BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 948 (Cy.97)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060948w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 948 (Cy.97)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi 28 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo fel yr awdurdod priodol o dan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989[
2].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cynydd cyffredinol mewn ffioedd
     2. —(1) Diwygir Rheoliadau 1989, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 10A o Reoliadau 1989—

    (3) Yn rheoliad 11A(1) o Reoliadau 1989—

    (4) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1989—

    (5) Yn lle Rhan II o Atodlen 1 i Reoliadau 1989 (graddfa ffioedd), rhodder y Rhan II newydd a welir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    (6) Yn lle Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (graddfa ffioedd ceisiadau hysbysebu), rhodder yr Atodlen 2 newydd a welir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

    (7) At ddibenion paragraffau (5) a (6), y ffi taladwy rhwng 1 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2007 yw'r ffi a bennir yn yr ail golofn o'r tablau a welir yn yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn a'r ffi taladwy ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw'r ffi a bennir yn nhrydedd golofn y tablau hynny.

Diwygio Rheoliadau 1989
    
3. Yn lle rheoliad 7(1) o Reoliadau 1989, rhodder—

Dirymiad
    
4. Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2004[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 2(5)


PART II OF SCHEDULE 1 TO THE 1989 REGULATIONS


          






ATODLEN 2
Rheoliad 2 (6)

          






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach, o ran Cymru, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 ("Rheoliadau 1989").

Effaith y rheoliadau hyn yw cynyddu'r ffioedd sy'n daladwy, o ran Cymru, o dan Reoliadau 1989 o 20% o 1 Ebrill 2006 ac o 10% pellach o 1 Ebrill 2007.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r ffioedd sy'n daladwy o dan reoliadau 10A ac 11A o Reoliadau 1989, a Rhan I o Atodlen 2 iddynt. Gosodir graddfa ffioedd newydd yn lle'r hen rai sy'n daladwy o dan Ran II o Atodlen 1, ac o dan Atodlen 2, o Reoliadau 1989 yn yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 7(1) o Reoliadau 1989 i'w gwneud yn ofynnol i geisydd dalu ffi am wneud cais pellach i awdurdod cynllunio lleol pan fo'r cais pellach yn ymwneud â chais sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2736) (Cy.243).


Notes:

[1] 1990 p.8; diwygiwyd adran 303 gan baragraff 10 o Atodlen 13 i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 6(6) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) ac adran 53 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler O.S. 2004/2097 (C.89) ac, o ran Cymru, 2006/931 (C.26). Gweler hefyd adran 303(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 am ystyr "appropriate authority" ac adran 336(1) o'r Ddeddf honno am y diffiniad o "prescribed".back

[2] O.S. 1989/193, a ddiwygiwyd, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 1990/2743, 1991/2735, 1992/1817, 1992/3052, 1993/3170 ac 1997/37 ac o ran Cymru, gan O.S. 2002/1876 (Cy.185), 2002/2258 (Cy.222) a 2004/2736 (Cy.243).back

[3] O.S. 2004/2736 (Cy.243).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091319 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 11 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060948w.html