BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006 Rhif 180 (Cy. 31)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060180w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 180 (Cy. 31)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 31 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

Cyflwyniad
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Mangre sy'n dir comin neu dir heb ei gau
4. Trwyddedau a datganiadau
5. Hysbysiadau
6. Dosbarthu gwybodaeth ynghylch cyfyngiadau a gofynion
7. Diheintio

RHAN 2

Y rhaglen frechu
8. Gwahardd brechu ac eithrio o dan drwydded
9. Ffactorau sy'n cyfrannu at benderfyniad i ganiatáu brechu ataliol neu amddiffynnol
10. Ffurf y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu
11. Trwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol
12. Hwyluso brechu
13. Datgan parth brechu a datgan parth gwyliadwriaeth brechu
14. Datgan parth gwyliadwriaeth brechu ar frechu amddiffynnol yn Lloegr
15. Parthau brechu a pharthau gwyliadwriaeth brechu: darpariaethau cyffredinol
16. Cyfnodau amser a mesurau sy'n gymwys i barth brechu
17. Mesurau sy'n gymwys i barth gwyliadwraeth brechu
18. Estyn y pŵer i beri brechu
19. Dynodi anifeiliaid sydd wedi'u brechu
20. Marcio Pasbortau anifeiliaid
21. Tynnu tagiau clust a thagiau a gollwyd
22. Gwerthu a chigydda anifeiliaid sydd wedi'u brechu
23. Methu â brechu anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu
24. Carcasau anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu
25. Arolygu a dosbarthu mangre yn ystod cyfnod 2
26. Dyletswydd awdurdod lleol i godi arwyddion
27. Masnach anifeiliaid sydd wedi'u brechu o fewn y Gymuned

RHAN 3

Darpariaethau cyffredinol ac atodol
28. Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau
29. Marciau a osodir o dan y Rheoliadau hyn
30. Newid meddiannaeth mangre sydd o dan gyfyngiad
31. Cymorth rhesymol
32. Gwybodaeth anwir
33. Dangos cofnodion
34. Cydymffurfio â hysbysiadau a chyfarwyddiadau
35. Pwerau arolygwyr
36. Gorfodi, troseddau ac achosion
37. Dangos trwyddedau
38. Pwerau cyffredinol arolygwyr milfeddygol i gymryd camau i rwystro clwy rhag lledu
39. Pwerau arolygwyr os ceir methiant
40. Tramgwydd gan gyrff corfforaethol
41. Tramgwyddau: dim gwybodaeth am y cyfyngiad neu'r gofyniad
42. Gorfodi
43. Dirymiadau

  YR ATODLEN — Mesurau sy'n gymwys o ran parth brechu
 RHAN 1 — Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy
 RHAN 2 — Cig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol
 RHAN 3 — Cynhyrchion heblaw cig ffres etc.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2], drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud drwy hyn y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006:

    (2) Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "wedi'i bennu ar gyfer ei frechu" ("specified for vaccination") yw anifail sydd i'w frechu mewn penderfyniad i gyflawni rhaglen frechu a wneir yn unol â rheoliad 9(2).

    (3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at "anifeiliaid sy'n tarddu o" ("animals originating in") barth brechu yn golygu—

Mangre sy'n dir comin neu dir heb ei gau
     3. Yn y Rheoliadau hyn—

Trwyddedau a datganiadau
    
4. —(1) Pan roddir trwyddedau o dan y Rheoliadau hyn—

    (2) Ac eithrio pan gyfarwyddir fel arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd trwydded a roddir yn Lloegr neu'r Alban at yr un diben â thrwydded y caniateir ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn yn ddilys at y diben hwnnw yng Nghymru a bydd ei hamodau'n gymwys yng Nghymru fel pe bai'n drwydded a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

    (3) Rhaid i ddatganiadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a rhaid i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad o ddatganiad gael eu gwneud drwy ddatganiad pellach.

Hysbysiadau
    
5. —(1) Pan roddir hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn—

    (2) Rhaid i hysbysiadau a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre sy'n golygu y bydd yna unrhyw ofyniad neu gyfyngiad ynglŷn â'r fangre honno gynnwys disgrifiad o'r fangre honno sy'n ddigonol i ganfod eu hyd a'u lled.

    (3) Caniateir diwygio'r disgrifiad hwnnw gan arolygydd milfeddygol os yw wedi'i fodloni nad yw'n disgrifio uned epidemiolegol unigol ynglŷn â'r clwy.

Dosbarthu gwybodaeth ynghylch cyfyngiadau a gofynion
    
6. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y cyfryw gamau y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau bod trwyddedau, datganiadau a hysbysiadau'n cael eu dwyn i sylw'r rhai y gallent effeithio arnynt ac yn benodol rhaid iddo sicrhau cyhoeddusrwydd i roi gwybod am hyd a lled unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys iddo a dyddiad ei ddatgan a'i ddileu.

Diheintio
    
7. Rhaid cyflawni gwaith diheintio o dan y Rheoliadau hyn gan ddiheintydd—



RHAN 2

Y rhaglen frechu

Gwahardd brechu ac eithrio o dan drwydded
     8. —(1) Ni chaniateir i unrhyw berson frechu anifail ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.

    (2) Nid yw'r gwaharddiad yn y rheoliad hwn yn gymwys i—

Ffactorau sy'n cyfrannu at benderfyniad i ganiatáu brechu ataliol neu amddiffynnol
     9. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a fydd yn caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol—

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ystyried y ffactorau hynny, yn credu mai caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol yw'r modd mwyaf priodol i atal y clwy rhag ymledu, rhaid iddo benderfynu ymgymryd â rhaglen frechu.

    (3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ymgymryd â rhaglen frechu bydd yn rhoi un neu fwy o drwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.

Ffurf y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu
     10. —(1) Rhaid datgan y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu yn ysgrifenedig.

    (2) Rhaid i'r penderfyniad gynnwys yr wybodaeth ganlynol am y rhaglen frechu—

    (3) Rhaid i unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n golygu newid yn yr wybodaeth yn is-baragraff (2) hefyd gael ei datgan yn ysgrifenedig.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i ddwyn unrhyw benderfyniad y mae'n ofynnol ei bod yn ysgrifenedig gan y rheoliad hwn i sylw'r rheini y gall effeithio arnynt.

Trwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu frechu amddiffynnol
    
11. —(1) Ni chaiff unrhyw drwydded sy'n caniatáu brechu ataliol awdurdodi brechu y tu allan i'r parth gwarchod.

    (2) Ni chaiff unrhyw drwydded sy'n caniatáu brechu amddiffynnol awdurdodi brechu mewn parth gwyliadwriaeth brechu.

    (3) Ni cheir dehongli trwydded sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol fel bod iddi'r effaith o'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn brechu unrhyw anifail.

Hwyluso brechu
    
12. —(1) Rhaid i geidwad unrhyw anifail a bennir mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu, os gwneir hynny'n ofynnol gan arolygydd neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd—

    (2) Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu symud y canlynol o unrhyw fangre lle cedwir unrhyw anifail a bennir mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu cyn bod yr holl anifeiliaid hynny wedi cael eu brechu ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol—

Datgan parth brechu a datgan parth gwyliadwriaeth brechu
    
13. —(1) Os yw'n penderfynu ymgymryd â rhaglen frechu amddiffynnol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ar yr un pryd ddatgan unrhyw ran o Gymru lle'r ymgymerir â'r rhaglen yn barth brechu a rhaid iddo hefyd ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu cysylltiedig.

    (2) Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (1) ddynodi—

    (3) Os yw'n penderfynu amrywio'r lle neu'r ardal ddaearyddol lle y mae'r rhaglen frechu amddiffynnol i ddigwydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r datganiad o dan baragraff (1) fel bod y parth brechu yn cynnwys y lle neu'r ardal ddaearyddol a amrywiwyd.

Datgan parth gwyliadwriaeth brechu ar frechu amddiffynnol yn Lloegr
    
14. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan yw rhaglen frechu amddiffynnol i ddigwydd yn Lloegr.

    (2) Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys a bod unrhyw ran o'r rhaglen brechu amddiffynnol i ddigwydd o fewn deg cilomedr i ffin Cymru, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu yng Nghymru.

    (3) Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys a bod parth sy'n hafal ei effaith i barth gwyliadwriaeth brechu wedi cael ei ddatgan yn Lloegr sy'n ffinio â ffin Cymru, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu yng Nghymru.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i barth gwyliadwriaeth brechu a ddatgenir o dan y rheoliad hwn fod o'r cyfryw faint y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei fod angenrheidiol i rwystro ymlediad y clwy.

    (5) Rhaid i ddatganiad o dan y rheoliad hwn bennu rhychwant y parth gwyliadwriaeth brechu, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw barth o'r fath—

Parthau brechu a pharthau gwyliadwriaeth brechu: darpariaethau cyffredinol
    
15. —(1) Os yw rhan o unrhyw fangre y tu mewn neu y tu allan i barth brechu, bernir bod y cyfan ohoni y tu mewn i'r parth hwnnw.

    (2) Os yw unrhyw fangre yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth gwyliadwriaeth brechu, bernir bod y cyfan ohoni y tu mewn i'r parth hwnnw (heblaw am fangre y mae rhan ohoni y tu mewn i barth brechu hefyd).

    (3) Bydd ardal yn parhau'n barth brechu neu'n barth gwyliadwriaeth brechu (neu'n rhan o un) hyd nes y bydd y Cynulliad Cenedlaethol—

    (4) Rhaid i unrhyw ddiwygiad i ddatganiad neu ddirymiad datganiad sy'n creu parth brechu neu barth gwyliadwriaeth brechu gyfeirio at y datganiad hwnnw a dweud y dyddiad a'r amser y mae i gymryd effaith.

Cyfnodau amser a mesurau sy'n gymwys o ran parth brechu
    
16. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 25(2), mae darpariaethau'r Atodlen yn gymwys o ran parth brechu heb ragfarnu unrhyw ofynion neu gyfyngiadau sy'n gymwys yn unrhyw ran ohono oherwydd fod y rhan hwnnw yn disgyn o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.

    (2) Ar ôl i 30 o ddiwrnodau fynd heibio ers brechu'r holl anifeiliaid mewn parth brechu a bennwyd ar gyfer eu brechu mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen brechu amddiffynnol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan diwedd cyfnod 1 a dechrau cyfnod 2 a rhaid i ddatganiad o'r fath bennu'r dyddiad a'r amser y mae i fod yn effeithiol.

    (3) Ar ôl cwblhau'r mesurau yn is-baragraffau (a) i (ch) yn rheoliad 25(2) ym mhob mangre adweithydd mewn parth brechu, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan diwedd cyfnod 2 a dechrau cyfnod 3 a rhaid i ddatganiad o'r fath bennu'r dyddiad a'r amser y mae i fod yn effeithiol.

    (4) Er gwaethaf paragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, cyn cwblhau'r mesurau hynny ym mhob mangre adweithydd, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre a ddosbarthwyd ei bod yn rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b) yn datgan bod rhaid i'r fangre honno ddechrau ar gyfnod 3 a bod rhaid barnu bod cyfnod 3 wedi dechrau mewn cysylltiad â'r fangre honno pan gyflwynir yr hysbysiad hwnnw.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod cyfnod 3 wedi dod i ben os yw'n sicr bod y clwy wedi'i ddileu yng Nghymru.

Mesurau sy'n gymwys i barth gwyliadwriaeth brechu
    
17. —(1) Ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy o fewn neu allan o barth gwyliadwriaeth brechu ac eithrio—

    (2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys heb ragfarnu unrhyw ofynion neu gyfyngiadau sy'n gymwys i unrhyw ran o barth gwyliadwriaeth brechu am fod y rhan hwnnw yn disgyn o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.

Estyn y pŵer i beri brechu
    
18. Er gwaethaf adran 16(1) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol beri bod anifeiliaid nad ydynt yn dod o dan yr is-adran honno yn cael eu brechu os ydynt mewn parth brechu ac mae darpariaethau canlynol y Ddeddf i'w cymhwyso fel pe bai'r cyfryw frechu'n cael ei gyflawni wrth arfer y pŵer yn adran 16(1)—

Dynodi anifeiliaid sydd wedi'u brechu
    
19. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu i bob person y dyroddir trwydded iddo sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol ddigon o dagiau clust i'w gosod ar bob anifail a all gael ei frechu o dan y drwydded honno.

    (2) Rhaid i bob tag clust ddwyn yr wybodaeth honno y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn angenrheidiol i adnabod yr anifail y gosodwyd y tag arno fel anifail sydd wedi'i frechu.

    (3) Rhaid i unrhyw berson sy'n brechu anifail—

    (4) Rhaid i gofnodion fod yn y ffurf a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Rhaid i bob person a ddarperir â thagiau clust o dan y rheoliad hwn ddychwelyd tagiau clust nas defnyddiwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed pan hawlir hwy.

Marcio pasbortau gwartheg
    
20. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw anifail a bennwyd ar gyfer ei frechu a ddyroddwyd â—

    (2) Os bydd gan geidwad unrhyw anifail y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ei basbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru yn ei feddiant ar adeg y brechu rhaid iddo ei roi i'r person sy'n cyflawni'r brechu ar yr adeg honno.

    (3) Rhaid i'r person sy'n cyflawni'r brechu sicrhau bod y pasbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru a roddir iddo ar adeg y brechu yn cael ei farcio neu ei marcio ar yr adeg honno i ddangos bod yr anifail wedi'i frechu ac yna dychwelyd y cyfryw basbort neu dystysgrif i'r ceidwad.

    (4) Os nad yw pasbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru unrhyw anifail y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ym meddiant ei geidwad ar adeg y brechu, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r ceidwad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo yntau gyflwyno'r cyfryw basbort neu dystysgrif i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w farcio i ddangos bod yr anifail wedi cael ei frechu.

    (5) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) bennu'r trefniadau gweinyddol y mae'n rhaid eu dilyn wrth gyflwyno'r pasbort gwartheg neu'r dystysgrif gofrestru ar gyfer ei farcio neu ei marcio.

    (6) Rhaid i unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff (4) iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y dychwelir y pasbort gwartheg neu'r dystysgrif gofrestru i'w feddiant yn ddi-oed a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad yn ddi-oed pan ddychwelir y pasbort neu'r dystysgrif.

Tynnu tagiau clust a thagiau a gollwyd
     21. —(1) Ni chaiff unrhyw berson yn fwriadol dynnu tag clust a osodwyd o dan reoliad 19(3) oni thynnir ef er mwyn rhwystro poen a dioddefaint diangen.

    (2) Os bydd ceidwad anifail wedi'i frechu yn tynnu ei dag clust yn unol â pharagraff (1) neu'n darganfod bod ei dag clust ar goll rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig yn ddi-oed.

    (3) Pan ddaw hysbysiad i law o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (4) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu sy'n amau bod anifail wedi'i frechu ond nad yw'n cario tag clust hysbysu ceidwad yr anifail hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith.

Gwerthu a chigydda anifeiliaid sydd wedi'u brechu
    
22. Ni chaniateir i unrhyw berson werthu anifail sydd wedi'i frechu na'i anfon i'w gigydda onid oes ganddo dag clust a osodwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Methu â brechu anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu
    
23. —(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu'n amau bod anifail a bennwyd ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ar yr adeg pan ddylid bod wedi gwneud hynny hysbysu ceidwad yr anifail hwnnw a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth ar unwaith.

    (2) Os yw arolygydd yn amau bod anifail wedi'i bennu ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ar yr adeg pan ddylid bod wedi gwneud hynny rhaid iddo drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei frechu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan ddylai fod wedi cael ei frechu).

Carcasau anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu
    
24. —(1) Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod carcas yn garcas anifail sydd wedi'i frechu ac y bwriedir ei werthu (p'un ai cyn neu ar ôl ei brosesu), ond nad ymdrinnir ag ef felly, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal amdano yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael gwared ag ef.

    (2) Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod carcas yn garcas anifail sydd wedi'i bennu ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ac y bwriedir ei werthu (p'un ai cyn neu ar ôl ei brosesu), rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal amdano yn ei gwneud yn ofynnol iddo ymdrin ag ef bob amser fel pe bai'n garcas anifail sydd wedi'i frechu .

Arolygu a dosbarthu mangreoedd yn ystod cyfnod 2
    
25. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau yn ystod cyfnod 2—

    (2) Bydd y mesurau canlynol yn gymwys i fangre adweithydd—

Dyletswydd awdurdod lleol i godi arwyddion
    
26. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod ffiniau pob parth brechu a pharth gwyliadwriaeth brechu yn cael eu dangos gan arwyddion a godir mewn lle amlwg ar yr holl ffyrdd sy'n mynd i mewn i'r parthau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn cael eu symud arnynt.

Masnach anifeiliaid sydd wedi'u brechu o fewn y Gymuned
    
27. Ni chaniateir i unrhyw berson anfon unrhyw anifail sydd wedi'i frechu ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.



RHAN 3

Darpariaethau cyffredinol ac atodol

Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau
    
28. Pan fo'n ofynnol glanhau a diheintio cerbydau yn unrhyw fangre gan neu o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y glanhau a'r diheintio hwnnw.

Marciau a osodir o dan y Rheoliadau hyn
    
29. Ni chaniateir i unrhyw berson guddio neu ddileu marc a osodir ar unrhyw anifail, carcas, cynnyrch anifeiliaid, cerbyd nac unrhyw beth arall o dan y Rheoliadau hyn oni bai—

Newid meddiannaeth mangre o dan gyfyngiad
    
30. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad ydyw ceidwad unrhyw anifail neu ddofednyn yn gallu ei symud o'r fangre ar derfyn ei hawl i feddiannu oherwydd cyfyngiad a osodwyd gan, neu o dan, y Rheolidau hyn.

    (2) Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre ar y terfyniad hwnnw—

    (3) Os nad ydyw'r ceidwad yn gallu neu'n fodlon bwydo neu ofalu am yr anifail neu'r dofednyn, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei fwydo'n briodol ac yn cael gofal priodol.

    (4) Mae ceidwad anifail neu ddofednyn yn atebol i dalu'r costau rhesymol a dynnir o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n ei fwydo neu'n gofalu amdano, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer ei fwydo, gofalu amdano neu'n ei ddefnyddio fel arall.

Cymorth rhesymol
    
31. Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn er mwyn cyflawni ei swyddogaethau oddi tano, wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio.

Gwybodaeth anwir
    
32. Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn.

Dangos cofnodion
    
33. —(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo ddangos cofnod gan berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau wneud hynny'n ddi-oed.

    (2) Pan ddangosir y cofnod, caiff person sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn—

    (3) Rhaid i berson sy'n symud cofnodion o dan y rheoliad hwn roi derbynneb ysgrifenedig amdanynt.

Cydymffurfio â hysbysiadau a chyfarwyddiadau
    
34. —(1) Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar gost y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac eithrio pan ddarperir fel arall yn yr hysbysiad hwnnw.

    (2) Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd llafar a roddir o dan y Rheoliadau hyn ar gost y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo, ac eithrio pan ddarperir fel arall mewn cyfarwyddyd ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwerau arolygwyr
    
35. —(1) Mae adran 63 o'r Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn wedi'u cynnwys yn y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy.

    (2) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf i'w cymhwyso fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy—

    (3) Mae adran 65A o'r Ddeddf (archwilio cerbydau) yn gymwys fel pe bai—

Gorfodi, troseddau ac achosion
    
36. —(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy.

    (2) Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau drwy dwyll etc.) yn gymwys fel pe bai trwyddedau, tystysgrifau neu offerynnau a ganiatawyd neu a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi'u caniatáu neu eu dyroddi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

    (3) Mae adran 75 o'r Ddeddf (cosbau am dramgwyddau diannod) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio nad yw unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod i fod yn fwy na thri mis.

Dangos trwyddedau a dadlwytho ar ôl symudiadau trwyddedig
    
37. Rhaid i bob person y dyroddwyd trwydded iddo o dan y Rheoliadau hyn, pan fydd yn cyflawni'r gwaith a drwyddedwyd, o dan y Rheoliadau hyn gadw'r drwydded gydag ef a'i dangos i arolygydd pan hawlir hi yn ddi-oed.

Pwerau cyffredinol i arolygwyr milfeddygol gymryd camau i rwystro'r clwy rhag ymledu
    
38. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob parth brechu a phob parth gwyliadwriaeth brechu.

    (2) Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys, caiff arolygydd milfeddygol, os yw o'r farn ei bod yn angenrheidiol i rwystro'r clwy rhag ymledu, ei gwneud yn ofynnol—

    (3) Gall hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys y cyfarwyddiadau a'r amodau hynny y mae'r person sy'n ei gyflwyno o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn rhwystro ymlediad y clwy.

    (4) Nid yw'r pwerau a roddir i arolygydd milfeddygol gan y rheoliad hwn yn rhagfanrnu'r pwerau a roddir gan unrhyw ddapariaeth arall o'r Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr os ceir methiant
    
39. —(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau a farno'n angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni.

    (2) Os bydd person yn gweithredu'n groes i ofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau a farno'n angenrheidiol i adfer y sefyllfa er mwyn atal y clwy rhag ymledu.

    (3) Wrth gymryd camau o dan baragraff (1) neu (2), caiff arolygydd atafaelu a dal unrhyw anifail, a symudwyd, a gadwyd neu a drafodwyd fel arall yn groes i gyfyngiad neu ofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn.

    (4) Wrth gymryd camau o dan baragraff (2), caiff arolygydd drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson gyfarwyddo'r person hwnnw i gymryd neu i ymatal rhag cymryd camau penodol mewn cysylltiad ag unrhyw le, anifail, dofednyn, cerbyd, cynnyrch anifail neu unrhyw beth arall.

    (5) Ni fydd unrhyw gamau a gymerir o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu achos am dramgwydd sy'n deillio o'r methiant.

    (6) Rhaid i'r person a fethodd, ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw ad-daliad yn ddiannod.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
40. —(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Tramgwyddau: dim gwybodaeth am y cyfyngiad neu'r gofyniad
    
41. Ni fydd unrhyw berson yn euog o fethu â chydymffurfio â chyfyngiad neu ofyniad sy'n gymwys oherwydd datgan bod parth—

os yw'r person yn gallu dangos er boddhad y llys nad oedd yn gwybod am y cyfyngiad neu'r gofyniad hwnnw ac na allai gyda diwydrwydd rhesymol fod wedi cael gwybod amdano.

Gorfodi
    
42. —(1) Yn ddarostyngedig i bargraffau (2) a (3), yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Rheoliadau hyn.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol orfodi'r Rheoliadau hyn o ran lladd-dai.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, bod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymiadau
    
43. Dirymir yr offerynnau canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 16(1)


Mesurau sy'n gymwys o ran parth brechu




RHAN 1

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 1
     1. —(1) Yn ystod cyfnod 1 ni chaniateir unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Ni cheir rhoi unrhyw drwydded o dan is-baragraff (1) ac eithrio

    (3) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer cludo o dan is-baragraff (2)(a) oni bai bod y person sy'n ei rhoi wedi'i fodloni—

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 2
     2. —(1) Yn ystod cyfnod 2, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy o unrhyw fangre neu i unrhyw fangre mewn parth brechu ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer symud anifail o unrhyw fangre adweithydd onid yw—

    (3) Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer unrhyw symud arall ac eithrio—

    (4) Rhaid i drwydded a roddir o dan y paragraff hwn heblaw am drwydded ar gyfer symud anifeiliaid o dan baragraff (3)(b) ei gwneud yn ofynnol—

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 3
     3. —(1) Yn ystod cyfnod 3, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid allan o'r parth brechu o dan is-baragraff (1) ac eithrio ei bod ar gyfer eu cludo'n uniongyrchol o fangre a ddosbarthwyd o dan reoliad 25(1)(b) yn un sy'n rhydd o'r clwy i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith a'i bod yn cynnwys cydymffurfedd â'r amodau yn is-baragraff (3).

    (3) Amodau'r is-baragraff hwn yw—

    (4) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid oddi mewn i'r parth brechu o dan y paragraff hwn oni bai

    (5) Amodau'r is-baragraff hwn yw—

    (6) Ni cheir rhoi trwydded o dan y paragraff hwn ar gyfer symud anifeiliaid sydd heb eu brechu sy'n epil i fam sydd wedi'i brechu oni bai—

    (7) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, yn ystod cyfnod 3 ni chaniateir i unrhyw berson wedyn symud unrhyw anifail a symudwyd o'r fangre benodedig honno ac eithrio—

    (8) Rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy y caiff anifeiliaid sy'n dueddol o gael y clwy eu cludo iddo o dan awdurdod twydded a roddir o dan y paragraff hwn o unrhyw fangre a ddosbarthwyd yn un sy'n rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b) sicrhau—

Glanhau a diheintio cebydau sy'n cludo anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy
     4. —(1) Rhaid i'r person sydd â gofal unrhyw gerbyd a ddefnyddir i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy o dan awdurdod trwydded a roddir o dan baragraff 1, 2 neu 3—

    (2) Rhaid ymgymryd â'r glanhau a'r diheintio hwnnw—

Dangos trwyddedau a dadlwytho ar ôl symudiadau trwyddedig
     5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan roddir unrhyw drwydded i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy rhwng mangreoedd o dan y Rhan hon, onid yw'r drwydded honno'n darparu fel arall.

    (2) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, ni chaniateir i unrhyw berson ddadlwytho anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy mewn mangre y symudir hwy iddi onid yw'r person hwnnw yn gyntaf yn rhoi'r drwydded symud i feddiannydd y fangre honno.

    (3) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y symudir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy iddi—



RHAN 2

Cig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 1
     6. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 1.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2
     7. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.

    (3) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig heblaw offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni chafodd ei gynhyrchu mewn sefydliad—

    (4) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

Cig ffres etc. o foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2
     8. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid heb eu brechu sy'n dueddol i gael y clwy ac a gigyddwyd mewn parth brechu yn ystod cyfnod 3
     9. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid heb eu brechu sy'n dueddol i gael y clwy ac a gigyddwyd mewn parth brechu yn ystod cyfnod 3.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai—

    (3) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

    (4) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'r anifeiliaid a gludir naill ai—

    (5) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r paragraff hwn—

    (6) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil ac epil seropositif heb ei frechu i famau wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3
     10. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.

    (3) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (4) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (5).

    (4) Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

    (5) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (6) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

Cig ffres etc. sy'n dod o foch wedi'u brechu ac epil seropositif heb ei frechu i foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3
     11. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (4).

    (3) Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

    (4) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (5) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn os yw'n dod o anifeiliaid—



RHAN 3

Cynhyrchion heblaw cig ffres etc.

Llaeth a chynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd o anifeiliaid wedi'u brechu
     12. —(1) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu llaeth anifail wedi'i frechu neu unrhyw gynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd o'r cyfryw laeth onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2).

    (2) Mae llaeth a chynhyrchion llaeth yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (3) Mae mangre'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

Casglu, cludo a phrosesu llaeth a gynhyrchwyd mewn parth brechu
     13. —(1) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu a chludo llaeth a gynhyrchwyd mewn parth brechu onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2) a bod y cludo'n digwydd mewn cerbyd sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).

    (2) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (3) Mae cerbyd yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (4) Rhaid i drwydded a roddir o dan is-baragraff (2)(b) bennu llwybr y daith sydd i'w gymryd a rhaid i'r drwydded gynnwys amod yn gwahardd y cerbyd a gaiff ei ddefnyddio rhag mynd i unrhyw fangre yn y parth sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy at ddibenion heblaw llwytho llaeth.

    (5) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llaeth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (2)(b) sicrhau—

    (6) Ni chaiff unrhyw berson brosesu llaeth a gludwyd o dan is-baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

Ffrwythloni artiffisial a chasglu ofa ac embryonau
     14. —(1) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial oddi wrth anifail sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn canolfan gasglu semen mewn parth brechu onid yw'r casglu hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu ofa neu embryonau oddi wrth anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn parth brechu.

    (3) Mae casglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (4) Ni chaniateir i unrhyw berson ddefnyddio semen a gasglwyd gan gydymffurfio ag is-baragraff (3) ar gyfer ffrwythloni artiffisial oni chafodd ei storio ar wahân i semen arall am o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl ei gasglu.

Crwyn
     15. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i grwyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—

Gwlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch
     16. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch o anifeiliaid sy'n tarddu o barth brechu.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—

Cynhyrchion eraill o anifeiliaid
     17. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gynhyrchion anifeiliaid nad yw paragraffau eraill yn yr Atodlen hon yn gymwys iddynt pan gynhyrchir hwy o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu cynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni un o'r gofynion canlynol—

    (3) Yn y paragraff hwn, mae i'r ymadroddion "anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o" (o ran mangre sydd wedi'i heintio, mangre a amheuir neu fangre a ddaeth i gyffyrddiad â'r clwy) ac "anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o" (o ran parth rheolaethau dros dro, parth gwarchod neu barth goruchwylio) yr ystyr a roddir iddynt yn erthygl 3 o'r Gorchymyn.

Cludo, trin a dosbarthu tail a gwrtaith
     18. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dail neu wrtaith sy'n dod o fangre mewn parth brechu lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw berson gludo tail neu wrtaith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3), (5) neu (7) a chydag is-baragraff (10).

    (3) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef i sefydliad ar gyfer triniaeth i ddinistrio feirws y clwy o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y cludir tail neu wrtaith iddi gan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (3) sicrhau ei fod yn cael ei drin yn unol â phwynt 5 o Adran II yn Rhan A o Atodiad VIII i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002[21].

    (5) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (6) Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (5) onid yw'r gwasgaru hwnnw wedi'i awdurdodi gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith—

    (7) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

    (8) Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (7) onid awdurdodir gwasgaru o'r fath gan drwydded a roddir gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith yn cael ei chwistrellu i mewn i'r ddaear.

    (9) Rhaid i unrhyw drwydded a roddir o dan is-baragraff (5), (6) neu (8) gynnnwys o leiaf y telerau canlynol—

    (10) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef mewn cerbyd—

    (11) Ar ôl cludo tail neu wrtaith o dan y paragraff hwn, rhaid i'r person sydd â gofal y cerbyd sicrhau ei fod yn cael ei lanhau a'i ddiheintio ar ôl dadlwytho neu wasgaru a chyn ymadael â'r fangre gyrchu.

    (12) Rhaid i'r person sydd â gofal cerbyd sydd i'w lanhau a'i ddiheintio o dan is-baragraff (10) neu (11) sicrhau bod y glanhau a'r diheintio hwnnw'n cael ei wneud yn y fath fodd—



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn trosi'r agweddau hynny ar Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC ar fesurau'r Gymuned i reoli clwy'r traed a'r genau ("y Gyfarwyddeb") sy'n ymwneud â brechu yn erbyn clwy'r traed a'r genau ("y clwy").

Mae Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006, sy'n dod i rym ar yr un pryd â'r Rheoliadau hyn, a Rheoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid (Diwygio) 2005, yn rhoi effaith i weddill darpariaethau'r Gyfarwyddeb.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau cyflwyno a dehongli.

Mae Rhannau 2 yn darparu ar gyfer rhaglen frechu yn erbyn y clwy ac mae Rhan 3 yn rhagnodi darpariaeth gyffredinol ac atodol. Yn benodol mae rhannau 2 a 3 yn darparu ar gyfer y canlynol:

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Ardaloedd Heintiedig) 1972 (O.S. 1972/1509) (i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru), a Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Gwahardd Brechu) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2374). (rheoliad 43)

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1972, p.68.back

[2] O.S. 2005/2766.back

[3] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Ceir testun diwygiedig y Rheoliad mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[4] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Ceir testun diwygiedig y Rheoliad mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[5] 1981, p.22, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, c.42.back

[6] O.S. 2006/180 (C.319)..back

[7] O.S. 2005/31 (Cy.5).back

[8] O.S. 2005/1159 (Cy.75).back

[9] O.S. 1978/32, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/583(Cy.49); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back

[10] O.S. 1998/463.back

[11] O.S. 2005/2745.back

[12] OJ Rhif L306, 22.11.2003,t.l.back

[13] O.S. 1996/1686.back

[14] O.S. 1998/871, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[15] O.S. 2000/2976, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[16] O.S. 1972/1509.back

[17] O.S. 2001/2374 (Cy.198).back

[18] 1998 p.38.back

[19] O.S. 2003/1968 (Cy.213).back

[20] O.S. 1998/463.back

[21] O.J. Rhif L273, 10.10.2002 t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 416/2005 (O.J. Rhif 12.3.05 t.10)back



English version



ISBN 0 11 091288 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 8 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060180w.html