BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006 Rhif 63 (Cy.12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060063w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 63 (Cy.12)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006

  Wedi'i wneud 18 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998")[1] a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953")[2]

     A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)

     YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

Diddymu'r Cyngor
    
2. —(1) Diddymir y Cyngor.

    (2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Cyngor hawl iddynt, a phob rhwymedigaeth y mae'r Cyngor yn ddarostyngedig iddi, i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau canlyniadol
    
3. —(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—

    (2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—

    (3) Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—

    (4) Yn—

yn lle "Historic Buildings Council", rhodder "National Assembly".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953") Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953.

Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").

Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998") yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Yn unol â hynny—


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] 1953 p.49.back

[3] 1990 p.9.back

[4] 1976 p.74.back

[5] 2000 p.36.back

[6] O.S. 2001/3458.back

[7] O.S. 2002/2812.back

[8] 1989 p.29.back

[9] O.S. 1992/31.back



English version



ISBN 0 11 091254 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 24 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060063w.html