BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 764 (Cy.73)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060764w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 764 (Cy.73)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 20 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac wedi iddo ymgynghori â'r cynrychiolwyr llywodraeth leol hynny sydd yn ei farn ef yn briodol, yn unol ag adran 76(5) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau
    
2. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000[3], wedi'i ddiwygio —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 84E o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu i grant cynnal refeniw gael fod yn daladwy i gyrff penodedig. Mae corff penodedig yn unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer awdurdodau lleol ac a bennir mewn rheoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 drwy dynnu'r Public Private Partnerships Programme Limited a Syniad o'r rhestr o gyrff penodedig ac ychwanegu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r diwygiadau hyn yn effeithiol am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/718 (Cy.25) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/706 (Cy.85).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091299 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060764w.html