BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 519 (Cy.63)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
28 Chwefror 2006 | |
|
Yn dod i rym |
3 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Ffioedd
2.
—(1) Rhaid i berson sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991[3] ac a restrir yn yr Atodlen, neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ei ran, y ffioedd a restrir yn yr Atodlen o ran y swyddogaethau hynny.
(2) Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yno.
Tynnu cais yn ôl
3.
Os yw person sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu yn tynnu ei gais neu ei chais yn ôl cyn i'r arolygydd gyrraedd er mwyn arolygu'r cnwd am y tro cyntaf, rhaid i'r person hwnnw neu honno dalu ffi o £15 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i wneud arolygiad o'r fath ar ei ran.
Dirymu rheoliadau blaenorol
4.
Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) 1998[4] yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlathol
28 Chwefror 2006
YR ATODLENRheoliad 2
Y Swyddogaeth
|
Ffi*
|
(Ffi flaenorol)
|
Lleiafswm y ffi
|
(Lleiafswm blaenorol y ffi)
|
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu selau a labeli o ran ceisiadau am iddynt gael eu ddosbarthu:— |
fel tatws hadyd cyn-sylfaenol |
£81.00* |
(—) |
N/A |
(N/A) |
fel tatws hadyd sylfaenol:— |
|
|
|
|
dosbarth VTSC |
£75.00 |
(£75.00) |
N/A |
(N/A) |
dosbarth Super Elite |
£40.50 |
(£40.50) |
£81.00 |
(£81.00) |
dosbarth Elite |
£40.50 |
(£40.50) |
£81.00 |
(£81.00) |
dosbarth AA |
£38.50 |
(£38.50) |
£77.00 |
(£77.00) |
fel tatws hadyd ardystiedig |
£35.00 |
(£35.00) |
£70.00 |
(£70.00) |
o dan gynllun neu drefniadau eraill yn unol â pharagraff 4(c)(ii) o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd 1991 |
£81.00* |
(—) |
N/A |
(N/A) |
Arolygu cloron a gynaeafwyd |
Hyd at ddau arolygiad |
£12.00 |
(£12.00) |
£24.00 |
(£24.00) |
Y trydydd arolygiad a phob arolygiad wedyn |
£81.00* |
(£81.00) |
N/A |
(N/A) |
* O'r cyfraddau a restrir yn y golofn hon, mae'r rheini a nodir â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, mae'r rheini heb seren yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r ffioedd sydd i'w talu gan bobl sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd (tatws plannu) wedi'u dosbarthu o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) 1998 mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno dau ddosbarth newydd o ffi, sef ffi ar gyfer arolygu tatws hadyd cyn-sylfaenol, a ffi ar gyfer arolygu tatws o dan gynllun neu drefniant y darperir ar ei gyfer gan baragraff 4(c)(ii) o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau 1991.
Mae pob ffi arall a ragnodir gan y Rheoliadau yn aros heb ei newid ers Rheoliadau 1998. Cost cyflawni'r gwasanaethau y codir taliadau amdanynt yw pob ffi. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth yr Adran Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1964 p.14; diwygiwyd adran 16(1) a mewnosodwyd adran 16(1A) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 5(1) a (2).back
[2]
O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (OS 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan y Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
OS 1991/2206, a ddiwygiwyd gan OS 1992/1031, 1993/1878, 1994/2592, 1997/1474, 2001/3666. Mae swyddogaethau wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
OS 1998/1228.back
[5]
1998 p.68back
English version
ISBN
0 11 091291 8
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
9 March 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060519w.html