BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006 Rhif 940 (Cy.89) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060940w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 28 Mawrth 2006 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2006 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat |
4. | Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan geir hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat |
5. | Hysbysiad gan berson sydd eisoes yn maethu plentyn yn breifat |
6. | Hysbysiad bod plentyn yn mynd i fyw gyda gofalydd maeth preifat |
7. | Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan ddaw hysbysiad i law am blentyn a faethir yn breifat |
8. | Ymweliadau dilynol â phlant a faethir yn breifat |
9. | Hysbysiad o newid mewn amgylchiadau |
10. | Hysbysiad o ddiwedd trefniant maethu preifat |
11. | Ffurf yr hysbysiadau |
12. | Monitro cyflawni'r swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf |
13. | Dirymu a darpariaeth drosiannol |
Hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat
3.
—(1) Rhaid i berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig—
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n ymwneud a threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) i blentyn gael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r trefniant cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud.
(3) Rhaid i riant plentyn, a pherson nad yw'n rhiant ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn, nad yw'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, ond sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol o'r trefniant.
(4) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (1) i (3) gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a bennir yn Atodlen 1 y mae'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gallu ei darparu.
Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan geir hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat
4.
—(1) Os bydd awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 3 rhaid iddo drefnu, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf (lles plant a faethir yn breifat), bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(2) Ar ôl cwblhau'r swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
Hysbysiad gan berson sydd eisoes yn maethu plentyn yn breifat
5.
—(1) Rhaid i berson sy'n maethu plentyn yn breifat ond nad yw wedi hysbysu'r awdurdod lleol priodol yn unol â rheoliad 3 hysbysu'r awdurdod lleol priodol ar unwaith.
(2) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys cymaint o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 ag y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei darparu.
Hysbysiad bod plentyn yn mynd i fyw gyda gofalydd maeth preifat
6.
—(1) Rhaid i berson a roddodd hysbysiad o dan reoliad 3(1), o fewn 48 awr ar ôl cychwyn y trefniant, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
(2) Rhaid i riant plentyn, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(2) neu 3(3) o fewn 48 awr ar ôl i'r plentyn fynd i fyw at ofalydd maeth preifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan ddaw hysbysiad i law am blentyn a faethir yn breifat
7.
Os yw awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 5 neu 6, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf rhaid iddo drefnu bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(2) Ar ôl iddo gwblhau ei swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
Ymweliadau dilynol â phlant a faethir yn breifat
8.
—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â phob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal—
(2) Yn ychwanegol at ymweliadau a wneir yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod pob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal yn cael ymweliad gan swyddog pan wneir cais rhesymol am hynny gan y plentyn, y gofalydd maeth preifat, rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(3) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog siarad â'r plentyn ar ei ben ei hun onid yw o'r farn bod hynny'n amhriodol.
(4) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog gadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 y mae'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r swyddog wneud adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y trefniant maethu preifat yn cychwyn pan ddaw'r awdurdod lleol yn ymwybodol ohono.
Hysbysiad o newid mewn amgylchiadau
9.
—(1) Rhaid i ofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol—
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi—
(3) Os bydd cyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat yn ardal awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r awdurdod y cyflwynir yr hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn anfon at yr awdurdod dros yr ardal—
(4) Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o unrhyw newid yng nghyfeiriad personol y person hwnnw.
Hysbysiad o ddiwedd trefniant maethu preifat
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i unrhyw berson a fu'n maethu plentyn yn breifat, ond sydd wedi gorffen gwneud hynny, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o fewn 48 awr a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
(2) Os bu unrhyw berson yn maethu plentyn yn breifat, ond mae wedi gorffen gwneud hynny, oherwydd bod y plentyn wedi marw, yn yr hysbysiad rhaid i'r person hwnnw nodi mai dyna yw'r rheswm.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os bydd y gofalydd maeth preifat yn bwriadu ailddechrau'r trefniant maethu preifat ar ôl bwlch nad yw'n fwy na 27 diwrnod ond—
rhaid i'r gofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr ar ôl iddo roi'r gorau i'w fwriad neu, yn ôl y digwydd, ar ôl i'r bwlch ddod i ben.
(4) Rhaid i unrhyw riant i blentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod lleol o dan reoliad 3(2) neu (3), hysbysu'r awdurdod lleol priodol o ddiweddu'r trefniant maethu preifat a rhaid iddynt gynnwys hefyd yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
Ffurf yr hysbysiadau
11.
Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
Monitro cyflawni'r swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf
12.
Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r dull y mae'n cyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf a rhaid iddo benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.
Dirymu a darpariaeth drosiannol
13.
Dirymir Rheoliadau Plant (Trefniadau ar gyfer Maethu Preifat) 1991[2] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio bod unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hynny cyn bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael ei drin fel pe bai wedi'i roi o dan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
2.
Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c) addasrwydd y llety arfaethedig;
(ch) gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;
(d) addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(dd) bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;
(e) bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;
(f) bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;
(ff) bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g) sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac
(ng) a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c) bod datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad yn briodol a boddhaol;
(ch) bod anghenion y plentyn sy'n codi o'i gred grefyddol, ei darddiad hiliol, a'i gefndir diwylliannol ac ieithyddol yn cael eu diwallu;
(d) bod y trefniadau ariannol ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal yn gweithio;
(dd) gallu'r gofalydd maeth preifat i edrych ar ôl y plentyn;
(e) addasrwydd y llety;
(f) bod y trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol, wrth law, ac yn benodol, fod y plentyn wedi'i roi ar restr person sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
(ff) y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g) safon y gofal a roddir i'r plentyn;
(ng) addasrwydd aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;
(h) a yw'r gofalydd maeth preifat, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen;
(i) sut y gwneir penderfyniadau am ofal y plentyn; ac
(l) a yw'r cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, neu unrhyw berson arall y trefnwyd cyswllt ag ef, yn foddhaol ar gyfer y plentyn.