BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2006 Rhif 358 (Cy.46)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060358w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 358 (Cy.46)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 28R, 28S, 28V, 28W, 28X a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 4(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn—



RHAN 2

DIWYGIO RHEOLIADAU CONTRACTAU GMS (CYMRU)

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
     2. —(1) Diwygier rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) fel a ddarperir yn y paragraffau canlynol.

    (2) Yn y diffiniad o "adjudicator" yn lle "paragraph 101(5)" rhodder "paragraph 99(5)".

    (3) Yn y diffiniad o "bank holiday", ar ôl "proclaimed as a bank holiday" mewnosoder "in England and Wales".

    (4) Yn y diffiniad o "general medical practitioner"—

    (5) Yn lle'r diffiniad o "GP Registrar", rhodder—

    (6) Hepgorer y diffiniad o "GP Trainer".

    (7) Yn y diffiniad o "immediate family member", ar ôl "spouse" mewnosoder "or civil partner".

    (8) Hepgorer y diffiniad o "NCAA".

    (9) Ar ôl y diffiniad o "normal hours" mewnosoder—

    (10) Yn y diffiniad o "out of hours services", ym mharagraff (a), ar ôl "if provided" mewnosoder "by a contractor to its registered patients".

    (11) Yn y diffiniad o "supplementary prescriber"—

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
     3. Yn rheoliad 4 (amodau sy'n ymwneud yn unig ag ymarferwyr meddygol) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru), ychwaneger—

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
     4. —(1) Yn rheoliad 5(2)(h) (amodau cyffredinol sy'n ymwneud â phob contract) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) yn lle "the Criminal Procedure Act (Scotland) 1995" rhodder "the Criminal Procedure (Scotland) Act 1995".

    (2) Yn rheoliad 5(2)(j) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) mewnosoder ar y dechrau "within the period of five years prior to signing the contract or commencement of the contract, whichever is the earlier,".

Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
5. Yn rheoliad 10(2) (statws corff gwasanaeth iechyd) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) yn lle "body that fact, it" rhodder "body, that fact".

Diwygio rheoliad 17 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
6. Yn rheoliad 17 (ymeithrio o wasanaethau ychwanegol a thu allan i oriau) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) yn lle "paragraph 4(8)" rhodder "paragraph 4(9)".

Diwygio rheoliad 22 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
7. Yn rheoliad 22 (cyllid), o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) ym mharagraff (1), yn lle "the Local Health Board to make payments to the contractor", rhodder, "payments to be made".

Diwygio rheoliad 23 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
8. Yn rheoliad 23 (cyllid) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)—

Diwygio rheoliad 24 o Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
9. Yn rheoliad 24(4) (ffïoedd a thaliadau) o Reoliadau Contractau GMS (Cymru) yn lle "paragraph (e)" rhodder "paragraph 1(e)".

Diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
10. —(1) Diwygier Atodlen 2 (gwasanaethau ychwanegol) i Reoliadau Contractau GMS (Cymru) fel a ddarperir yn y paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff 2 (sgrinio ceg y groth), yn is-baragraff (2), yn lle paragraff (a) rhodder—

    (3) Ar ôl is-baragraff (2) o baragraff 2 mewnosoder—

    (4) Ym mharagraff 4 (brechiadau ac imiwneiddio) o Atodlen 2 i Reoliadau Contractau GMS (Cymru), ym mharagraff (2)(a), yn lle "influenza vaccination" rhodder "influenza and pneumococcal vaccinations".

Diwygio Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS (Cymru)
    
11. —(1) Diwigier Atodlen 6 (telerau contractol eraill) i Reoliadau Contractau GMS (Cymru) fel a ddarperir yn y paragraffau canlynol.

    (2) Ar ôl paragraff 1 (mangreoedd), mewnosoder—

    (3) Ym mharagraff 7 (adroddiadau clinigol), ar y diwedd mewnosoder—

    (4) Ym mharagraff 11 (safonau ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau) ar ôl y gair "must" mewnosoder y geiriau "have regard to" a hepgorer y gair "meet".

    (5) Ar ôl paragraff 11 (safonau ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau), mewnosoder—

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
    
16. Yn rheoliad 4 (cais am gael cynnwys enw ar restr perfformwyr) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)—

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
     17. Yn rheoliad 6 (penderfyniadau a seiliau dros wrthod) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru), ym mharagraff (4)(f), yn lle "to which Part I of the Sexual Offences Act 1997 applies, or if it had been committed in England or Wales, would have applied" rhodder "for the purposes of Part 2 of the Sexual Offences Act 2003[26], or if it had been committed in England and Wales, would have been such an offence".

Diwygio rheoliad 9 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
     18. Yn rheoliad 9 (gofynion y mae'n rhaid i berfformiwr ar restr perfformwyr gydymffurfio â hwy) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru), yn lle paragraph (1)(d) ac (e) rhodder—

Diwygio rheoliad 11 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
     19. Yn rheoliad 11 (meini prawf ar gyfer penderfyniad i dynnu enw oddi ar y rhestr) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)—

Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
    
20. Yn rheoliad 16(2)(g) (hysbysu) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru), yn lle "NCAA" rhodder "NPSA".

Diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru)
    
21. Yn rheoliad 20(1)(f) (datgelu gwybodaeth) o Reoliadau Rhestri Perfformwyr (Cymru), yn lle "NCAA" rhodder "NPSA".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
29]


John Marek
Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Chwefror 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau penodol ynghylch contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004.

Mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (Rheoliadau Contractau GMS (Cymru)). Yn benodol—

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran tynnu, yn rhinwedd rheoliad 3, hawl personau penodol i fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol gorfodol at ddibenion contract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae'n darparu pan fydd person o'r fath wedi bod yn ymarferydd meddygol gorfodol at ddibenion contract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd iddo cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ni ellir terfynu'r contract oherwydd torri'r gofynion diwygiedig (rheoliad 14).

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004.


Notes:

[1] 1977 p.49; mewnosodwyd adrannau 28R, 28S, 28V a 28W gan adran 175(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003"); mewnosodwyd adran 28X gan adran 179(1) o Ddeddf 2003; diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(2), Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), Atodlen 5, paragraff 5(13)(b).back

[2] 1990 p.19.back

[3] O.S. 2004/478 (Cy.48).back

[4] O.S.2004/1020 (Cy.117) fel y'i diwygiwyd gan O.S.2005/258 (Cy.24).back

[5] O.S. 1994/3130; diwygiwyd rheoliad 5 gan O.S. 1997/2817 a'i addasu gan erthygl 117 o O.S. 2004/865. Dirymir y Rheoliadau cyfan yn rhagolygol gan O.S. 2003/1250, erthygl 31(5) ac Atodlen 10, Rhan 2.back

[6] O.S. 1997/2817 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/669 a'i addasu gan erthygl 118 o O.S. 2004/865.back

[7] O.S. 2001/1743 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1077 ac O.S. 2005/504.back

[8] O.S. 2002/254 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2033.back

[9] 1989 p.44.back

[10] O.S. 1994/3130 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2817 a 2003/3148. Dirymir y Rheoliadau cyfan yn rhagolygol gan O.S. 2003/1250, erthygl 31(5) a Rhan 2 o Atodlen 10.back

[11] O.S. 1997/2817 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/669 a 2003/3148 a'i addasu gan O.S. 2004/865, erthygl 118. Dirymir y Rheoliadau cyfan yn rhagolygol gan O.S. 2003/1250, erthygl 31(5) a Rhan 2 o Atodlen 10.back

[12] O.S. 1998/5 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/669 a O.S. yr A. 2000/23 a'i addasu gan O.S. yr A. 2004/163, erthygl 101. Dirymir y Rheoliadau cyfan yn rhagolygol gan O.S. 2003/1250, erthygl 31(5) a Rhan 2 o Atodlen 10.back

[13] Rh.St. 1998/13 fel y'i addaswyd gan Rh.St. 2004/156, Erthygl 93. Dirymir y Rheoliadau cyfan yn rhagolygol gan O.S. 2003/1250, erthygl 31(5) a Rhan 2 o Atodlen 10.back

[14] Amnewidiwyd y diffiniad o "restricted services principal", ar gyfer Lloegr, gan O.S. 2004/865, ar gyfer yr Alban, gan O.S. 2004/2261, ar gyfer Gogledd Iwerddon gan O.S. 2004/3038 ac ar gyfer Cymru gan O.S. 2004/1016.back

[15] O.S.2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.2001/2539 (Cy.196), 2004/1018 (Cy.115), 2004/1605 (Cy.164), 2005/427 (Cy.44) a 2005/1915 (Cy.158).back

[16] O.S.1997/1830; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2000/1917 a 2003/2915.back

[17] O.S. 2004/1022 (Cy.19) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/366 (Cy.32).back

[18] Diwygiwyd rheoliad 4(1) gan O.S. 2005/427 (Cy.44) a 2005/1915 (Cy.158) sy'n cynnwys diwygiadau rhagolygol ychwanegol i reoliad 4(1) a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2006 ymlaen.back

[19] O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840, 2001/1397 a 3322 a 2003/975.back

[20] O.S. 2004/1020 (Cy.117).back

[21] Mae'r ddogfen hon ar gael yn y wefan ganlynol: www.dh.gov.uk/PolicyAndGuidance/OrganisationPolicy/PrimaryCare/PrimaryCareComputing.back

[22] O.S. 2004/1016 (Cy.113).back

[23] 1983 p.54; mewnosodwyd adran 35D gan O.S. 2002/3135 ac amnewidiwyd adrannau 38(1) a 41A ganddo.back

[24] 1995 p.46.back

[25] 1992 p.5; mewnosodwyd adran 115A gan adran 15 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol (Twyll) (p.47).back

[26] 2003 p.42.back

[27] 1995 p.46back

[28] 1992 p.5; mewnosodwyd adran 115A gan adran 15 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol (Twyll) (p.47).back

[29] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091277 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 24 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060358w.html