hysbysiadau gwella, gorchmynion gwahardd etc
24. Pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig
25. Archwilio, atafaelu a chadw bwyd anifeiliaid a amheuir
26. Cyflwyno hysbysiadau
27. Tramgwyddau yn ymwneud ag arfer pwerau gan swyddogion awdurdodedig
28. Atebolrwydd am wariant
29. Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi)
30. Y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi
31. Ail samplu gan Gemegydd y Llywodraeth
32. Darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â samplu a dadansoddi
33. Pwerau diofyn y Cynulliad ac ardal pwerau'r swyddog awdurdodedig
34. Diogelu swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu'n ddidwyll
35. Amddiffyniadau o fethiant person arall, camgymeriad etc ac allforio
36. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau yn yr Alban
37. Dwyn erlyniadau a therfyn amser ar gyfer erlyniadau
38. Dirymiadau

  ATODLEN 1 CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BENODEDIG

  ATODLEN 2 DIRYMIADAU

  ATODLEN 3 FFIOEDD SY'N DALADWY AM GYMERADWYAETHAU

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1] mewn perthynas â mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[2], polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[3] a mesurau yn ymwneud â bwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd[4], wrth arfer y pwerau a roddwyd yn rhinwedd yr adran 2(2) ddywededig ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[5] neu fel y bo'n briodol Erthygl 9 o Reoliadau (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[6] yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 183/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag yn y Rheoliad hwnnw.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn nid yw "bwyd anifeiliaid" yn cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau o'r cyfryw ychwanegion—

    (4) Ar wahân i'r paragraff hwn, pan fo unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod a nodir yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddiwrnod—

bydd y cyfryw ddiwrnod yn cael ei eithrio o'r cyfnod.



RHAN 2

Gorfodi Rheoliad 183/2005

Cwmpas a dehongli Rhan 2
     3. —(1) Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(2) Rheoliad 183/2005.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Erthygl wedi'i Rhif o yn gyfeiriad at yr Erthygl wedi'i Rhif o felly yn Rheoliad 183/2005.

Awdurdodau cymwys
    
4. Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 183/2005 yw—

Tramgwyddau a chosbau
    
5. —(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 183/2005 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i—

    (2) Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

Ffurf yr hysbysiad gyda'r bwriad o gofrestru
    
6. Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan Erthygl 9 (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru) hysbysu'r awdurdod gorfodi o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) neu (b) o'r Erthygl honno sicrhau bod unrhyw gyfryw hysbysiad—

Ffurf y datganiad mewn perthynas â mesurau trosiannol
    
7. Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae Erthygl 18(3) (mesurau trosiannol) yn gymwys iddynt sicrhau bod datganiad, wedi'i gyflwyno yn unol â'r ddarpariaeth honno—

Ffurf y cais sydd i'w gymeradwyo
    
8. Pan fo'n ofynnol i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 10, mae'n rhaid i gais gael ei wneud i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal lle y mae'r sefydliad wedi'i leoli sydd—

Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth
    
9. —(1) Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau yn unol ag Erthygl 14 (atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

    (2) Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

Gweithdrefn ar gyfer codi ataliad dros dro
    
10. Pan fo'r awdurdod gorfodi a gyflwynodd yr hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o dan reoliad 9 yn fodlon—

mae'n rhaid iddo godi'r ataliad dros dro ar unwaith a hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw.

Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth
    
11. —(1) Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 15 (dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

    (2) Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

    (3) Pan fo awdurdod gorfodi wedi dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo—

Ffurf y cais ar gyfer diwygio cymeradwyaeth neu gofrestriad
    
12. —(1) Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn dymuno gwneud cais am ddiwygiadau i gymeradwyaeth neu gofrestriad yn unol ag Erthygl 16 (diwygiadau i gofrestru neu gymeradwyo sefydliad), mae'n rhaid i gais i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae sefydliad y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol wedi'i leoli ynddi—

Hawl i apelio yn erbyn ataliad cofrestru dros dro neu ei ddirymu
    
13. —(1) Caiff unrhyw berson sy'n teimlo iddo gael cam oherwydd penderfyniad yr awdurdod gorfodi a wnaed mewn perthynas â'r canlynol—

apelio i lys ynadon.

    (2) Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw drwy wneud cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980[
13] yn gymwys i'r gweithrediadau.

    (3) Y cyfnod y gellir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis i'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio a bernir mai drwy wneud cwyn am orchymyn at ddibenion y paragraff hwn y dygir apêl.

    (4) Pan fo llys ynadon yn penderfynu, ar apêl o dan baragraff (1), bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, mae'n rhaid i'r awdurdod weithredu ar benderfyniad y llys.

    (5) Pan fo cofrestriad yn cael ei atal dros dro neu ei ddirymu, caiff gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid a oedd wedi bod yn defnyddio'r sefydliad dan sylw, yn union cyn y cyfryw atal dros dro neu ddirymiad, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd oni bai—

    (6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd anifeiliaid os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sefydliad.

Ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau neu ddiwygio cymeradwyaethau
     14. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'n rhaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy'n gwneud cais i awdurdod gorfodi o dan reoliad 8 am gymeradwyaeth neu o dan reoliad 12 am ddiwygiad i gymeradwyaeth—

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan reoliadau 8 neu 12, nid oes angen i'r awdurdod gorfodi—

    (3) Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn gwneud cais o dan reoliad 8 neu 12 yn ceisio cymeradwyaeth neu fel y digwydd ddiwygiad i gymeradwyaeth sefydliad fel un lle y gellir ymarfer mwy nag un gweithgaredd busnes bwyd anifeiliaid sy'n gofyn am gymeradwyaeth, mae'r gweithredwr yn atebol i dalu un ffi berthnasol, sef y ffi uchaf a fydd yn daladwy fel arall.

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr "ffi berthnasol" yw'r ffi a bennwyd yn Atodlen 3.



RHAN 3

Gorfodi Rheoliad 178/2002

Tramgwyddau, cosbau a gorfodi
    
15. —(1) Mae unrhyw berson sy'n torri darpariaethau penodedig Rheoliad 178/2002 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i

    (2) Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

    (3) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 15 ac 18 yw'r awdurdod gorfodi ac at ddibenion Erthygl 20 yr awdurdod gorfodi neu'r Asiantaeth.

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr "bwyd anifeiliaid" yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.



RHAN 4

Gweinyddu a Gorfodi yn Gyffredinol

Gorfodi
    
16. Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal i weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 178/2002 a Rheoliad 183/2005.

Hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid
    
17. —1) Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, caiff y swyddog hwnnw drwy gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid") i'r person hwnnw—

    (2) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.

    (3) Mae'n rhaid i hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid nodi'r hawl i apelio o dan reoliad 18 a'r terfyn amser priodol ar gyfer dwyn unrhyw apêl o'r fath.

Hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gwella busnes bwyd anifeiliaid
    
18. —(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid apelio i lys ynadon.

    (2) Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw drwy wneud cwŷn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon[
14] yn gymwys i'r gweithrediadau.

    (3) Y cyfnod y gellir dwyn apêl o dan baragraff (1) o fewn iddo yw—

a bernir yn gyfystyr â dwyn apêl cwyn am orchymyn at ddibenion y paragraff hwn.

Apelau i Lys y Goron
     19. Caiff person a dramgwyddir oherwydd—

apelio i Lys y Goron.

Camau sy'n deillio o apelau
    
20. —(1) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid caiff y llys ddileu neu gadarnhau'r hysbysiad ac, os bydd yn ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r cyfryw addasiadau ag y gwêl y llys yn dda o dan yr amgylchiadau.

    (2) Pan fo unrhyw gyfnod a bennwyd mewn hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn unol â rheoliad 17(1)(ch) fel arall yn cynnwys unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, bydd y diwrnod hwnnw yn cael ei eithrio o'r cyfnod hwnnw.

    (3) Mae'n rhaid ystyried unrhyw apêl yn un yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arno yn derfynol, y'i tynnir yn ôl neu y'i dilëir oherwydd diffyg erlyniad.

Gorchmynion gwahardd busnes bwyd anifeiliaid
    
21. —(1) Os—

mae'n rhaid i'r llys drwy orchymyn osod y gwaharddiad priodol.

    (2) Bodlonir yr amod ynglŷn â risg i iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid os bydd unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys amhariad, boed yn barhaol neu dros dro), sef—

ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr "iechyd" yw iechyd anifeiliaid neu, drwy fwyta cynhyrchion anifail o'r fath, iechyd dynol.

    (3) Y gwaharddiad priodol yw—

    (4) Os—

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad ar weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid rhag cymryd rhan mewn rheoli unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

    (5) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (y cyfeirir ato fel "gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid" yn y Rheoliadau hyn), mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi—

ac mae unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

    (6) Bydd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol—

    (7) Mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) o fewn tri diwrnod ar ôl bod yn fodlon fel y cyfeiriwyd ato yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais am y cyfryw dystysgrif, mae'n rhaid i'r awdurdod—

    (8) Mae'n rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os cred y llys, ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais, ei bod yn briodol gwneud hynny mewn perthynas â holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ers i'r gorchymyn gael ei wneud; ond ni ellir ystyried cais o'r fath os y'i gwneir—

    (9) Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 22(2) mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, bydd paragraff (1) yn gymwys os collfarnwyd gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid gan y llys o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

    (10) Pan fo tramgwydd gan weithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 35(1), bydd paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â'r person arall hwnnw fel y mae'n gymwys i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ac mae'n rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â hynny.

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid
    
22. —(1) Os yw swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi yn fodlon bod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid caiff y swyddog drwy gyflwyno hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel "hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid") osod y gwaharddiad priodol.

    (2) Os yw llys ynadon yn fodlon, ar ôl i'r cyfryw swyddog wneud cais, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "gorchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid") osod y gwaharddiad priodol.

    (3) Ni chaiff y cyfryw swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid oni chyflwynodd y swyddog, o leiaf ddiwrnod cyn dyddiad y cais, hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

    (4) Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 21 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw ond fel pe bai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg ar fin digwydd i iechyd.

    (5) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn man amlwg ar y cyfryw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid ag y cred y swyddog sy'n briodol; a bydd unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw hysbysiad gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn euog o dramgwydd

    (6) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid gael ei wneud, mae'n rhaid i swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

    (7) Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol—

    (8) Bydd hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol ar ôl i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mwyach mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.

    (9) Mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) o fewn tri diwrnod ar ôl bod yn fodlon fel y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw; ac ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais am dystysgrif o'r fath, mae'n rhaid i'r awdurdod—

    (10) Pan fo hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid yn cael ei gyflwyno i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid, mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredwr mewn perthynas ag unrhyw golled a gafwyd am fod y gweithredwr wedi cydymffurfio â'r hysbysiad—

a phenderfynir ar unrhyw anghydfod ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm y digollediad sy'n daladwy o dan y paragraff hwn drwy gymrodeddu.

Cosbau am dramgwyddau mewn perthynas â hysbysiadau gwella, gorchmynion gwahardd etc
    
23. Mae unrhyw un sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 17(2), 21(5) neu 22(5) neu (6) yn agored—

Pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig
    
24. —(1) At ddibenion gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol, ac ar ôl cyflwyno dogfen ddilys briodol sy'n dangos ei awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i—

    (2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, yn fodlon bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw gyfryw fangre fel y nodir ym mharagraff (1), a naill ai—

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd ganddo awdurdodi'r swyddogion awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen.

    (3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.

    (4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef a'r cyfryw offer ag yr ymddengys i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol, ac wrth adael unrhyw fangre heb ei feddiannu y mae wedi mynd i mewn iddo yn rhinwedd y cyfryw warant mae'n rhaid iddo ei adael wedi'i gau'n ddiogel mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd cyn mynd i mewn iddo.

    (5) Mae hawl gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant o roddwyd oddi tano, i archwilio—

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, yr hawl i gymryd ar y safle hwnnw, yn y modd rhagnodedig, sampl o unrhyw ddeunydd yr ymddengys i'r swyddog ei fod yn fwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir, a gynhyrchir, a roddir ar y farchnad neu y bwriedir ei roi ar y farchnad neu'n ddeunydd a ddefnyddir, neu y bwriedir ei ddefnyddio, fel bwyd anifeiliaid.

    (7) Heb ragfarnu ei bwerau a'i ddyletswyddau o ran cymryd samplau yn y modd rhagnodedig, caiff swyddog awdurdodedig gymryd sampl mewn modd ac eithrio'r modd a ragnodir o unrhyw ddeunydd a werthwyd i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid neu y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel y cyfryw.

    (8) Pan fo swyddog awdurdodedig, at ddiben cymryd sampl yn unol â pharagraff (6) neu (7), yn cymryd peth ohono o bob un neu fwy o gynwysyddion, sydd wedi'u rhoi ar ddangos i'w gwerthu drwy fanwerthu, ac na fydd dim un ohonynt yn pwyso mwy na chwe chilogram, caiff perchennog y cynhwysydd neu'r cynwysyddion ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog awdurdodedig brynu'r cynhwysydd neu'r cynwysyddion ar ran yr awdurdod y mae'r swyddog yn gweithredu drosto.

    (9) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd oddi tano, yr hawl—

    (10) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n arfer y pŵer a roddir gan baragraff (9) mewn perthynas â chofnod a ddelir drwy gyfrifiadur—

    (11) Pan fo (yn achos person sy'n cynnal busnes, neu y mae'n ymddangos ei fod yn cynnal busnes gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fod ei fusnes yn cynnwys hynny)—

tybir bod y person y gosodir y gofyniad arno yn cydymffurfio ag ef, os yw'r person, ar adeg ei wneud, yn darparu i'r swyddog awdurdodedig sy'n ei wneud fanylion cywir a digonol am y cyhoeddiad o dan sylw, a lle y gellir cael copi ohono.

    (12) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a roddwyd oddi tano, yr hawl i atafaelu a chadw unrhyw gofnod y mae gan y swyddog sail rhesymol dros gredu ei fod yn gofnod y gall fod ei angen fel tystiolaeth mewn rheithdrefnau o dan y gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

    (13) Yn y rheoliad hwn—

    (14) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[15], i fynd i mewn i unrhyw fangre—

Archwilio, atafaelu a chadw bwyd anifeiliaid a amheuir
     25. —(1) Pan fo swyddog awdurdodedig wedi archwilio neu wedi samplu unrhyw ddeunydd o dan reoliad 24, bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys, os ymddengys i'r swyddog, wrth wneud y cyfryw archwiliad, neu wrth ddadansoddi samplau a gymerwyd, fod y deunydd yn methu â chydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

    (2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

ac mae unrhyw berson sy'n torri gofyniad hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.

    (3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn ymarfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(a), mae'n rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 diwrnod, benderfynu p'un a yw'n fodlon bod y deunydd yn cydymffurfio â'r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ai peidio ac—

    (4) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(b) neu'n cymryd camau o dan baragraff 3(b), mae'n rhaid i'r swyddog hysbysu'r person sy'n gyfrifol am y deunydd o fwriad y swyddog i gael ynad heddwch i ymdrin ag ef ac—

    (5) Os ymddengys i ynad heddwch, ar sail y cyfryw dystiolaeth y cred ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae'n ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, yn methu â chydymffurfio â gofyniad y gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig yna mae'n rhaid iddo gondemnio'r deunydd a gorchymyn—

    (6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff 2(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch sy'n ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu perchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Penderfynir ar unrhyw anghydfod ynglŷn â'r hawl i unrhyw ddigollediad neu swm y digollediad sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

    (8) Mae unrhyw un y bernir ei fod yn euog o dramgwydd o dan baragraff (2) yn agored—

Cyflwyno hysbysiadau
    
26. —(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 9, 10, 11, 17, 22 neu 25—

    (2) Pan na fo'n ymarferol, ar ôl ymholiad rhesymol i ganfod enw a chyfeiriad y person y dylid cyflwyno'r hysbysiad iddo, neu pan na fo'r fangre lle y cynhelir busnes bwyd anifeiliaid wedi'i feddiannu, gellir cyfeirio'r hysbysiad at "berchennog" neu "feddiannydd" y fangre lle y cynhelir y busnes bwyd anifeiliaid, a'i ddosbarthu i rywun yn y fangre honno, neu os nad oes neb ar y fangre y gellir ei ddosbarthu iddo, drwy osod yr hysbysiad neu gopi ohono mewn man amlwg ar y fangre.

Tramgwyddau yn ymwneud ag arfer pwerau gan swyddogion awdurdodedig
    
27. —(1) Mae unrhyw berson sydd yn fwriadol yn atal swyddog awdurdodedig wrth arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wnaed yn gyfreithlon gan y swyddog wrth arfer y cyfryw bwerau yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 o'r raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

    (2) Mae unrhyw berson nad yw'n swyddog awdurdodedig sy'n honni bod yn swyddog awdurdodedig o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os bydd unrhyw berson yn datgelu i unrhyw berson arall—

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol oni ddatgelwyd y wybodaeth wrth i'r person hwnnw neu unrhyw berson arall gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu er mwyn i'r person hwnnw neu unrhyw berson arall gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

    (4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i atal swyddog awdurdodedig sydd wedi cymryd sampl o dan reoliad 24 rhag datgelu—

Atebolrwydd am wariant
    
28. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'n rhaid i unrhyw symiau sy'n ddyledus i'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd Erthygl 54(5) (camau gweithredu yn achos diffyg cydymffurfiaeth) o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid i'r awdurdod gorfodi os gofynnir iddo wneud hynny.

    (2) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Erthygl 54(2)(g), (mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19 ar anfoniadau o drydydd gwledydd), o Reoliad 882/2004.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi)
    
29. —(1) Mae'r darpariaethau canlynol o Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (2), at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys mewn perthynas â samplu a dadansoddi o dan y Rheoliadau hynny—

    (2) Darllenir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 fel y maent yn gymwys i Gymru fel pe bai yn y Rheoliadau hynny—

Y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi
    
30. —(1) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol â rheoliad 24(6) yn cael sampl ac yn penderfynu trefnu iddo gael ei dadansoddi er mwyn canfod a dorrir neu a dorrwyd cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, mae'n rhaid i'r swyddog rannu'r sampl yn dair rhan sydd mor agos at fod o'r un maint ag y gellir a—

    (2) Os nad person y dylid anfon ato ran o'r sampl o dan baragraff (1) yw'r person a weithgynhyrchodd unrhyw ddeunydd a samplwyd o dan y Rheoliadau hyn, bydd y paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at bedair rhan yn cael ei roi yn lle'r cyfeiriad at dair rhan, ac mae'n rhaid i'r swyddog awdurdodedig o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y samplu anfon y bedwaredd ran at y gweithgynhyrchydd, oni ŵyr y swyddog pwy yw'r gweithgynhyrchydd a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd yn y Deyrnas Unedig ac os na all ganfod hynny ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol.

    (3) Mae'n rhaid anfon y rhan o'r sampl a anfonwyd at y dadansoddwr amaethyddol neu, fel y digwydd, i labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 ar y cyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig sy'n cadarnhau i'r sampl gael ei chymryd yn y modd a ragnodir gan Ran II o Atodlen I i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999.

    (4) Mae'n rhaid i'r dadansoddwr amaethyddol neu, fel y digwydd, y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4, ddadansoddi'r rhan o'r sampl a anfonwyd ato o dan baragraff (1), ac anfon tystysgrif ddadansoddi at y swyddog awdurdodedig, y mae'n rhaid iddo anfon copi at—

    (5) Os yw'r dadansoddwr amaethyddol yr anfonwyd y sampl ato o dan baragraff (1)(b)(i) yn penderfynu na ellir gwneud dadansoddiad effeithiol o'r sampl gan y dadansoddwr neu o dan ei gyfarwyddyd mae'n rhaid i'r dadansoddwr ei hanfon at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal arall, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill a gafodd gyda'r sampl, ac yna bydd paragraff (4) yn gymwys fel pe bai'r sampl wedi'i hanfon at y dadansoddwr arall hwnnw yn wreiddiol.

Ail samplu gan Gemegydd y Llywodraeth
    
31. —(1) Pan fo rhan o sampl o dan reoliad 30(1)(b) wedi'i dadansoddi a—

bydd paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

    (2) O ran y swyddog awdurdodedig—

anfon y rhan a gadwyd o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

    (3) Mae'n rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi yn y modd rhagnodedig y rhan o'r sampl a anfonwyd ato o dan is-baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif ddadansoddi y mae'n rhaid iddi fod—

    (4) Mae'n rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn union ar ôl ei derbyn roi i'r erlynydd (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ydyw) a'r diffynnydd gopi o dystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth.

    (5) Lle y gwneir cais o dan baragraff (2)(c), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennwyd yn yr hysbysiad mewn perthynas â'r swyddogaethau a enwir ym mharagraff (3), ac os nad yw'r ffi benodedig naill ai'n fwy na—

caiff y swyddog awdurdodedig os na chytuna'r diffynnydd i dalu'r ffi wrthod cydymffurfio â'r cais a wnaed o dan baragraff (2)(c).

    (6) Yn y rheoliad hwn—

Darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â samplu a dadansoddi
    
32. —(1) Mae unrhyw berson—

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu'r ddau.

    (2) Caiff unrhyw berson yn gweithredu o dan gyfarwyddyd y dadansoddwr amaethyddol, y dadansoddwr yn y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 neu Gemegydd y Llywodraeth fel y digwydd wneud y dadansoddiad y mae'n ofynnol ei wneud o dan reoliad 30(4) neu 31(3).

    (3) Bydd tystysgrif ddadansoddi gan ddadansoddwr amaethyddol, dadansoddwr mewn labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4 neu Gemegydd y Llywodraeth, mewn unrhyw reithdrefnau cyfreithiol, yn cael ei derbyn fel tystiolaeth o'r ffeithiau a nodir yn y dystysgrif os—

    (4) Bernir bod unrhyw ddogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif ddadansoddi at ddibenion paragraff (3) yn dystysgrif o'r fath oni phrofir fel arall.

Pwerau diofyn y Cynulliad ac ardal pwerau'r swyddog awdurdodedig
    
33. —(1) Os cred y Cynulliad nad yw'r Rheoliadau hyn, neu Reoliad 178/2002 neu Reoliad 183/2005 wedi cael eu gorfodi'n ddigonol yn ardal unrhyw awdurdod gorfodi caiff y Cynulliad benodi un neu fwy o bersonau i arfer yn yr ardal honno y pwerau y gellir eu harfer gan swyddogion awdurdodedig a benodir gan yr awdurdod, ac mae'n rhaid i unrhyw dreuliau yr ardystir gan y Cynulliad bod y Cynulliad wedi mynd iddynt o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r ardal honno gael eu had-dalu i'r Cynulliad gan yr awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny.

    (2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw fangre y tu allan i'r ardal y penodir y swyddog ar ei chyfer ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre honno ynddi.

Diogelu swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu'n ddidwyll
    
34. —(1) Nid yw swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred ganddo—

os gwnaeth y swyddog y weithred honno ar y gred onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog ei gwneud neu fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn rhoi'r hawl iddo ei wneud.

    (2) Ni ellir dehongli dim ym mharagraff (1) fel rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi o unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd eu swyddogion.

    (3) Pan fo camau wedi cael eu cymryd yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn perthynas â gweithred ganddo—

caiff yr awdurdod yswirio'r swyddog rhag y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y mae'r swyddog wedi mynd iddynt os yw'n fodlon bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y gwnaed cwyn yn ei chylch o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

    (4) Trinnir dadansoddwr amaethyddol at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog awdurdodedig, p'un a yw ei benodiad yn un amser cyfan ai peidio.

Amddiffyniadau o fethiant person arall, camgymeriad etc ac allforio
    
35. —(1) Pan fo tramgwydd yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn o ganlyniad i weithred neu fethiant person arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o dramgwydd a gellir ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygwyd achos yn erbyn y person a enwir gyntaf ai peidio.

    (2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd yn amddiffyniad i brofi—

    (3) Mewn unrhyw achos os bydd yr amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) yn cynnwys honiad i'r tramgwydd gael ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu fethiant person arall neu ddibyniaeth ar wybodaeth a roddir gan berson arall, ni fydd gan y person, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai—

fod y cyhuddedig wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad yn rhoi'r cyfryw wybodaeth ag sydd gan y cyhuddedig i adnabod neu gynorthwyo i adnabod y person arall hwnnw.

    (4) Mewn unrhyw achos lle yr honnir bod deunydd wedi mynd yn groes i ofynion cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig neu wedi methu â chydymffurfio â hwy mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddwyd brofi—

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau yn yr Alban
    
36. —(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chaniatâd neu gydymddygiad y canlynol neu y gellir ei briodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

tybir y bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Ym mharagraff (1) ystyr "cyfarwyddwr" mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn cyflawni unrhyw ymgymeriad o dan berchenogaeth genedlaethol, sef corff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

    (3) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth o'r Alban wedi'i gyflawni gyda chaniatâd neu gydgynllwyn partner neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, tybir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i reithdrefnau gael eu dwyn yn eu herbyn neu eu cosbi yn unol â hynny.

Dwyn erlyniadau a therfyn amser ar gyfer erlyniadau
    
37. —(1) Heb ragfarnu unrhyw ddeddfiad yn ymwneud â'r man lle y gellir dwyn rheithdrefnau, gellir dwyn rheithdrefnau ar gyfer tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn y man lle y mae'r person a gyhuddwyd yn preswylio neu'n cynnal ei fusnes.

    (2) Ni ellir cychwyn erlyniad ar gyfer tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i—

ddod i ben, pa un bynnag sydd gynharaf.

Dirymiadau
    
38. Dirymir y Rheoliadau neu'r rhannau ohonynt a restrir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
16]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



ATODLEN 1
Rheoliadau 2


CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BENODEDIG


Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2005

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Rheoliadau Rheolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol (Cymru) 2005 i'r graddau y maent yn ymwneud â bwyd anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio ym maeth anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y dilysir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid



ATODLEN 2
Rheoliad 38


DIRYMIADAU


Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 [
17]

Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 [18]

Rheoliadau Porthiant (Gofynion Diogelwch ar gyfer Porthiant ar gyfer Anifeiliaid sy'n Cynhyrchu Bwyd) 2004 [19]

Rheoliadau 6, 7 ac 8 o Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 [20]

Rheoliad 17 o Reoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001[21]

Rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Porthiant (Diwygio) 2002[22]

Rheoliadau 7 i 12 o Reoliadau Porthiant (Diwygio) 2003[23]

Rheoliadau 8 i 10 a 14 i 17 o Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003[24]

Rheoliadau 16 i 20 o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 [25]

Rheoliadau 4 i 11 o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 [26])

Rheoliadau 4 i 11 o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004 [27])

Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004[28]

Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005[29]



ATODLEN 3
Rheoliad 14


FFIOEDD SY'N DALADWY AM GYMERADWYAETHAU


Gweithgaredd y mae'n ofynnol cael cymeradwyaeth ar ei gyfer Ffi (£)
Gweithgynhyrchu'n unig ychwanegion bwyd anifeiliaid y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) o Reoliad 183/2005, neu eu gweithgynhyrchu a'u gosod ar y farchnad ac eithrio y rhai a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o'r cyfryw ychwanegion 451
Gosod ar y farchnad ychwanegion bwyd anifeiliaid y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) o Reoliad 183/2005 ac eithrio'r rhai a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o'r cyfryw ychwanegion 226



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L25, 8.2.2005, t.1), ("Rheoliad 183/2005") a Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), ("Rheoliad 178/2002"), a hefyd yn gwneud darpariaethau ynglŷn â gweinyddu cyffredinol, yn arbennig er mwyn rhoi effaith i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â rheolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y dilysir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), ("Rheoliad 882/2004").

     2. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â gweithredu a gorfodi Rheoliad 183/2005, sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 98/51/EC. (Gweithredwyd y Cyfarwyddebau hynny yn y Deyrnas Unedig drwy Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S.1999/1872) yn bennaf.) Mae Rheoliad 183/2005 yn darparu y dylai bron pob busnes sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, yn masnachu ynddo neu'n ei ddefnyddio, naill ai gael ei gofrestru, neu fel y digwydd, ei gymeradwyo, gan yr awdurdodau cymwys. Nodir y gweithgareddau sydd wedi'u heithrio nad yw Rheoliad 183/2005, ac o ganlyniad, Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn, yn gymwys iddynt yn Erthygl 2 o Reoliad y CE ac maent yn cynnwys—

     3. Yn benodol gwneir darpariaeth yn Rhan 2 i—

     4. Mae'r Rheoliadau hyn yn Rhan 3 yn dirymu ac yn ail-ddeddfu gyda mân ddiwygiadau y darpariaethau a geid gynt yn Rheoliadau Porthiant (Gofynion Diogelwch ar gyfer Bwyd ar gyfer Anifeiliaid sy'n Cynhyrchu Bwyd) 2004 (O.S. 2004/3254) a ddarparodd ar gyfer gweithredu a gorfodi gofynion diogelwch o ran bwyd anifeiliaid a geir yn Rheoliad 178/2002.

     5. Nid yw'r darpariaethau yn Rhan 3 ond yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, ac maent yn ei gwneud yn dramgwydd i dorri amrywiol ddarpariaethau penodedig Rheoliad 178/2002 (rheoliad 15). Y darpariaethau penodedig hynny yw—

     6. Mae'r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a geir mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth fel y'u rhestrir yn Atodlen 1. Wrth wneud hynny mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325), yn ail-ddeddfu gyda diwygiadau y rhan fwyaf o'r darpariaethau a geir yn y Rheoliadau hynny, ac yn cyflwyno darpariaethau eraill sydd eu hangen i gydymffurfio â gofynion Rheoliad 882/2004. Diddymodd y Rheoliad hwnnw gan y CE Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n rheoli trefnu archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid, sef Cyfarwyddeb a weithredwyd yn rhannol gan O.S. 1999/2325 y cyfeirir ato uchod.

     7. Yn benodol mae Rhan 4—

     8. Yn Rhan 4, mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

     9. Mae Arfarniad Rheoliadd llawn am yr effaith a gaff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1972 p. 68.back

[2] O.S. 2003/1246.back

[3] O.S. 2005/2766.back

[4] O.S. 2005/1971.back

[5] 1970 p. 40.back

[6] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[7] 1970 p. 40.back

[8] O.J. Rhif L209, 6.8.2002, t.15.back

[9] O.S. 1999/1663 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004/1749 (Cy.186) ac O.S. 2004/3091 (Cy.265).back

[10] OJ Rhif L191, 28.5.2004, p.1.back

[11] OJ Rhif L35, 8.2.2005, p.1.back

[12] 1971 p.80.back

[13] 1980 p. 43.back

[14] 1980 p.43.back

[15] 1981 p. 22.back

[16] 1998 p.38.back

[17] O.S. 1999/1872.back

[18] O.S. 1999/2325.back

[19] O.S. 2004/3254.back

[20] O.S. 2001/2253 (Cy.163).back

[21] O.S. 2001/3461 (Cy.280).back

[22] O.S. 2002/1797 (Cy.172).back

[23] O.S. 2003/1026.back

[24] O.S. 2003/1677 (Cy.180).back

[25] O.S. 2003/1850 (Cy.200).back

[26] O.S. 2003/3119 (Cy.297).back

[27] O.S. 2004/1749 (Cy.186).back

[28] O.S. 2004/3091 (Cy.265).back

[29] O.S. 2005/1393 (Cy.107).back



English version



ISBN 0 11 091249 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 13 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053368w.html