BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 175 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
31 Ionawr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Reoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yng Nghymru a fydd, yn y flwyddyn ysgol y byddant yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, yn ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig neu'n ysgolion gwirfoddol.
(3) Nid yw rheoliadau 5, 6 a 7 yn gymwys i ysgol newydd pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol o'r fath, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, yn penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol a gaewyd.
Dirymu a darpariaeth drosiannol
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999[3] wedi'u dirymu.
(2) Mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 i barhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw ysgol a sefydlir yn unol â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998 y mae'r dyddiad agor ar ei chyfer cyn y flwyddyn ysgol 2007-8 ac ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgol o'r fath.
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "awdurdod derbyn" ("admission authority") mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol o dan reoliad 4 am wneud trefniadau derbyn cychwynnol yr ysgol;
ystyr "blwyddyn gychwynnol" ("initial year"), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r flwyddyn ysgol gyntaf y derbynnir disgyblion (neu y bwriedir y dylid eu derbyn) i'r ysgol;
ystyr "corff llywodraethu dros dro" ("temporary governing body") yw corff llywodraethu dros dro a ffurfir o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002[4] ;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Dysgu a Medrau 2000[5];
ystyr "dyddiad agor yr ysgol" ("the school opening date"), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r dyddiad y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf;
ystyr "nifer derbyn" ("admission number") yw'r nifer o ddisgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn i'r ysgol, fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol â rheoliad 6;
ystyr "trefniadau derbyn cychwynnol" ("initial admission arrangements"), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r trefniadau ar gyfer derbyn plant i'r ysgol (gan gynnwys polisi derbyn yr ysgol) a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol â rheoliad 5(1);
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol;
ystyr "ysgol newydd" yw ysgol newydd o fewn ystyr "new school" yn adran 72(3) o Ddeddf 1998.
Y cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol
4.
—(1) Mae'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd sydd i fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir i'w gwneud gan—
(a) yr awdurdod addysg lleol; neu
(b) y corff llywodraethu dros dro pan fo'r awdurdod addysg lleol, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.
(2) Mae'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd sydd i fod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir i'w gwneud gan—
(a) y corff llywodraethu dros dro; neu
(b) (onid yw is-baragraff (c) yn gymwys) yr hyrwyddwyr—
(i) pan nad yw'r corff llywodraethu dros dro wedi'i ffurfio eto, a
(ii) pan fo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed, neu
(c) yn achos ysgol sefydledig sydd i'w sefydlu gan awdurdod addysg lleol yn unol â chynigion a gyhoeddir o dan adran 28(1)(a) o Ddeddf 1998, yr awdurdod hwnnw—
(i) pan nad yw'r corff llywodraethu dros dro wedi'i ffurfio eto, a
(ii) pan fo'r awdurdod hwnnw yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.
Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn
5.
—(1) Rhaid i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd benderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol am y flwyddyn gychwynnol a'r flwyddyn ysgol ganlynol ddim llai na chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a chyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol, rhaid i'r awdurdod derbyn ymgynghori â'r canlynol ynghylch y trefniadau arfaethedig, sef—
(a) os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn, pob awdurdod addysg lleol y mae unrhyw ran o'i ardal yn cydffinio ag ardal yr awdurdod ymgynghori;
(b) os y corff llywodraethu dros dro neu'r hyrwyddwyr yw'r awdurdod derbyn, pob awdurdod addysg lleol y mae unrhyw ran o'i ardal o fewn yr ardal berthnasol, neu'n cydffinio â hi; ac
(c) ym mhob achos—
(i) yr awdurdodau derbyn ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir yn yr ardal berthnasol,
(ii) corff llywodraethu pob ysgol gymunedol a phob ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan baragraff (i)) yn yr ardal berthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) "yr ardal berthnasol" yw'r ardal berthnasol neu'r ardaloedd perthnasol a benderfynir gan yr awdurdod addysg lleol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ardaloedd Perthnasol ar gyfer Ymgynghori ynghylch Trefniadau Derbyn) 1999[6].
(4) Mewn perthynas â'r trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig ar gyfer ysgol gynradd, yr unig gyrff y mae paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy yw—
(a) yr awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion eraill yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd; a
(b) corff llywodraethu pob ysgol gymunedol ac ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (a)) yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd.
(5) Rhaid i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sefydledig newydd neu ysgol wirfoddol sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion yr Eglwys Gatholig (fel y diffinnir "Church in Wales school" a "Roman Catholic Church School" gan adran 142(1) o Ddeddf 1998), wrth baratoi trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ymgynghoriad o dan baragraff (2), ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol y maent yn bwriadu eu penderfynu ar gyfer yr ysgol.
(6) Pan fydd yr awdurdod derbyn wedi gwneud unrhyw ymgynghori o dan baragraff (2), rhaid i'r awdurdod—
(a) penderfynu mai eu trefniadau arfaethedig hwy (naill ai ar eu ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y cred yr awdurdod eu bod yn briodol) yw'r trefniadau derbyn cychwynnol; a
(b) o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff (2) o'r trefniadau hynny.
Penderfynu'r nifer derbyn
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r penderfyniad o dan reoliad 5(1) gan yr awdurdod derbyn ar y trefniadau derbyn cychwynnol gynnwys nifer derbyn a benderfynir ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn unol â pharagraff (2).
(2) O ran ysgol newydd sydd i'w sefydlu—
(a) yn unol â chynigion a gyhoeddir o dan adran 28 o Ddeddf 1998, rhaid i'r nifer derbyn fod yr un fath ag unrhyw nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn unol â rheoliadau a wnaed o dan is-adran (3) o'r adran honno, neu (os yw'n gymwys) fel y'u haddaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 8(2) neu 10(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1998; neu
(b) yn unol â chynigion a wneir o dan adran 113A o Ddeddf 2000, rhaid i'r nifer derbyn fod yr un fath ag unrhyw nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn unol â rheoliadau a wnaed o dan is-adran (9) o'r adran honno, neu (os yw'n gymwys) fel y'u haddaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (5) o'r adran honno, neu o dan baragraff 1(3) o Atodlen 7A i Ddeddf 2000.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys mewn unrhyw achos lle, ar yr adeg y mae'r trefniadau derbyn cychwynnol yn cael eu penderfynu gan yr awdurdod derbyn, y mae unrhyw gynigion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) y mae'r trefniadau hynny yn berthnasol iddynt, heb eu cymeradwyo.
(4) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys—
(a) rhaid i'r awdurdod derbyn benderfynu ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol nifer derbyn, sef y nifer derbyn a benderfynir drwy gyfeirio at gapasiti yr ysgol, ac sydd yr un nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2);
(b) ystyrir y nifer derbyn a benderfynir yn unol ag is-baragraff (a) yn nifer derbyn dros dro hyd nes y cymeradwyir y nifer derbyn a nodir yn y cynigion neu (yn ôl y digwydd) hyd nes yr addesir y nifer derbyn hwnnw fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff (2)(a) a (b); ac
(c) (ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at nifer derbyn dros dro.
Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol
7.
—(1) Pan fo trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu gan awdurdod derbyn o dan reoliad 5(6)(a), caniateir i wrthwynebiad i'r trefniadau hynny gael ei gyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori ag ef o dan reoliad 5(2) ar yr amod—
(a) nad yw'r gwrthwynebiad yn dod o dan unrhyw ddisgrifiad o wrthwynebiad a ragnodir o dan reoliad 4(2) o Reoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006[7]; neu
(b) mewn unrhyw achos lle mae rheoliad 6(4) yn gymwys, nad yw'r gwrthwynebiad yn berthnasol i'r nifer derbyn mewn amgylchiadau lle mae dyddiad unrhyw gymeradwyaeth o'r cynigion (p'un a yw'r nifer derbyn wedi'i addasu neu beidio) yn llai na chwe mis cyn y dyddiad y bwriedir agor yr ysgol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni chaiff ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwech wythnos ar ô l i'r person sy'n gwrthwynebu dderbyn hysbysiad o dan reoliad 5(6)(b).
(3) Serch hynny, mae gwrthwynebiad a ddaw i lawr ar ôl diwedd y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (2) i'w ystyried yn un sydd wedi ei gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad fod wedi dod i law ynghynt na'r adeg y daeth i law.
(4) Pan fo gwrthwynebiad wedi ei gyfeirio o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu a ddylid cadarnhau'r gwrthwynebiad, ac (os felly) i ba raddau y dylid gwneud hynny ac eithrio na fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad o'r fath—
(i) cyn bod cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo neu wedi'u penderfynu i'w gweithredu yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, neu
(ii) cyn bod cynigion a wnaed o dan adran 113A o Ddeddf 2000 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau is-adran (5) o'r adran honno.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cadarnhau gwrthwynebiad i unrhyw raddau, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau sydd i'w gwneud i'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ei benderfyniadau a'i resymau dros wneud y penderfyniadau hynny drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob parti i'r gwrthwynebiad, ac i bob person arall yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori ag ef am y trefniadau derbyn cychwynnol o dan reoliad 5(2).
(7) Bydd penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw yn rhwymo'r awdurdod derbyn a'r personau hynny sy'n gallu gwneud gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny o dan baragraff (1). Os yw'r gwrthwynebiad yn cael ei gadarnhau'r i unrhyw raddau, rhaid i'r awdurdod derbyn adolygu'r trefniadau hynny ar unwaith i roi effaith i'r penderfyniad hwnnw.
Amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol
8.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd wedi penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol yn unol â rheoliad 5(6)(a); neu
(b) pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, wedi penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol honno,
ond ei fod yn barnu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gychwynnol neu'r flwyddyn ysgol ganlynol y dylid amrywio'r trefniadau.
(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn—
(a) amrywio'r trefniadau derbyn am fod newid sylweddol i'r amgylchiadau wedi digwydd ers i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu felly; neu
(b) amrywio'r nifer derbyn os yw'r amrywiad hwnnw yn angenrheidiol i weithredu cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998—
(i) pan fo'r cynigion hynny wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998, neu
(ii) pan fo'r awdurdod addysg lleol wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno y byddai'n gweithredu'r cynigion hynny.
(3) Os yw paragraff (2)(a) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyfeirio'r amrywiad arfaethedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hysbysu'r cyrff yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad arfaethedig.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a ddylai'r trefniadau gael effaith gyda'r amrywiad hwnnw tan ddiwedd y flwyddyn gychwynnol neu y flwyddyn ysgol ganlynol; ac os yw'n penderfynu y dylai'r trefniadau gael yr effaith honno neu y dylent gael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau i'r amrywiad hwnnw a benderfynir ganddo—
(a) mae'r trefniadau i gael effaith yn unol â hynny o ddyddiad ei benderfyniad; a
(b) rhaid i'r awdurdod derbyn hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad y mae'r trefniadau i gael effaith yn ddarostyngiedig iddo.
Cymhwyso'r deddfiadau
9.
Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
ATODLENRheoliad 9
DARPARIAETHAU DEDDFIADAU SY'N GYMWYS GYDAG ADDASIADAU I YSGOLION NEWYDD
1.
Mae darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef—
(a) adrannau 324(5)(b), 324(5A) a 439 o Ddeddf Addysg 1996;
(b) adrannau 1, 84, 85A, 86, 87, 89B, 89C, 92, 94, 95 i 99, 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998;
(c) unrhyw Reoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,
yn gymwys i ysgol newydd ond maent yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.
2.
Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 1 at ysgol yn un o'r categorïau canlynol, sef—
(a) ysgol a gynhelir;
(b) ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;
(c) ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol newydd o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf.
3.
Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at gorff llywodraethu ysgol i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro neu (pan fo'r cyd-destun yn caniatáu hynny) at unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am dderbyn disgyblion o dan y trefniadau derbyn cychwynnol.
4.
Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at drefniadau derbyn i'w ddehongli fel cyfeiriad at drefniadau derbyn cychwynnol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3.
5.
Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at awdurdod derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at awdurdod derbyn fel y'i diffinnir yn rheoliad 3.
6
Mae adran 101(1) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai "the year in which pupils are first to be admitted to a new school" wedi'u rhoi yn lle'r geiriau "any year".
7.
Mae adran 103(3) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai'r geiriau "(whether authorised by section 100 or section 101)" wedi'u hepgor.
8.
Nid yw Rhan 4 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[9] i fod yn gymwys i unrhyw ysgol newydd, y mae dyddiad agor yr ysgol honno rhwng 15 Ebrill ac 1 Awst mewn unrhyw flwyddyn.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol â cheisiadau am dderbyniad i ysgolion newydd. Maent yn disodli ac yn dirymu Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999.
Mae rheoliad 4 yn pennu pwy sydd i fod yn awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd mewn perthynas â'i blwyddyn gychwynnol, hynny yw, y corff sy'n gyfrifol am benderfynu'r trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r ysgol am y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion ynddi am y tro cyntaf. Yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu dros dro, os yw'r awdurdod addysg lleol wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn iddynt, fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir. Y corff llywodraethu dros dro (neu, os yw'n briodol, yr awdurdod addysg lleol neu'r hyrwyddwyr) fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd benderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol heb fod yn llai na chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol. Mae dyletswydd ar awdurdod derbyn i ymgynghori ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol cyn iddynt gael eu penderfynu yn y modd hwn.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn benderfynu, fel rhan o'r trefniadau derbyn cychwynnol, nifer derbyn ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol, hynny yw, nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y mae'n bwriadu eu derbyn i'r ysgol. Pan fo'r trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu cyn bod y cynigion statudol perthasnol wedi'u cymeradwyo, y nifer derbyn yw'r nifer derbyn a bennwyd yn hysbysiad i'r cynigion statudol.Ystyrir bod y nifer hwnnw'n nifer derbyn dros dro hyd nes bod y cynigion wedi'u cymeradwyo.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth, ar ô l i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu, i awdurdodau derbyn a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr oedd yn ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 5, gyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol naill ai oherwydd newid sylweddol mewn amgylchiadau, neu pan fo amrywiad yn angenrheidiol i weithredu cynigion statudol a gyhoeddir o dan adran 28 o Ddeddf 1998. Os yw'r amrywiad arfaethedig oherwydd newid sylweddol mewn amgylchiadau, rhaid iddo gael ei gyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae rheoliad 9 a'r Atodlen yn darparu y bydd darpariaethau penodol yn y Deddfau Addysg a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, yn gymwys gydag addasiadau i ysgolion newydd.
Notes:
[1]
1998 p.31. I gael ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/2800 (Cy. 14).back
[4]
2002 p.32.back
[5]
2000 p.21.back
[6]
O.S. 1999/124.back
[7]
O.S. 2006/176 (Cy.27).back
[8]
1998 p.38.back
[9]
O.S. 1999/1812 diwygiwyd gan O.S. 2001/1111 (Cy.55), O.S. 2001/3710 (Cy.306), O.S. 2002/1400 (Cy.139), O.S. 2004/1736 (Cy.179).back
English version
ISBN
0 11 091264 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
6 February 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060175w.html