BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 Rhif 177 (Cy.28)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060177w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 177 (Cy.28)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud [a] 31 Ionawr 2006 [b] 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89(8)(e) ac (f), a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwyso ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y rheoliadau hyn—

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at adran â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf neu'r Atodlen honno i'r Ddeddf.

Amrywio'r trefniadau derbyn
    
3. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 89(8)(e) yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod derbyn, ar ôl iddo benderfynu'r trefniadau derbyn a fydd yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol benodol, (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5)) amrywio'r trefniadau hynny.

    (2) Caiff awdurdod derbyn amrywio'r nifer a dderbynnir os yw amrywiad o'r fath yn angenrheidiol i weithredu y cynigion statudol—

    (3) Nid yw gofynion adran 89(5) i (7) (amrywio arfaethedig ar drefniadau derbyn wrth ystyried newid mawr mewn amgylchiadau) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o dan paragraff (2).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff awdurdod derbyn (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998)) amrywio'r trefniadau derbyn y mae wedi'u penderfynu ar gyfer blwyddyn ysgol benodol.

Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdod derbyn, heb weithdrefnau pellach neu gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, amrywio'r nifer a dderbynnir y mae wedi'i benderfynu ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol lle bo'n angenrheidiol i weithredu cynigion statudol a gymeradwywyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a bod angen amrywio'r nifer a dderbynnir i weithredu'r cynigion hynny. Yn yr amgylchiadau hynny, nid yw'r gweithdrefnau newid trefniadau derbyn yn adran 89(5) i (7) o'r Ddeddf 1998 yn gymwys.


Notes:

[1] 1998 p.31. Ar gyfer diffiniad "prescribed" a "regulations" gweler adran 142 o Ddeddf 1998.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; yn y fersiwn Gymraeg, yn union islaw teitl yr offeryn, dylai "Gwnaed" ddarllen, "Wedi'u gwneud"; a back

[b] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "31 Ionawr 2006". back



English version



ISBN 0 11 091267 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060177w.html