BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 Rhif 877 (Cy.82)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060877w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 877 (Cy.82)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf Addysg 1996[1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 26 a 66(1) o Ddeddf Plant 2004[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn, dirymu a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir y Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf a'r ail o'r tabl yn Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw.

    (3) Mae unrhyw gynllun, sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2006, ac a wnaed o dan y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), i barhau mewn grym tan 1 Medi 2006 er gwaethaf y ffaith bod y paragraff hwnnw yn dirymu'r Rheoliadau y cafodd y cynllun ei wneud odano.

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyhoeddi (sut bynnag y cânt eu mynegi) yn gyfeiriadau at gyhoeddi yn unol â rheoliad 11.

Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl
     3. —(1) Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl yn unol â'r Rheoliadau hyn.

    (2) Rhaid i'r cynllun gynnwys datganiad ynghylch y weledigaeth a'r gwerthoedd strategol cyffredinol y mae'r awdurdod yn eu harddel wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o ran addysg, gan gadw mewn cof ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys, yn benodol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993[
9], Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975[10], Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976[11], Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[12], a Deddf Hawliau Dynol 1998[13].

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "Cynllun Addysg Sengl" ("Single Education Plan") yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26(1) o Ddeddf 2004 sy'n cwmpasu strategaethau'r awdurdod ar gyfer—

ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.

    (4) Rhaid i gynnwys Cynllun Addysg Sengl gydymffurfio â rheoliad 4.

Cynnwys Cynllun Addysg Sengl
     4. Rhaid i bob Cynllun Addysg Sengl gynnwys darpariaeth sy'n ymdrin â'r materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r wybodaeth ategol y cyfeirir ati yn Atodlen 3 ("yr Wybodaeth Ategol") fynd gydag ef.

Cyfnod Cynllun Addysg Sengl
    
5. Mae pob Cynllun Addysg Sengl i fod yn effeithiol am gyfnod yn cychwyn ar 1 Medi 2006 ac yn gorffen ar 31 Awst 2008.

Ymgynghori
    
6. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol i bob awdurdod ei gynnal wrth iddo lunio'i Gynllun Addysg Sengl.

    (2) Rhaid ymgynghori â'r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

    (3) Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) i (i) o baragraff (2), dim ond â chyrff sy'n cwmpasu ardal gyfan yr awdurdod neu unrhyw ran ohoni y mae'n rhaid ymgynghori.

    (4) Rhaid i'r awdurdod ymgynghori ar y cynllun drafft am gyfnod o ddim llai nag wyth wythnos.

    (5) Rhaid i'r awdurdod gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon at bob ymgynghorai gopi drafft o'r cynllun yn gwahodd sylwadau o fewn cyfnod penodedig.

    (6) Caniateir bodloni'r gofyniad ym mharagraff (5) am anfon copi drafft o'r cynllun at ymgyngoreion drwy anfon copïau'n electronig.

    (7) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw "Cynllun Addysg Sengl" yn cynnwys yr Wybodaeth Ategol.

Mabwysiadu Cynllun Addysg Sengl
     7. Rhaid i bob awdurdod fabwysiadu Cynllun Addysg Sengl erbyn 31 Gorffennaf 2006.

Cyhoeddi Cynllun Addysg Sengl
    
8. Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi ei Gynllun Addysg Sengl, fel y'i mabwysedir felly, erbyn 1 Medi 2006.

Diwygio Targedau
    
9. —(1) Rhaid diwygio'r Targedau, a rhaid cyhoeddi'r Targedau diwygiedig ar 31 Gorffennaf 2007 neu cyn hynny.

    (2) Rhaid i'r Targedau diwygiedig gwmpasu blwyddyn ysgol 2007-08 a blwyddyn ysgol 2008-09.

    (3) Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch ei Dargedau diwygiedig.

Diwygio'r Wybodaeth Ategol
    
10. —(1) Rhaid diwygio'r Wybodaeth Ategol a rhaid cyhoeddi'r Wybodaeth Ategol ddiwygiedig ar neu cyn 31 Gorffennaf 2007.

    (2) Rhaid i'r wybodaeth ddiwygiedig gwmpasu—

    (3) Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch yr Wybodaeth Ategol ddiwygiedig.

Gofynion cyhoeddi
    
11. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin dogfennau y mae'n ofynnol eu cyhoeddi fel pe baent wedi eu cyhoeddi ar y dyddiad y bodlonir y gofynion a nodir isod yn y rheoliad hwn neu, os bodlonir gofynion gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar yr olaf o'r dyddiadau hynny.

    (2) Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi'r ddogfen yn electronig ar safle'r awdurdod ar y rhyngrwyd.

    (3) Rhaid i bob awdurdod ar unrhyw adegau a fyddo'n rhesymol sicrhau bod copïau o'r ddogfen ar gael i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd—

Darparu copïau o Gynllun Addysg Sengl
    
12. —(1) Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i Gynllun Addysg Sengl ar gyfer—

    (2) Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Targedau yn unol â rheoliad 9 ar gyfer—

    (3) Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Wybodaeth Ategol yn unol â rheoliad 10 ar gyfer—

    (4) Pan fo person yn gofyn am gopi o dan baragraff (1), (2) neu (3) caniateir bodloni'r gofyniad drwy anfon y copi'n electronig.

Darpariaeth drosiannol
    
13. Hyd oni ddaw adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 i rym[23], mae cyfeiriadau ym mharagraff 3(a)(ii) a (iii) o Atodlen 2 sy'n nodi ei bod yn ofynnol cymryd mesurau arbennig mewn cysylltiad â'r ysgol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod mesurau arbennig yn ofynnol ar gyfer yr ysgol o fewn ystyr adran 13(9) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[24], ac mae cyfeiriadau yn y paragraffau hynny sy'n nodi ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod gan yr ysgol ddiffygion difrifol yn ystyr adran 16A(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[25].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[26].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 1


Rheoliadau a Ddirymwyd


OS Rhif Enw Darpariaethau a ddirymwyd
O.S. 1998/ 644 Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 Pob un
O.S. 2001/ 606 (Cy.29) Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 Pob un
O.S. 2002/ 1187 (Cy.135) Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 Pob un
O.S. 2003/ 893 (Cy.113) Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 Rheoliadau 5, 6 a 7 a'r Atodlen.
O.S. 2003/ 1732 (Cy.190) Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 Pob un
O.S. 2005/ 434 (Cy.45) Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Diwygio) (Cymru) 2005 Pob un



ATODLEN 2
Rheoliad 4


MATERION I YMDRIN Â HWY MEWN CYNLLUNIAU ADDYSG SENGL




RHAN 1

Cyflwyniad

Dehongli
     1. Yn yr Atodlen hon—



RHAN 2

Strategaethau

     2. Rhaid i Gynllun Addysg Sengl gynnwys, ar gyfer y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 5, y strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.

     3. Datganiad sy'n nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys ei strategaethau ar gyfer y canlynol—

     4. Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod, a'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei gwneud, boed yn rhan amser neu'n amser llawn, ar gyfer disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd, neu am resymau eraill, ac ar gyfer codi safonau addysg y disgyblion hynny.

     5. Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cynllunio lleoedd ysgolion (gan gynnwys y camau sydd eu hangen ym marn yr awdurdod i baru cyflenwad o leoedd ysgol â'r angen a nodwyd), gan ystyried—

     6. Datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro cynnydd o ran pob un o'i strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.



RHAN 3

Targedau

Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad
     7. —(1) O ran y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08 ceir y Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad yn is-baragraffau (2), (3) a (5) isod.

    (2) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyrhaeddiad fel a ganlyn—

    (3) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer presenoldeb fel a ganlyn—

    (4) Yn is-baragraff (3)—

    (5) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer gwaharddiadau fel a ganlyn—

    (6) At ddibenion paragraff (2), mae cyfeiriad at ddisgyblion 15 oed yn gyfeiriad at ddisgyblion a oedd yn 15 oed ar yr 31 Awst yn union cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y gosodwyd y targed ar ei chyfer.



ATODLEN 3
Rheoliad 4


Gwybodaeth Ategol


Rhaid i Atodiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol fynd gyda Chynllun Addysg Sengl—



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Addysg Lleol (yr awdurdod) ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol).

Mae adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (Deddf 2004) yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy Reoliadau, i awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, o bryd i'w gilydd, baratoi a chyhoeddi cynllun yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc berthnasol.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf 1996 a 26 o Ddeddf 2004, ac maent yn dirymu ac yn disodli'r Rheoliadau canlynol:—

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y materion canlynol:—


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygiwyd is-adran (3) o adran 29 gan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), ac Atodlenni 30 a 31 iddi. Am y diffiniad o "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).back

[3] 2004 p.31. Cafodd adran 26 ei chychwyn ar 1 Ebrill 2006 gan O.S. 2006/885 (Cy.85)(C.23).back

[4] Gweler adran 65(1) o Ddeddf 2004 ar gyfer ystyr awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, sy'n golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.back

[5] Trosglwyddwyd swyddogaeth dynodi o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back

[6] 1998 p.31.back

[7] 2002 p.32.back

[8] 2004 p.31.back

[9] 1993 p.38.back

[10] 1975 p.65.back

[11] 1976 p.74.back

[12] 1995 p.50.back

[13] 1998 p.42.back

[14] Mewnosodwyd paragraff 15 gan adran 48 o Dddeddf Addysg 1997 (p.44), ac fe'i ddiwygiwyd gan adran 140 o Ddeddf 1998, ac Atodlen 30 iddi, a chan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol ac Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002, O.S. 2002/808 (Cy.89).back

[15] 1977 p.49. Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back

[16] 1990 p.19.back

[17] Mae partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw bartneriaeth a sefydlwyd er hyrwyddo amcanion adran 123(2) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).back

[18] Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.back

[19] Diwygiwyd adran 390 gan adran 140(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 30 iddi.back

[20] 1998 p.37. Mae adran 39 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43), a Deddf Plant 2004.back

[21] Sefydlwyd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol at ddibenion adrannau 5 a 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn1998.back

[22] Mae Partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw Bartneriaeth Plant a sefydlwyd i hybu amcanion adrannau 25 a 26 o Ddeddf Plant 2004.back

[23] 2005 p.18.back

[24] 1996 p.57.back

[25] Mewnosodwyd adran 16A(4) gan adran 54 o Ddeddf 2002.back

[26] 1998 p.38.back

[27] Diwygiwyd adran 324 gan adran 9 o Ddeddf Anghenion Arbennig ac Anabledd 2001 p.10, adran 140 ac Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 iddi.back

[28] O ran trosglwyddo swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gweler Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 O.S. 2005/3239 (Cy.244). Yr awdurdodau rheoleiddio cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.back

[29] Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yn pennu 30 yn derfyn maint dosbarthiadau babanod fel arfer.back

[30] Gweler Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/893, (Cy.113) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/1813, (Cy. 143).back

[31] 1995 p.50.back

[32] O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1736 (Cy. 179).back

[33] Mae cymhwyster a gymeradwywyd yn gymhwyster a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno.back



English version



ISBN 0 11 091305 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060877w.html