BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 767 (Cy.74)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060767w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 767 (Cy.74)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi 14 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 16 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 16 Mawrth 2006.

Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005
    
2. —(1) Diwygier Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 [3] yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Ar ôl paragraff 3 mewnosoder—

    (3) Yn lle paragraff 18 rhodder—

Dirymu
     3. Dirymer Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2005[4]



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/666) ("Rheoliadau 2005"). Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9).

Diwygir Rhan VIII o Atodlen 1 er mwyn rhoi effaith i'r cyfyngiadau ar fewnforio cynhyrchion sy'n deillio o adar a geir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar dof (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t.60) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19). Mewnosodir cyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn Rhif 2005/760/EC (fel y'i diwygiwyd) ym mharagraffau 3A ac 18 o Ran VIII o Atodlen 1.

Mae Atodlen 1 i Reoliadau 2005 yn rhestru offerynnau'r Gymuned sy'n gosod amodau ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned. Mae Rheoliad 15 o Reoliadau 2005 yn gwahardd dod â chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio hyn i Gymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/3395) (Cy.271).

Ni chafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] S.I. 2005/2766.back

[2] 1972 c.68.back

[3] S.I. 2005/666 (W.56).back

[4] O.S. 2005/3395 (Cy.271).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091313 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060767w.html