BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 Rhif 485 (Cy.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060485w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 485 (Cy.55)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2006 
  Yn dod I rym 1 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), 31(1) a (2)(b), (c) ac (f), a 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], ac ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Troseddau a chosbau
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a gynhwysir yn narpariaethau'r Gymuned a nodir ym mharagraff (2), bydd person yn euog o drosedd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw—

    (2) Y rhai o ddarpariaethau'r Gymuned a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

Gorfodi
    
4. Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Caffael a dadansoddi samplau
    
5. —(1) Pan fo sampl i'w gymryd o dan adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf o fwyd a bennir yn Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, rhaid cymryd y sampl hwnnw yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer afflatocsinau
    (2) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD
    (3) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer ocratocsin A
    (4) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i darllennir ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) sy'n debyg i ddeuocsinau
    (5) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (f) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer patwlin
    (6) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf wedi'u darllen ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer tun
    (7) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf wedi'u darllen ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (g) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer benso(a)pyren
    (8) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (h) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
     6. —(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—

    (3) Bydd yr ymadroddion "authorised officer", "food authority", "human consumption", "placing on the market", "Directive 98/53/EC", "Directive 2001/22/EC", "Directive 2002/26/EC", "Directive 2002/69/EC", "Directive 2003/78/EC", "Directive 2004/16/EC" a "Directive 2005/10/EC" a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Ddeddf a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol
    
7. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[43] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, rhodder y cofnod a ganlyn—

"The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2006 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with regulation 5 of those Regulations) S.I. 2006/485 (Cy.55) ."


Dirymiadau
     8. Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005[44] a Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005[45].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[46]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru ac sy'n dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/364) fel y'u diwygiwyd—

     2. Mae'r Rheoliadau hyn—

     3. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae wedi'i gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut y trosir prif elfennau Rheoliadau'r Comisiwn, y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod, i gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 o Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.).back

[4] 1984 t.22.back

[5] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 93/1999 (OJ Rhif L296, 23.11.2000, t.58).back

[6] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44 fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.back

[7] OJ Rhif L332, 19.12.2003, t.38.back

[8] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.14.back

[9] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14.back

[10] OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34.back

[11] OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.50.back

[12] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38.back

[13] OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.38.back

[14] OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5.back

[15] OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40.back

[16] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.17.back

[17] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.40.back

[18] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16.back

[19] OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15.back

[20] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002 (OJ Rhif L266, 3.10.2002, t.30, ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 49, 3.10.2002).back

[21] OJ Rhif L313, 30.11.2001, t.60, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002.back

[22] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002.back

[23] OJ Rhif L37, 7.2.2002, t.4, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 139/2002 (OJ Rhif L19, 23.1.2003, t.3 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 5, 23.1.2003).back

[24] OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.12, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 100/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.13 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 54, 31.10.2002, t.11).back

[25] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002 (OJ Rhif L38, 13.2.2003, t.16 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 9, 13.2.2003, t.13).back

[26] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back

[27] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.back

[28] OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.back

[29] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.back

[30] OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.back

[31] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3.back

[32] OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.back

[33] OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.back

[34] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.back

[35] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t. 6.back

[36] OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.43.back

[37] OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.3.back

[38] OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.3.back

[39] OJ Rhif L293, 9.11.2005, t.11.back

[40] OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1.back

[41] Y gofyniad yw mai'r isafswm o unedau sy'n ofynnol ar gyfer sampl labordy yn y fath amgylchiadau yw 10.back

[42] OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30.back

[43] O.S. 1990/2463; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603, O.S. 2002/1886 (C.195) ac O.S. 2003/1721 (C.188).back

[44] O.S. 2005/364 (C.31).back

[45] O.S. 2005/1629 (C.123).back

[46] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091282 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 7 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060485w.html