BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 944 (Cy.93)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060944w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 944 (Cy.93)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(3), 10, 11, 16(2), 21, 23(1) a (2), 24, 123(1) a (2) a 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a cymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Ran, adran eu Atodlen yn gyfeiriad at Ran neu adran o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 neu at Atodlen iddi oni nodir fel arall.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003[
2].

Diwygiadau i Reoliadau 2003
     3. Diwygir Rheoliadau 2003 yn unol â rheoliadau 4 i 8.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 2003
    
4. Yn rheoliad 1(4) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli) o Reoliadau 2003—

rhodder "1993 Act" yn lle "Leasehold Reform Housing and Urban Development Act 1993";

Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau 2003
     5. —(1) Yn rheoliad 10 (cronni derbyniadau o warediadau o dir ac arno dai) o Reoliadau 2003—

Diwygio rheoliad 15 o Reoliadau 2003
    
6. Yn rheoliad 15(1) (derbyniadau heb fod yn arian) o Reoliadau 2003 ar ôl "qualifying disposal" mewnosoder—

Diwygio rheoliad 20 o Reoliadau 2003
    
7. —(1) Yn rheoliad 20 (gwariant sydd i'w ystyried yn wariant cyfalaf) o Reoliadau 2003—

Diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2003
    
8. —(1) Yn rheoliad 22 (cyfrifo isafswm darpariaeth refeniw) o Reoliadau 2003—

4[CFR − (A + HC)]

100";



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("Deddf 2003") yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu ar gyfer system cyllid cyfalaf llywodraeth leol. Defnyddiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y pwerau o dan Ddeddf 2003 i wneud Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") a oedd yn cyflwyno system newydd cyllid cyfalaf llywodraeth leol. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan yr un pwerau ar y cyfan a gwneir diwygiadau i Reoliadau 2003.

Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad o "small scale disposal", a diffiniadau eraill at ddibenion yr ymadrodd hwnnw, yn rheoliad 1(4) o Reoliadau 2003. Mae gwarediad ar raddfa fach yn warediad gan awdurdod lleol o fuddiant mewn tir ac arno dai pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cydsynio i'r gwarediad yn ddarostyngedig i'r ffaith bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni nad yw mwyafrif y tenantiaid diogel a chychwynnol yn wrthwynebus iddo. Nid yw gwarediad yn warediad ar raddfa fach onid yw cyfanswm nifer y tai annedd a waredir gan yr awdurdod yn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben ar ddyddiad y gwaredu ddim mwy na 499.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn darparu i warediadau ar raddfa fach gael eu heithrio o'r gofyniad i gronni derbyniadau wrth waredu tir ac arno dai sydd yn rheoliad 10 o Reoliadau 2003. Mae rheoliad 5 hefyd yn darparu ar gyfer cynnwys rheoliad newydd 10(9) yn Rheoliadau 2003.

Mae rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn yn eithrio gwarediadau ar raddfa fach pan fo'n rhaid penderfynu derbyniadau cyfalaf damcaniaethol ar eu cyfer o dan reoliad 15 o Reoliadau 2003.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau 2003 fel bod taliad o ardoll ar warediad o dan Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf.

Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r darpariaethau yn rheoliad 22 o Reoliadau 2003 ynghylch cyfrifo isafswm y ddarpariaeth refeniw. Diwygir y cyfrifo i sicrhau na fydd unrhyw newid yn y gofyniad yn y cyllid cyfalaf tai yn effeithio ar gyfrifo gofyniad cyllid cyfalaf cronfa'r cyngor, ac o'r herwydd cyfrifo isafswm darpariaeth refeniw cronfa'r cyngor. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2003 fel na fyddai'n ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru wneud cyfraniadau cronni i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond pan fyddai gofyniad cyllid cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai agoriadol presennol yr awdurdod lleol hwnnw, neu ofyniad cyllid cyfalaf nawdd Cyfrif Refeniw Tai agoriadol yr awdurdod lleol hwnnw, yn ddim, neu'n swm negyddol.


Notes:

[1] 2003 p.26.back

[2] O.S. 2003/3239 (Cy.319).back

[3] 1993 p.28.back

[4] 1985 c.68.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091310 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 7 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060944w.html