[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 360 (Cy.47)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'i wneud |
14 Chwefror 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 200 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 1 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn Gorchymyn hwn ystyr "Gorchymyn (Cymru) (Rhif 2)" yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004[2].
2.
Yn erthygl 86(1) o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (ystyr profiad addas), yn lle "Until the coming into force of article 5" rhodder "Until either the establishment of the General Practitioner Register pursuant to article 10(1) of the 2003 Order or the coming into force of paragraphs 21 and 22 of Schedule 8 to that Order, whichever occurs first,".
3.
Dirymir erthygl 31 o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (trefniadau ar gyfer Cofrestryddion Practis Cyffredinol).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cywiro gwall mewn croesgyfeiriad yn erthygl 86 o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu erthygl 31 o'r Gorchymyn hwnnw. Yr oedd y ddarpariaeth honno'n datgymhwyso gofyniad am gydsyniad y Cynulliad i gyflogi Cofrestrydd Practis Cyffredinol at ddibenion cael ei hyfforddi gan Hyfforddwr Practis Cyffredinol. Tynnir y gofyniad am gydsyniad o'r fath ym mharagraff 63 o Atodlen 6 o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 gan reoliad 11(14) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2006.
Notes:
[1]
2003 p.43.back
[2]
O.S. 2004/1016 (Cy.113).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091281 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
28 February 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060360w.html