BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 Rhif 123 (Cy.16)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060123w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 123 (Cy.16)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 24 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 26 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1], o ran Cymru, at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2006.

Cymhwyso dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref i wastraff o eiddo domestig yng Nghymru
    
2. —(1) Yn adran 34(2A) (dyletswydd gofal etc. o ran gwastraff) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3], ar ôl "England" mewnosoder "or Wales".

    (2) Yn adran 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992[4], ar ôl "England" mewnosoder "or Wales".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Eu prif nod yw gweithredu, o ran Cymru, Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff[
6] (y "Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff") o ran meddiannydd eiddo domestig mewn perthynas â'r gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo.

Mae rheoliad 1 (enwi a chychwyn) yn darparu y daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Ionawr 2006 a'u bod yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliad 2 yn diwygio adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990"). Mae adran 34(2A) o Ddeddf 1990 (fel y'i mewnosodir gan Reoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru a Lloegr) 2005[7] yn gosod dyletswydd ar feddiannydd eiddo domestig yn Lloegr o ran y gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo. Y ddyletswydd a osodir yw bod y meddiannydd yn cymryd yr holl fesurau sydd ar gael iddo ac sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiad ganddo o wastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo ddim ond yn drosglwyddiad i berson awdurdodedig neu i berson at ddibenion cludo a awdurdodwyd. Mae rheoliad 2(2) yn estyn y ddyletswydd honno i unrhyw feddiannydd eiddo domestig yng Nghymru. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn agored i gosbau, yn ôl adran 34(6) o Ddeddf 1990.

Mae rheoliad 3(1) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992[8].

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae ar gael o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/850.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1990 p.43.back

[4] O.S. 1992/588, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[5] 1998 p.38.back

[6] O.J. Rhif L194, 25.7.1975, t.39 (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L78, 26.3.1991, t. 32), 91/692/EEC (O.J. Rhif L377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm, O.J. Rhif L146, 13.6.2003, t.52)), Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC (O.J. Rhif L135, 6.6.1996, t.32) a Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003 (O.J. Rhif L284, 31.10.2003 t.1 )).back

[7] O.S. 2005/2900.back

[8] O.S. 1992/588.back



English version



ISBN 0 11 091259 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 31 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060123w.html