BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006 Rhif 173 (Cy.24)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060173w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 173 (Cy.24)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 31 Ionawr 2006 [a] 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.

Dirymu
     3. Dirymir Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Niferoedd Safonol) (Addasiad) 1999[3].

Darpariaethau Trosiannol — Trefniadau Derbyn
     4. Er i adran 47(1) ddod i rym nid yw'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.

    
5. Er i ddirymiadau adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi ddod i rym, a'r diffiniadau o "the relevant standard number" yn adrannau 84(6) ac 143 o Ddeddf 1998, mae'r darpariaethau hynny yn dal i gael effaith o ran unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.

    
6. Er i adran 47(2) a pharagraff 5 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw Adran 89A newydd Deddf 1998 na'r diwygiadau i adran 89 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran penderfynu ar drefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na blwyddyn ysgol 2008-09.

    
7. Er i baragraff 6 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiadau i adran 90 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran y trefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.

    
8. Er i baragraff 12(2) o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 98(2) o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.

    
9. Er i baragraff 14 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 439(2) o Ddeddf Addysg 1996[4] yn cael effaith o ran unrhyw orchymyn mynychu'r ysgol a wneir o dan adran 437 o'r Ddeddf honno yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.

Diwygio Deddf 1998
     10. —(1) Yn adran 98(6) ac (8) o Ddeddf 1998 rhodder "92(c) and (d)" yn lle "92(3) to (6)".

    (2) Mae Rheoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 92 o Ddeddf 1998 fel y'i disodlwyd gan baragraff 7 o Atodlen 4 ynddi.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
    
11. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[5] fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.

    (2) Yn lle rheoliad 2(2) rhodder y paragraff canlynol—

    (3) Yn rheoliad 5, hepgorer o baragraff (1) y geiriau "and paragraph 9(1)(a) of Schedule 23" ac "and paragraph 9 of Schedule 23", a hepgorer is-baragraff (3)(c).

    (4) Yn rheoliad 6, hepgorer o baragraff (1) y geiriau ", and paragraph 9(1)(b) of Schedule 23 to," ac ", and paragraph 9 of Schedule 23 to,", a hepgorer paragraff (3).

    (5) Yn rheoliad 7, hepgorer o baragraff (1)(a) y geiriau "and paragraph 9(6) of Schedule 23" ac o baragraff (2) y geiriau "or paragraph 9 of Schedule 23".

    (6) Hepgorer rheoliad 11.

    (7) Hepgorer Atodlen 1.

    (8) Yn Atodlen 3, hepgorer Rhan V a'r pennawd i'r Rhan honno.

    (9) Yn Atodlen 4—

Diwygio Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001
     12. O ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol, diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Newid Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001[8] drwy ychwanegu ar ddiwedd adran 28(11) yn Nhabl 3 yn Rhan 1 fel y'i haddaswyd ac ar ddiwedd adran 28(11) fel y'i haddaswyd ac fel y'i ceir yn Rhan 2 y geiriau "and the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document "Measuring the capacity of schools in Wales" issued by the National Assembly.".

Diwygio Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004
     13. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004[9] fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.

    (2) Rhodder y paragraff canlynol yn lle rheoliad 2(3)—

    (3) Yn Atodlen 3—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dod â darpariaethau Deddf Addysg 2002 i rym drwy Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006. Mae'r darpariaethau hynny'n diwygio Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") o ran penderfynu ar drefniadau derbyn, a gwneud gwrthwynebiad i drefniadau derbyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw'r darpariaethau diwygiedig yn gymwys tan flwyddyn derbyn i'r ysgol 2008-09.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 er mwyn cyfeirio at adran 92 o Ddeddf 1998, fel y'i disodlwyd gan Ddeddf Addysg 2002, ac maent yn darparu bod unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan yr adran 92 newydd o Ddeddf 1998.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r Rheoliadau Addysg (Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, y Rheoliadau Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 a'r Rheoliadau cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004. Mae'r diwygiadau hyn yn ganlyniadol ar diddymu darpariaethau Deddf 1998 ynglŷn â niferoedd safonol a chyflwyno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddull newydd o asesu capasiti ysgol at ddibenion y darpariaethau newydd ar benderfynu trefniadau derbyn a gaiff eu cyflwyno gan Ddeddf Addysg 2002. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Rhif au Safonol) (Addasiad) 1999 sydd wedi'u disbyddu.


Notes:

[1] 2002 p.32.back

[2] 1998 p.31.back

[3] O.S. 1999/1064.back

[4] 1998 p.31.back

[5] O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91).back

[6] Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back

[7] Mewnosodwyd adran 89A gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back

[8] O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S 2005/2916 (Cy.213).back

[9] O.S. 2004/1576, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243).back

[10] 1998 p.38.back


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "31 Ionawr 2006". back



English version



ISBN 0 11 091266 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060173w.html