BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 Rhif 590 (Cy.66)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060590w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 590 (Cy.66)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 8 Mawrth 2006 


TREFNIANT Y RHEOLIADAU


RHAN I

MATERION RHAGARWEINIOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli

RHAN II

Y PRIF DDARPARIAETHAU
3. Awdurdodau cymwys
4. Cyfnewid a darparu gwybodaeth
5. Sicrhau gwybodaeth
6. Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir
7. Monitro camau gorfodi
8. Pŵer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi
9. Pŵerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi
10. Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig
11. Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9
12. Yr hawl i apelio
13. Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)
14. Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall
15. Arbenigwyr y Comisiwn
16. Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol
17. Gweithredu a gorfodi
18. Pwerau mynediad
19. Rhwystro, etc. swyddogion
20. Cosbau
21. Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

RHAN III

RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID
22. Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau
23. Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid
24. Cyfrifoldebau gorfodi bwyd
25. Swyddogaethau'r Comisiynwyr
26. Gohirio gweithredu a gorfodi
27. Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol
28. Gwirio cynhyrchion
29. Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill
30. Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)
31. Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30
32. Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31
33. Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd
34. Atebolrwydd am ffioedd
35. Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig
36. Dadansoddi etc. samplau
37. Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd
38. Rhwystro etc. swyddogion
39. Tramgwyddau a chosbau
40. Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

RHAN IV

GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL
41. Tramgwyddau oherwydd bai person arall
42. Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy
43. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
44. Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd
45. Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll
46. Cyflwyno dogfennau
47. Diwygiad canlyniadol
48. Dirymiad

YR ATODLENNI

  ATODLEN 1 DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  ATODLEN 2 DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

  ATODLEN 3 DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

  ATODLEN 4 AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

  ATODLEN 5 AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer (o ran rheoliad 41 o'r Rheoliadau canlynol) y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], ac ar ôl iddo roi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[3] o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[4] a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd[5], drwy arfer (o ran y Rheoliadau canlynol ac eithrio rheoliad 41) y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[6], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN I

MATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 8 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

    (3) Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.

    (4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli—

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'r cyfeiriad hwnnw yn ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u priodoli iddo.



RHAN II

Y PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwys
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

    (2) Pan ddynodir yr awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1), dim ond ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd, y mae'r dynodiad yn rhychwantu.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), mae unrhyw gorff a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

    (4) Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3), bydd y dynodiad ddim ond yn rhychwantu ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd.

    (5) Pan ddynodir yr Asiantaeth yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn rhychwantu cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006[
10] yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.

    (6) Pan fo'r Asiantaeth wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, bydd y dynodiad yn rhychwantu, o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), y sefydliadau a'r gweithgareddau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.

Cyfnewid a darparu gwybodaeth
     4. —(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau RhSFAB (Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd) eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a roddir arnynt gan Reoliad 882/2004, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau RhSFAB eraill unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

    (2) At ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

    (3) Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol â'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion hwyluso gwaith gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

    (4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdodau cymwys gan neu o dan ddeddfwriaeth Gymunedol i ddatgelu gwybodaeth.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "awdurdodau RhSFAB eraill" yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 ac eithrio'r awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn.

Sicrhau gwybodaeth
    
5. —(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 ac at ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i gorff rheoli—

    (2) Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

    (3) Mae person sydd—

yn euog o dramgwydd.

    (4) At ddibenion paragraff (1), mae'r term "corff rheoli" ("control body") yn cynnwys unrhyw aelod o gorff rheoli, unrhyw swyddog i gorff rheoli neu unrhyw un o gyflogeion corff rheoli.

Pŵer i ddyroddi codau arferion a argymhellir
    
6. —(1) Fel canllawiau i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd, caiff y Cynulliad ddyroddi codau arferion a argymhellir ynghylch—

    (2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â'r Cynulliad, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

    (3) Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid ac awdurdod bwyd—

    (4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

    (5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r Cynulliad cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

    (6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Monitro camau gorfodi
    
7. —(1) Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurodau gorfodi o ran gorfodi rheoliadau archwilio penodol.

    (2) Mae'r swyddogaeth honno yn cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed ar gyfer awdurdodau gorfodi yn gyffredinol neu ar gyfer awdurdodau penodol) mewn perthynas â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.

    (3) Rhaid i bob adroddiad blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer ac ar ei pherfformiad o ran—

    (4) Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaniateir i'r adroddiad hwnnw gynnwys canllawiau ynghylch y camau y cred yr Asiantaeth y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.

    (5) Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo—

    (6) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel petai'n wybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

Pŵer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi
     8. —(1) At ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi, caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)—

    (2) Gall gofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—

    (3) Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).

Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi
    
9. —(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) at ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.

    (2) Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerwyd gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.

    (3) Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd tra'n arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).

    (4) Caiff person awdurdodedig—

    (5) Y fangre y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddi yw—

    (6) Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y mae'n barnu ei fod yn briodol gydag ef.

    (7) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig—

    (8) Os bydd person, sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

    (9) Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth (mewn perthynas â'i pherfformiad o ran gorfodi'r darpariaethau hynny).

    (10) Yn y rheoliad hwn ystyr "person awdurdodedig" yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.

Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig
    
10. —(1) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "deddfwriaeth archwilio berthnasol" yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir "relevant legislation" yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

    (2) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "awdurdod gorfodi" yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi drwyddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os yr awdurdod gorfodi ydyw mewn perthynas â hi ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae "gorfodi" o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y mae wedi'i fynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9
    
11. Bydd person sydd—

yn euog o dramgwydd.

Yr hawl i apelio
    
12. —(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

apelio i lys ynadon.

    (2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[
12] fydd yn gymwys i'r trafodion.

    (3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

    (4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

    (5) Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei thynnu'n ôl neu ei gwrthod, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl neu wedi'i gwrthod, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—

    (6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd os yw—

    (7) Yn y Rheoliad hwn mae i bob un o'r termau "gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid", "hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid", "gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid" a "hysbysiad camau cywiro" yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)
     13. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.

Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall
    
14. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef at ddibenion cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad 882/2004.

Arbenigwyr y Comisiwn
    
15. —(1) Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre at ddibenion gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog fynd ag arbenigydd o'r Comisiwn gydag ef er mwyn galluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad 882/2004.

    (2) Ym mharagraff (1) ac ym mharagraff 5(b) o reoliad 17 ystyr "swyddog gorfodi" yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol.

Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol
    
16. Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Gweithredu a gorfodi
    
17. —(1) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5 yw'r awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y corff rheoleiddiol o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

    (2) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliadau 9 a rheoliad 11 yw'r Asiantaeth.

    (3) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16 yw'r awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw.

    (4) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 18 yw'r awdurdod a awdurdododd y person a aeth i mewn i'r fangre ac a ddatgelodd yr wybodaeth.

    (5) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 19—

Pwerau mynediad
    
18. —(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol ac eithrio'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

    (2) Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

    (3) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

    (4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

    (5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

    (6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

    (7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

    (8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

    (9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
13], i fynd i mewn i unrhyw fangre—

Rhwystro, etc. swyddogion
     19. —(1) Bydd unrhyw berson sydd—

yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

yn euog o dramgwydd.

    (3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Cosbau
    
20. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—

    (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu reoliad 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
    
21. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18, ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

p'un bynnag yw'r cynharaf.



RHAN III

RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau
    
22. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau—

ystyr "awdurdod gorfodi" ("enforcement authority") yw'r awdurdod gorfodi bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod gorfodi bwyd;

ystyr "awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru" ("outside Wales enforcement authority") yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;

nid yw "bwyd anifeiliaid" ("feed") yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) neu baragraff 4(d) o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid[
14] neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;

ystyr "y Comisiynwyr" ("the Commissioners") yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr "cynnyrch" ("product") yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion bwyd cyfansawdd hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC[15], sy'n cynnwys rhestr gyfyngedig yn unig o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd o'r herwydd wedi'u heithrio o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 98/78/EC gan Erthygl 3(1) o'r Penderfyniad hwnnw;

ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer"), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio;

ystyr "y tiriogaethau perthnasol" ("the relevant territories") yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid
     23. Cyfrifoldeb yr awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ddosbarth, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd
    
24. Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

Swyddogaethau'r Comisiynwyr
    
25. Rhaid i'r Comisiynwyr gyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd.

Gohirio, gweithredu a gorfodi
    
26. —(1) Pan fo—

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

    (2) Rhaid i'r ymgymeriad—

    (3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid i'r swyddog hwnnw—

    (4) Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

    (5) Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol
    
27. —(1) Ni chaiff unrhyw berson—

    (2) Ni chaiff unrhyw berson—

    (3) Yn y rheoliad hwn—

Gwirio cynhyrchion
    
28. —(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.

    (2) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni'r gwiriadau hynny.

    (3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16, bydd gan y swyddog hwnnw hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill
    
29. —(1) Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

    (2) Yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.

Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)
    
30. —(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd unrhyw un o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd hwnnw, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

    (2) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno arfer unrhyw un o'r pwerau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd hwnnw.

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30
    
31. —(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 apelio i lys ynadon.

    (2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r trafodion.

    (3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

    (4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31
    
32. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl i'r llys hwnnw o dan reoliad 31(1) apelio i Lys y Goron.

Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd
    
33. —(1) Pan fo'r Cynulliad neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddo neu ganddi sail resymol dros amau, fod bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff y naill neu'r llall ohonynt drwy ddatganiad ysgrifenedig atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu osod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.

    (2) Bydd datganiad o'r fath yn ysgrifenedig ac fe'i cyhoeddir yn y modd y gwêl y Cynulliad neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda a bydd yn pennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

    (3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

    (4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

    (5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

    (6) Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei dirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Atebolrwydd am ffioedd
    
34. —(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r person sy'n gyfrifol am lwyth o'r ffi sydd i'w thalu am y rheolaethau a gyflawnwyd arno gan yr awdurdod.

    (2) Os gofynnir amdani, bydd unrhyw ffi yr hysbysir person ohoni o dan baragraff (1) yn daladwy gan y person hwnnw i'r awdurdod gorfodi.

    (3) Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw unrhyw ffi am y costau a dynnir mewn cysylltiad â'r llwyth gan yr awdurdod gorfodi sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 yn rhinwedd rheoliad 29(2).

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig
    
35. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—

Dadansoddi etc. samplau
    
36. —(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 35—

    (2) Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

    (3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

    (4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd, yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

    (5) Rhaid i ddadansoddydd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

    (6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

    (7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

    (8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

    (9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal dan sylw, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

    (10) Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau)[
16] yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi o dan reoliad 35 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

    (11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.

Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd
     37. —(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

    (2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

    (3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

    (4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

    (5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

    (6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bwer a roddwyd gan baragraff (5)—

    (7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

    (8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

Rhwystro etc. swyddogion
    
38. —(1) Bydd unrhyw berson sydd—

yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

yn euog o dramgwydd.

    (3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau
    
39. —(1) Bydd unrhyw berson sydd—

yn euog o dramgwydd.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio yn agored—

    (3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 38 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)
    
40. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 39(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

p'un bynnag yw'r cynharaf.



RHAN IV

GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arall
    
41. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy
    
42. —(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

    (2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
43. —(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Ym mharagraff (1)(a) ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd
    
44. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll
    
45. —(1) Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

    (2) Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1) fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

    (3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog—

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

    (4) I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

    (5) Yn y rheoliad hwn ystyr "corff perthnasol" yw corff sy'n gweithredu—

Cyflwyno dogfennau
    
46. —(1) Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno—

    (2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel "meddiannydd" y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—

Diwygiad canlyniadol
    
47. —(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005[17] wedi'u diwygio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (2).

    (2) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig) yn lle'r geiriau "Rheoliadau Rheolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol (Cymru) 2005" rhodder y geiriau "Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006".

Dirymiadau
     48. Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005[18] wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mawrth 2006



YR ATODLENNI


ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL


ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
20] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[21];

ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd[22];

ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[23] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[24] yn cael ei wirio, fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005; ac

ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol sy'n ymwneud â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diwygio Cyfarwyddebau 89/662/EEC y Cyngor a 92/118/EEC a Phenderfyniad 95/408/EC[25] y Cyngor.

ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden [26];

ystyr "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd[27];

ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[28]; ac

ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[29].



ATODLEN 2
Rheoliad 2(1)


DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL


ystyr "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" ("relevant feed law") yw—



ATODLEN 3
Rheoliad 2(1)


DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL


ystyr "cyfraith bwyd berthnasol" ("relevant food law") yw—



ATODLEN 4
Rheoliad 3(1)


AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eitem Yr awdurdod cymwys Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1. Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2. Yr awdurdod bwyd anifeiliaid Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54



ATODLEN 5
Rheoliad 3(3)


AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eitem Yr awdurdod cymwys Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1. Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2. Yr awdurdod bwyd Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254 (Cy.247)). Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn—

     2. Mae'r Rheoliadau hyn, yn yr un modd ag O.S. 2005/3254 (Cy.246), sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a rheolau ynghylch iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1 o ran "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" a "cyfraith bwyd berthnasol", sy'n dermau a ddiffinnir yn Atodlenni 2 a 3 yn y drefn honno. Mae testun diwygiedig y Rheoliad EC/882/2004 hwn wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

     3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno i Gymru fwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol a hynny yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4) ac fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

     4. Mae'r Rheoliadau hyn—

     5. Mae Arfarniad Rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.back

[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau "the Secretary of State" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back

[3] 1972 p.68.back

[4] O.S. 2005/1971.back

[5] O.S. 2003/1246.back

[6] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[7] 1970 p.40.back

[8] 1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).back

[9] 1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen ynghyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back

[10] O.S. 2006/31 (Cy.5).back

[11] 1999 p.28.back

[12] 1980 p.43.back

[13] 1981 p.22.back

[14] OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29.back

[15] OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6.back

[16] O.S. 1990/2463, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[17] O.S. 2005/3368 (Cy.265).back

[18] O.S. 2005/3254 (Cy.247).back

[19] 1998 p.38.back

[20] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[21] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back

[22] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[23] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22).back

[24] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back

[25] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[26] OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.back

[27] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1.back

[28] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.back

[29] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.back

[30] 1970 p. 40.back

[31] O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004/1749 (Cy.186) ac O.S. 2004/3091 (Cy.265).back

[32] O.S. 2001/343 (Cy.15), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004/1749 (Cy.186), O.S. 2004/3091 (Cy.265) ac O.S. 2006/116 (Cy.14).back

[33] O.S. 2004/3221 (Cy.277).back

[34] O.S. 2005/1323 (Cy.97).back

[35] O.S. 2005/3368 (Cy.265).back

[36] O.S. 2006/116 (Cy.14).back

[37] O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3590 ac O.S. 2004/147.back

[38] O.S. 1999/3483, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1113, O.S. 2001/2420, O.S. 2001/3834, O.S. 2002/1767, O.S. 2002/2723, 2003/661, 2003/2591, 2004/676, 2004/1393, 2004/2559, 2005/432 a 2005/1725.back

[39] OJ No. L208, 24.7.92, t.1.back

[40] OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.back

[41] OJ No. L208, 24.7.92, t.9.back

[42] O.S. 2003/2821.back

[43] O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003.back

[44] O.S. 2001/1360 (Cy.88).back

[45] O.S. 1996/3124, diwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S 2002/129 (Cy.17), O.S. 2003/3229 (Cy.309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144).back

[46] O.S. 2005/666 (Cy.56).back

[47] O.S. 1988/1647.back



English version



ISBN 0 11 091293 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 14 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060590w.html