BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 Rhif 978 (Cy.101)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060978w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 978 (Cy.101)

GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU

Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006

  Wedi 29 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 5 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru
     2. Diddymir PIC.

Dirymu Gorchmynion
    
3. Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004[4] yn cael eu dirymu.

Trosglwyddo Staff
     4. Ar 1 Ebrill 2006—

Trosglwyddo pob eiddo a chofnod


    
5. Ar 1 Ebrill 2006—

Gorfodi hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau
     6. —(1) Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dirwyn i ben faterion Proffesiynau Iechyd Cymru
    
7. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.

    (3) Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2006



YR ATODLEN
Erthygl 5


TROSGLWYDDO EIDDO


Y Mae'r Gorchymyn Hwn Yn Gymwys Iddo

Mangreoedd swyddfa ar ail lawr Golate House, Heol Eglwys Fair, Caerdydd a gynhwysir mewn les dyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd(1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ar 1 Ebrill 2006 y corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru ac a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003. Mae'r Gorchymyn yn dirymu'r Gorchmynion a bennir yn erthygl 3 ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo a chofnodion. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer dirwyn i ben faterion y corff.


Notes:

[1] 2003 p.4.back

[2] O.S. 2002/253.back

[3] O.S. 2004/551 (Cy.55).back

[4] O.S. 2004/550 (Cy.54).back

[5] 1968 p.46.back

[6] 1998 p.38. back



English version



ISBN 0 11 091315 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060978w.html