BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 Rhif 615 (Cy.68)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060615w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 615 (Cy.68)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 7 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn—

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.

Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynlluniau gwella
    
2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
    
3. Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Dirymu
    
4. Dirymir y gorchmynion canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i lunio cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir "cynllun gwella" yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi a'r dyddiad erbyn pryd y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i'w hanfon i'r awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac, os bydd angen, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac nid yw'n gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ei le ynghylch y cyfnod y dylai awdurdod gwerth gorau adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] O.S. 2002/886 (Cy. 101).back

[3] O.S. 2004/1575 (Cy. 161).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091295 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 14 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060615w.html