BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 762 (Cy.72)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060762w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 762 (Cy.72)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005
    
2. Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005[3] fel a ganlyn.

     3. Yn rheoliad 16(3), yn lle "Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen" rhodder "Ni chaiff neb drosglwyddo'n gwota nas defnyddiwyd gwota y mae ei angen".

    
4. Yn rheoliad 23(4)(a), yn lle "cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na" rhodder "cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Mai neu cyn".

    
5. Yn rheoliad 33(5)—

     6. Yn rheoliad 35—

     7. Yn rheoliad 36—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2006, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S. 2005/537) ("Rheoliadau 2005").

Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 279, 21.10.2003, t.123) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t.22) ("Rheoliad y Comisiwn").

Mae rheoliad 3 yn cywiro gwall yn rheoliad 16 o Reoliadau 2005 sy'n atal trosglwyddiad cwotâu sy'n angenrheidiol i ofalu am gynhyrchu sy'n digwydd cyn y dyddiad trosglwyddo. Mae'r diwygiad hwn yn darparu y caniateir trosglwyddo'r cwota hwnnw, ond ni ellir ei gyfrif fel cwota nas defnyddiwyd.

Mae rheoliadau 4 i 6 yn diwygio darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr a phrynwyr llaeth ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn dyddiad penodedig. Y gofyniad yw bod yr wybodaeth yn cael ei hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad hwnnw neu cyn y dyddiad hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn cywiro hepgoriad yn rheoliad 36 o Reoliadau 2005 i gosbi prynwyr sy'n anfon crynodebau anghywir ynghylch cynhyrchu y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn. Mae hefyd yn darparu bod y gosb ar brynwyr sy'n methu â chyflwyno crynodeb sy'n ofynnol gan Erthygl 8(4) o Reoliad y Comisiwn cyn 1 Gorffennaf yn y flwyddyn pryd y mae ei angen yn gymwys 30 o ddiwrnodau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwn.

Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2005/537 (Cy.47).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091297 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060762w.html