BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1051 (Cy.107)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061051w.html

[New search] [Help]



STATUTORYOFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1051 (Cy.107)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 4 Ebrill 2006 
  Yn dod i rym 10 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2006.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
     2. Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[4] yw £20.00 yr wythnos.

Dirymu
     3. Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005[5] drwy hyn wedi'u dirymu.

Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau
     4. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o "liable relative", yn lle "or former spouse", rhodder ", former spouse, civil partner or former civil partner".

Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
    
5. Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau yn lle'r ffigur "£21,000" rhodder y ffigur "£21,500".

Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
    
6. Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf - Cymru)—

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
    
7. Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm nad yw'n enillion)—

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau
     8. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf i'w ddiystyru) yn lle paragraff 24 rhodder—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis—Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ei angen at eu hanghenion personol. O 10 Ebrill 2006 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £20.00 yr wythnos.

Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae'r diwygiadau yn darparu i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd ‰ phobl briod ac i daliadau cymorth mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel cyfalaf ac fel incwm.

Mae codiadau blynyddol hefyd yn y terfynau cyfalaf a'r diystyriad ar gyfer y rhai sy'n cael credyd pensiwn.


Notes:

[1] 1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S.1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back

[4] 1948 p.29.back

[5] O.S. 2005/ 663 (Cy.53).back

[6] Wedi'i fewnosod gan O.S. 1996/602 a'i ddiwygio gan O.S. 1997/485.back

[7] Wedi'i ddiwygio gan O.S. 2003/2530.back

[8] 2002 c.38.back

[9] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091320 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 12 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061051w.html