BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 617 (Cy.69)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060617w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 617 (Cy.69)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 10 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaeth 1970[1] a chan ei fod wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[3] a mesurau ym maes milfeddygaeth er diogelu iechyd y cyhoedd[4].

     Bu ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu fel sy'n briodol yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[5].

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mawrth 2006.

Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
    
2. —(1) Yn Atodlen 5 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006[6], diwygir Pennod A yn unol â pharagraffau (2) i (4).

    (2) Mewn perthynas â chofnodion ynghylch fflworin—

    (3) Mewn perthynas â'r cofnodion ynghylch plwm, yn lle'r ymadrodd "grass meal, lucerne meal or clover meal" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "green fodder (including products such as hay, silage, fresh grass, etc)".

    (4) Mewn perthynas â'r cofnodion ynghylch mercwri, ar ôl y cofnod "— feed materials produced by the processing of fish or other marine animals" yng ngholofn 2 mewnosoder y cofnod "— calcium carbonate" a chyferbyn â'r cofnod hwnnw, yng ngholofn 3 mewnosoder y ffigur "0.3".

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[7] o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).

    (2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli), ar ddiwedd y diffiniad o Gyfarwyddeb 2002/70/EC ychwaneger yr ymadrodd "as amended by Commission Directive 2005/7/EC[8]".

    (3) Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (4) rhodder y canlynol—

    (4) Yn Atodlen 2 Rhan I (darpariaethau cyffredinol) ychwaneger y paragraff canlynol—

    (5) Mewn perthynas â'r cofnodion sy'n ymwneud â deuocsinau a PCBs o fath deuocsin yn Atodiad I i Ran II (dulliau dadansoddi) o Atodlen 2—

    (6) Yn Atodlen 3 Rhan II (nodiadau'n ymwneud â llenwi tystysgrif) yn nodyn (8) ychwaneger yr is-baragraff canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") a Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 ("Rheoliadau 1999").

    
2. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith ddeddfwriaeth ganlynol y Gymuned Ewropeaidd—

     3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 i adlewyrchu'r ffaith bod Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau gwirio y cydymffurfir â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) yn gwneud yn effeithiol, o 1.1.2006 ymlaen, y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelod-wladwriaethau ac a gafwyd gynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC, i sicrhau bod gwaith samplu a dadansoddi, sy'n cael ei wneud yn unol â rheolaethau swyddogol, yn dilyn dulliau Cymunedol a ragnodir.

    
4. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC drwy ddiwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2006 mewn perthynas â chofnodion penodol ynghylch plwm, fflworin a mercwri.

    
5. Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn—

     6. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir darpariaethau gweithredol Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2005/6, 2005/7 a 2005/8 yn gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW.


Notes:

[1] 1970 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68), Atodlen 4, paragraff 6back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2005/2766.back

[4] O.S. 2003/1246.back

[5] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[6] O.S. 2006/116 (Cy.14).back

[7] O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004 /1749 (Cy.186) ac O.S. 2006/116 (Cy.14).back

[8] OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41.back

[9] OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091296 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 14 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060617w.html