BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 Rhif 344 (Cy.41)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060344w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 344 (Cy.41)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006 
  Yn dod i rym 15 Chwefror 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1)[a] Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2006.

    (2)[b] Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006.

    (4)[c] Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
     2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
     3. Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992[5] yn effeithiol fel petai'r geiriau "or relevant special grant" yn eitem P wedi'u hepgor.

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
     4. Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)
     5. Mae adran 44 o Ddeddf 1992[7] yn effeithiol fel petai yn is-adran (1) yn eitem P—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adran honno ond yn ymwneud â'r symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn 2006 — 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn mewnosod diffiniad o "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F).

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol 2006-2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol am y flwyddyn honno.


Notes:

[1] 1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).back

[2] Trosglwyddwyd y pŵer i wneud rheoliadau o dan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 44(4) o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol ac Atodlen 1 iddi Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Diwygiwyd adran 323(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234).back

[4] 1988 p.41; mewnosodwyd adran 84G gan Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26)back

[5] Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234.back

[6] Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004/2005 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/451) (Cy.42).back

[7] Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004-2005 gan O.S. 2004/451 (Cy.42).back

[8] 1998 p.38.back


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylai "-1)" ddarllen fel "-(1)"; back

[b] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraff "(1)" yn "(2)"; back

[c] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraffau "(2)" a "(3)" yn "(3)" a "(4)" yn y drefn honno. back




English version



ISBN 0 11091278 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 24 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060344w.html