BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 Rhif 176 (Cy.27)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060176w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 176 (Cy.27)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 31 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 90 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu
    
2. Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999[3] o ran Cymru.

Dehongli
     3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf.



Rhan 1

Cyfeirio Gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol

Achosion pan na chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad
     4. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 90(1)(c) y disgrifiad o wrthwynebiadau na chaniateir eu cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1).

    (2) Ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad—

Terfynau amser y mae'n rhaid cyfeirio'r gwrthwynebiad o'u mewn
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(1) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl i'r hysbysiad sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 89(4)(b) ddod i law'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(2) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd gyntaf hysbysiad o'r penderfyniad ar drefniadau derbyn perthnasol mewn papur newydd yn y dull sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 89[
8].

    (3) Mae gwrthwynebiad sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) neu (2) i'w ystyried fel pe bai wedi'i gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad fod wedi dod i law yn gynharach na'r amser y daeth i law.



Rhan 2

Cyfeirio Gwrthwynebiadau gan Rieni

Rhieni sy'n gymwys i gyfeirio gwrthwynebiad
     6. At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—

ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.

Gwrthwynebiadau y caiff rhieni eu cyfeirio
    
7. —(1) At ddibenion adran 90(2)(c) y disgrifiad o wrthwynebiad y caniateir ei gyfeirio o dan adran 90(2) yw—

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn,

    (3) At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).

Amod i'w fodloni cyn penderfynu gwrthwynebiadau gan rieni
    
8. —(1) Rhaid i'r amod ym mharagraff (2) gael ei fodloni cyn bydd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant o dan adran 90(2).

    (2) Yr amod yw bod nid llai na phump o rieni sy'n bodloni'r gofyniad yn rheoliad 6 wedi cyfeirio gwrthwynebiadau o dan adran 90(2) (neu un neu fwy o wrthwynebiadau ar y cyd)—



Rhan 3

Penderfyniadau ar Wrthwynebiadau ac Effaith Penderfyniadau

Cyhoeddi penderfyniadau
    
9. —(1) Rhaid cyhoeddi penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhesymau drostynt o dan adran 90(7)—

    (2) Yr wybodaeth i'w chyhoeddi o dan is-baragraff (1)(b) yw—

Cyfyngu ar wrthwynebiadau diweddarach
     10. —(1) Pan fo gwrthwynebiad ynghylch trefniadau derbyn ysgol benodol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol wedi'i benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol ni chaniateir cyfeirio unrhyw wrthwynebiad dilynol (gan y person neu'r corff a wnaeth y gwrthwynebiad neu gan unrhyw un arall) ynghylch—

a hwnnw'n wrthwynebiad sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.

    (2) Nid yw paragraff (1)(b) yn rwystro gwrthwynebiad rhag cael ei gyfeirio ynghylch trefniadau ysgol—

Pŵer i newid trefniadau yn sgil penderfynu gwrthwynebiad
    
11. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—

    (2) Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.

    (3) Ni chaniateir gwneud penderfyniad o'r fath ond—

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod derbyn perthnasol" ("relevant admission authority") yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 90 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") yn galluogi cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol wrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn ysgolion a gynhelir a benderfynwyd o dan adran 89 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i'r amodau y caniateir gwneud a phenderfynu gwrthwynebiadau oddi tanynt, ac i weithredu unrhyw benderfyniadau.

Maent yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999 ("Rheoliadau 1999"). Mae Rheoliadau 1999 i raddau helaeth yn ailddeddfu, ac maent yn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1998 gan Ddeddf Addysg 2002.

Mae adran 89(2) o Ddeddf 1998 yn nodi'r cyrff hynny y mae'n ofynnol i awdurdod derbyn ymgynghori â hwy ynghylch eu trefniadau derbyn arfaethedig. Diwygiwyd adran 89(2) gan Ddeddf 2002 fel bod yr adran yn cynnwys cyrff llywodraethu pob ysgol gymunedol ac ysgol wirfoddol a reolir mewn ardal berthnasol.

Mae rheoliad 4 yn cyfyngu ar hawl cyrff llywodraethu o'r fath i wrthwynebu. Ni allant wrthwynebu trefniadau derbyn unrhyw ysgol gymunedol arall neu ysgol wirfoddol arall a reolir yn yr ardal berthnasol, ac ni allant ychwaith wrthwynebu trefniadau derbyn ar gyfer eu hysgol eu hunain onid yw'r gwrthwynebiad yn ymwneud â phenderfynu nifer derbyn ar gyfer yr ysgol.

Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu na chaniateir gwneud gwrthwynebiad o dan adran 90(1) os sylwedd y gwrthwynebiad yw ceisio newid y trefniadau derbyn, a hwnnw'n newid na ellir ei wneud ond drwy gyhoeddi cynigion statudol, er enghraifft, cyflwyno bandio disgyblion neu trefniadau derbyn un rhyw.

Mae rheoliad 5 yn pennu terfynau amser y mae'n rhaid gwneud unrhyw wrthwynebiad o'u mewn. Chwe wythnos ar ôl rhoi hysbysiad bod y trefniadau wedi'u penderfynu neu, os gwrthwynebiad gan riant ydyw, chwe wythnos sy'n dilyn cyhoeddi'r manylion perthnasol mewn papur newydd lleol, yw'r terfynau amser hyn. Yn y naill achos a'r llall bydd gwrthwynebiad a ddaeth i law yn ddiweddarach wedi'i gwneud ddilys os nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fod wedi dod i law yn gynharach.

Mae rheoliad 6 yn diffinio'r rhieni sy'n gymwys i gwneud gwrthwynebiad. Os yw gwrthwynebiad yn ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli, rhaid i riant fod yn unigolyn sydd â phlentyn o oedran ysgol gorfodol mewn addysg gynradd a rhaid iddo fod yn byw yn yr ardal ymgynghori ar gyfer yr ysgol. Os yw gwrthwynebiad yn ymwneud â nifer derbyn arfaethedig sydd wedi'i osod yn is na'r nifer a nodir gan y dull asesu capasiti a welir yn y canllawiau "Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru", rhaid i riant fod yn unigolyn â phlentyn sydd rhwng 2 a 5 mlwydd oed neu o oedran ysgol gorfodol ac sydd yn derbyn addysg gynradd, a rhaid iddo fod yn byw yn yr ardal ymgynghori ar gyfer yr ysgol. Mae'r canllawiau hyn ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol
www.dysgu.cymru.gov.uk.

Mae rheoliad 7 yn ymwneud â'r math o wrthwynebiadau y caiff rhiant eu gwneud. Gwrthwynebiad i drefniadau penodol yw rhain sydd eisioes yn bodoli i ddethol disgyblion yn ôl eu gallu a gwrthwynebiadau sy'n ymwneud â phenderfynu nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir gan y dull asesu capasiti a geir yn y canllawiau y cyfeirir atynt uchod yw'r gwrthwynebiadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu amod mai dim ond os bydd pum rhiant neu fwy yn gwneud yr un gwrthwynebiad i'r un trefniadau derbyn, neu wrthwynebiad sy'n sylweddol yr un fath, y caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant.

Mae rheoliad 9 yn rhagnodi'r modd y mae penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol ar wrthwynebiadau i'w cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys hysbysu'r partïon i'r gwrthwynebiad a'r holl gyrff eraill yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn, o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998, ymgynghori â hwy ynghylch eu trefniadau derbyn arfaethedig neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy. Os yw'r gwrthwynebiad yn ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli neu nifer derbyn is na'r nifer derbyn a nodir, rhaid hefyd gyhoeddi'r penderfyniad ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk.

Mae rheoliad 10 yn darparu, pan fo gwrthwynebiad i drefniadau derbyn ysgol wedi'i benderfynu, na chaniateir gwneud gwrthwynebiad pellach sy'n ymwneud â'r un mater i drefniadau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol honno neu'r flwyddyn ganlynol ac eithrio pan fo'r awdurdod derbyn, yn y flwyddyn ganlynol, yn ceisio ailgyflwyno trefniadau yr oedd gwrthwynebiad iddynt wedi'i gadarnhau eisoes.

Mewn achos pan fo gwrthwynebiad yn erbyn trefniadau derbyn awdurdod derbyn wedi'i gadarnhau, mae rheoliad 11 yn galluogi awdurdod derbyn perthnasol arall i adolygu ei drefniadau derbyn er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad sy'n cadarnhau'r gwrthwynebiad. Pennir amodau, gan gynnwys terfyn amser i adolygu trefniadau o ddeufis o gael hysbysiad o'r penderfyniad. Mae gofyniad i hysbysu'r awdurdodau derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy.


Notes:

[1] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 90(1) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32.) a pharagraff 6 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 142(1) ar gyfer ystyr "prescribed" a "regulations".back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/125. Mae'r Rheoliadau o rym o hyd yn Lloegr.back

[4] O.S 1999/ 124.back

[5] Mewnosodwyd adran 89(A) gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002.back

[6] Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back

[7] 1996 p.56.back

[8] Gweler Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, O.S. 2006/174 (Cy.25).back

[9] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091263 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060176w.html